Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol – Dysgu Gwyda’n Gilydd am Lesiant
Dathliad blynyddol o ymchwil a gwybodaeth am fodau dynol a chymdeithas yw Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithas sy’n dathlu ugain-mlwyddiant yn 2022. Mae’n gyfle i unrhyw un archwilio pynciau sy’n ymwneud â’r gwyddorau cymdeithas – o iechyd a lles i droseddu, cydraddoldeb, addysg a hunaniaeth – mewn digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan ymchwilwyr o brifysgolion y Deyrnas Unedig.
Un o themâu allweddol gŵyl 2023 yw ‘lles gydol oes’. Bydd llawer o'n digwyddiadau’n archwilio agweddau ar iechyd corfforol a meddyliol, gan gwmpasu pob oedran, ar lefel unigol a chymdeithasol. Byddwn hefyd yn dathlu 75 mlwyddiant sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Caiff yr ŵyl ei harwain a’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n cefnogi ymchwil a hyfforddiant ym maes gwyddorau cymdeithas.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd, i grwpiau diddordeb arbennig ac i'r trydydd sector archwilio sut mae gwyddorau cymdeithas yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ac at y modd yr ydym yn archwilio iechyd a lles, a sut maent yn dylanwadu ar ddatblygiad polisïau ac yn hyrwyddo a chefnogi mentrau iechyd a lles mewn cymdeithas. Bydd yn rhoi cyfle i fynychwyr grwydro o amgylch amrywiaeth o stondinau ac arddangosfeydd rhyngweithiol a gynhelir gan Ymchwilwyr Gwyddorau Cymdeithas o brifysgolion Bangor, Caerdydd ac Abertawe, gan gwmpasu ystod eang o bynciau megis; niwroamrywiaeth, iechyd meddwl, newid agwedd, caethwasiaeth fodern, argyfwng hinsawdd, rhyw a hunaniaeth, anghydraddoldebau cymdeithasol, deallusrwydd artiffisial, dementia a chadwraeth amgylcheddol.
Bydd perfformiadau cerddorol trwy gydol y dydd hefyd, gan Gôr Siambr Prifysgol Bangor a bydd Wenting Cai yn perfformio ar y Guzheng
Ìý
Ìý