Mis Hanes Pobl Ddu: Dathlu a Dyrchafu
Mae Prifysgol Bangor yn eich gwahodd i ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n addas i deuluoedd fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu 2023 er mwyn Dathlu a Dyrchafu llais a chyfraniadau merched du yng Ngogledd Cymru.
Dewch i glywed sgwrs gan yr Athro Charlotte Williams OBE. Mae’r Athro Williams yn gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor ac yn Athro er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol De Cymru. Hi yw awdur 'A Tolerant Nation?' a’r gyfrol arobryn 'Sugar and Slate', sef hunangofiant yn archwilio hanes cydgysylltiedig Cymru, Affrica a'r Caribî.
Dewch i wylio’r actores a’r gyn-fyfyrwraig o Brifysgol Bangor Marie-Pascale Onyeagoro-Okonkwor yn perfformio’r fonolog 'I am African Everywhere' a gwylio dangosiad o’r ffilm fer 'People like us' gan y gwneuthurwr ffilmiau arobryn Lal Davies.
Dewch i flasu bwydydd blasus y cydweithrediad yn ystod y Mis Hanes Pobl Ddu rhwng gwasanaeth arlwyo Prifysgol Bangor a'r ddynes fusnes lwyddiannus leol Maggie Ogunbanwo o 'Maggie's African Twist'.
Dewch i edrych ar yr arddangosfa gan staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor yn tynnu sylw at y menywod sydd wedi dylanwadu ar eu gwaith a'u hastudiaethau yn ogystal â chwrdd â myfyrwyr Cymdeithas Affricanaidd Caribïaidd Prifysgol Bangor.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond cofiwch gofrestru fel y gellir darparu ar gyfer pawb.