Gweithdy: Cysylltu cestyll a môr, pobl a gwyddoniaeth
Mae Prosiect Clicher yn brosiect a ariennir gan . Mae’n mynd i’r afael â sut y gall treftadaeth ddiwylliannol (cestyll, pentrefi, llechi), a’r gwerth a roddwn arni, helpu i lywio dealltwriaeth well o hinsawdd sy’n newid a’r risg mae hynny’n ei achosi o ran lleoliad ein hasedau diwylliannol sydd ar/neu’n agos at arfordir gogledd Cymru.
Rydym yn chwilio am gyfranogwyr (h.y. pobl leol a grwpiau gweithredu cymunedol lleol, cyrff a sefydliadau proffesiynol, llunwyr polisi a rhanddeiliaid) sy’n pryderu am y risg o godiad yn lefel y môr a’r posibilrwydd o golli ein treftadaeth ddiwylliannol a’n hasedau cyffredin. Nod y ddau weithdy (ar 21ain a 27ain Chwefror) yw dod â’r gymuned ynghyd i helpu i lunio cyd-ddealltwriaeth a all gefnogi’r gymuned ehangach a llunwyr polisi i fabwysiadu dulliau mwy cynhwysol o gyfathrebu risgiau newid hinsawdd a chefnogi cadwraeth ein treftadaeth ddiwylliannol.
Rydym yn cynnal y gweithdai ym Mhlas Tan y Bwlch yng nghanol amgylchedd prydferth Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r digwyddiadau’n rhad ac am ddim i’w mynychu, a byddwn yn darparu lluniaeth a chinio poeth!
Fformat y ddau weithdy fydd:
- Adrodd straeon i gasglu naratifau personol/profiadau byw ar safbwyntiau cymunedol ynghylch treftadaeth ddiwylliannol a newid hinsawdd.
- Trafodaethau cyfranogol i archwilio beth sydd wedi gweithio ar gyfer cyfathrebu risg a’r bygythiad newid hinsawdd, a beth sydd heb weithio.
- Cydgynhyrchu ffyrdd dylanwadol a chynhwysol o gefnogi cymunedau a rhanddeiliaid i rannu gwybodaeth, gwerthfawrogi treftadaeth ac ymaddasu i newid yn yr hinsawdd.
Trefnwyr: Dr Giuseppe Forino (Prif Ymchwilydd), Dr Lynda Yorke (Cyd-ymchwilydd), Dr Gary Robinson (Cyd-ymchwilydd) a Dr Martin Austin (Cyd-ymchwilydd).
Manylion cyswllt: g.forino@bangor.ac.uk neu l.yorke@bangor.ac.uk
*Mae nifer cyfyngedig o fwrsariaethau teithio (hyd at £50) ar gael ar gais. Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy'n dangos angen rhesymol amdano.