Cynlluniau dŵr bach yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon: Effaith y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol ar y dŵr sydd ar gael a chynhyrchu pŵer
Llefydd Newid Hinsawdd ('PloCC')
Mae cynlluniau ynni dŵr bach ar afonydd yn sector sy’n tyfu yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Maent yn chwarae rhan fach ond pwysig o ran datgarboneiddio’r grid, cyfrannu at y targedau cenedlaethol i leihau allyriadau, a chynnig buddion cymunedol. Fodd bynnag, mae’r newid yn yr hinsawdd at y dyfodol yn bygwth newid maint llif ac amseriad y dŵr, gan effeithio ar faint o ddŵr sydd ar gael i'w ddefnyddio mewn cynlluniau o'r fath, a’u potensial i gynhyrchu pŵer. Yn ogystal, mae gan Gymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon reolau gwahanol ar gyfer faint o ddŵr y gellir ei gymryd o’r afonydd ar gyfer ynni dŵr. Mae'r gwahaniaethau yn y rheoliadau cenedlaethol yn effeithio ymhellach ar amseriad a maint y pŵer a gynhyrchir, ac maent yn debygol o arwain at amrywiad yn y ffordd bydd cynlluniau’r gwahanol wledydd yn profi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Yn y sgwrs hon, bydd Drt Richard Dalison yn cyflwyno gwaith sy’n mesur effaith y senario waethaf o ran y newid yn yr hinsawdd a y dyfodol ar ddefnyddio dŵr a chynhyrchu ynni dŵr mewn dros 500 o safleoedd yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Defnyddir modelau hydrolegol a rhagamcanion diweddaraf y Deyrnas Unedig ar gyfer y newid yn yr hinsawdd, a bydd canlyniadau cenedlaethol yn cael eu cyflwyno a'u cymharu. Trafodir hefyd y ffordd orau o gynllunio a dylunio cynlluniau ynni dŵr ar afonydd at y dyfodol i gynhyrchu’r pŵer mwyaf posib, ac amddiffyn yr amgylchedd yr un pryd.
Ìý