Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r BA Ieithoedd Modern ym Mangor yn rhoi cyfle unigryw i chi astudio hyd at dair iaith mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol a bywiog yn un o ardaloedd harddaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn cynnig Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg a Tsieinëeg ar lefel gradd, yn ogystal â modiwlau Galiseg. Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i ddarparu ar gyfer myfyrwyr sydd wedi astudio un neu fwy o ieithoedd i’w Lefel A yn ogystal â chynnig llwybrau i fyfyrwyr sy'n dechrau dysgu iaith o'r dechrau.
Ar y radd Ieithoedd Modern hon gallwch ddewis astudio Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg ar ei hun neu gyda hyd at ddwy iaith arall.ÌýGallwch hefyd gyfuno astudio Ffrangeg, Sbaeneg neu Almaeneg gyda rhywfaint o Eidaleg neu Tsieinëeg pam fyddwch yn dewis astudio mwy na un iaith.Ìý
Gallwch ddewis arbenigo mewn un iaith neu ehangu eich sylfaen wybodaeth trwy ddewis dwy neu dair iaith. Gallwch barhau ag iaith rydych wedi bod yn ei dysgu yn yr ysgol ac ychwanegu un neu hyd yn oed ddwy iaith newydd at eich set sgiliau. Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i roi sgiliau iaith a chyfathrebu rhagorol i chi yn ogystal â gwella eich dealltwriaeth o'r diwylliannau y mae’r ieithoedd yn perthyn iddynt. Mae ein staff yn ymchwilwyr uchel eu parch a byddwch yn dysgu am iaith, diwylliant a hanes gan arbenigwyr go iawn.
Un o elfennau pwysig y radd yw'r flwyddyn dramor (blwyddyn 3) pan fyddwch yn treulio amser mewn un neu fwy o wledydd yn datblygu eich sgiliau iaith ac yn ennill profiad gwerthfawr i’ch paratoi at y flwyddyn olaf ac, yn y pen draw, at eich gyrfa yn y dyfodol. Yn ystod y flwyddyn dramor, gallwch ddewis astudio yn un o'n prifysgolion partner niferus neu fynd i fyd gwaith fel cymhorthydd iaith Saesneg neu ar leoliad gwaith. Mae galw mawr am y sgiliau a ddysgir wrth wneud gradd iaith gan gyflogwyr. Yn ogystal â'ch galluoedd ieithyddol, byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu, dadansoddi a chyflwyno rhagorol yn ogystal â lefel uchel o ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau rheoli amser.r
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Caiff Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieinëeg a Eidaleg eu dysgu yn y flwyddyn gyntaf.
- Strwythur gradd hyblyg er mwyn teilwra'r cwrs i gyd-fynd â’ch diddordebau.
- Cyfle gwych i ehangu eich gorwelion yn ystod blwyddyn dramor.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r cwrs BA Ieithoedd Modern wedi ei gynllunio i'ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau iaith flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda chefnogaeth tîm o staff brwdfrydig a phrofiadol. P'un a ydych yn parhau ag iaith rydych eisoes wedi ei hastudio yn yr ysgol neu'n dechrau iaith newydd o'r dechrau, cewch eich dysgu mewn grwpiau bach gan ddefnyddio dulliau addysgu rhyngweithiol. Fel rheol, caiff dosbarthiadau iaith eu dysgu yn yr iaith ei hun ac mae’r dosbarthiadau wedi eu cynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth o ramadeg a'ch sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. Yn ogystal, mae'r deunyddiau a ddefnyddir yn y dosbarth yn cael eu dewis yn ofalus i'ch cynorthwyo i ddeall yn well diwylliannau'r gwledydd y mae’r iaith yn perthyn iddynt fel eich bod yn gallu gosod yr iaith yn ei chyd-destun diwylliannol.Ìý
Mae'r BA Ieithoedd Modern yn cynnig cryn dipyn o hyblygrwydd. Yn dibynnu ar y cyfuniad o bynciau byddwch yn eu dewis, gallwch benderfynu a ddylid canolbwyntio'n fwy penodol ar ddysgu ieithoedd (er enghraifft, trwy ddewis astudio tair iaith) neu a ddylid arbenigo a dysgu mwy am iaith benodol a'i diwylliant (er enghraifft, trwy ddewis canolbwyntio ar un neu ddwy iaith). Os byddwch yn penderfynu arbenigo, byddwch yn gallu dewis o amrywiaeth o fodiwlau diwylliannol a fydd yn eich galluogi i astudio gwahanol agweddau megis ffilm, llenyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth. Cynlluniwyd yr asesiadau i adlewyrchu defnydd iaith go iawn a'ch herio i gyrraedd eich lefel orau. Yn ogystal â dulliau traddodiadol fel cyfieithu ac ysgrifennu traethodau, gofynnir i chi gyflwyno cyflwyniadau, gweithio ar flogiau a datblygu eich sgiliau beirniadol a chreadigol. Bydd pob myfyriwr hefyd yn ymchwilio ac yn ysgrifennu traethawd hir tuag at ddiwedd eu gradd, sy'n gyfle gwych i arddangos eich sgiliau a'ch gwybodaeth wrth weithio ar bwnc o'ch dewis eich hun.Ìý
Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithoedd Modern (Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Tsieinëeg a Eidaleg) BA (Hons).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Ieithoedd Modern
- Canolfan Iaith lle gallwch weithio ar eich sgiliau iaith.
- Ystafelloedd adnoddau iaith-benodol lle gallwch gael gafael ar ddeunyddiau i hybu eich sgiliau iaith a'ch gwybodaeth ddiwylliannol.
- Llyfrgell DVD Ieithoedd Modern sy'n cynnwys cannoedd o ffilmiau iaith dramor y gallwch eu benthyg am ddim.
- Mannau astudio pwrpasol.
- Llyfrgell ffilmiau.
- Cefnogaeth bwrpasol i’r flwyddyn dramor.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer holl gyrsiau Ieithoedd Modern: Ffafrir iaith fodern berthnasol. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio un iaith neu fwy, yn ogystal â chynnig llwybrau i'r rhai sy'n dechrau iaith o'r newydd - nid oes gofyniad iaith fodern ar gyfer llwybr iaith y dechreuwyr.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Iaith Fodern berthnasol yn ddelfrydol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr); Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn iaith fodern berthnasol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr)
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Ar gyfer holl gyrsiau Ieithoedd Modern: Ffafrir iaith fodern berthnasol. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio un iaith neu fwy, yn ogystal â chynnig llwybrau i'r rhai sy'n dechrau iaith o'r newydd - nid oes gofyniad iaith fodern ar gyfer llwybr iaith y dechreuwyr.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Iaith Fodern berthnasol yn ddelfrydol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr); Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn iaith fodern berthnasol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr)
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae’r BA Ieithoedd Modern yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy i fyfyrwyr, sgiliau a werthfawrogir yn fawr ym myd gwaith. Adlewyrchir hyn yn yr amrywiaeth drawiadol o lwybrau gyrfa y mae ein myfyrwyr yn eu dilyn yn y pen draw. Mae rhai yn canolbwyntio ar iaith. Mae llawer yn mynd ymlaen i hyfforddi fel athrawon iaith ar lefel ysgol gynradd neu uwchradd. Mae eraill yn manteisio ar fynediad at hyfforddiant arbenigol ym Mangor i hyfforddi i fod yn athrawon Saesneg dramor. Mae rhai hyd yn oed yn mynd ymlaen i wneud astudiaeth ôl-radd gyda'r bwriad o weithio yn y sector addysg uwch.
Gyrfa boblogaidd arall yw gyrfa cyfieithydd, naill ai ar eich liwt ei hun neu mewn cwmni, gyda chyfleoedd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Ond mae ieithoedd hefyd yn cael eu gwerthfawrogi mewn amrywiaeth enfawr o yrfaoedd. Rydym yn gweld myfyrwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn proffesiynau lle mae ieithoedd yn allweddol i roi mantais gystadleuol iddynt. Ymhlith yr enghreifftiau mae gyrfaoedd mor amrywiol â pheilot i gwmni awyrennau, sylwebydd chwaraeon neu swyddog rhyngwladol prifysgol. ÌýMae rhai hefyd wedi datblygu eu hochr entrepreneuraidd i ddefnyddio eu hieithoedd i sefydlu busnesau llwyddiannus eu hunain, er enghraifft, asiantaeth ysgrifennu copi pwrpasol neu gwmni ailgylchu gwerth miliynau o bunnoedd. Yn y bôn, mae gradd mewn ieithoedd yn allwedd i agor drysau ym mhob cwr o’r byd gwaith, ac yn wir, ym mhob cwr o’r byd i gyd. Mae cyfran fawr o'n graddedigion yn gweithio dramor ac mewn swyddi proffesiynol o safon uchel.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwnÌý'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý