Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Dwylo yn teipio ar liniadur a dwylo ar lyfr agored

Ieithyddiaeth a Seicoleg BA (Anrh) Israddedig - Mynediad: Medi 2025/26*

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cod UCAS Q1C8
  • Cymhwyster BA (Anrh)
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Myfyriwr yn siarad i mewn i'r meic mewn labordy seineg

Darllen mwy: Ieithyddiaeth

Bydd astudio ieithyddiaeth yn eich galluogi i ddysgu am nifer o agweddau ar iaith ddynol, ei deall a'i dehongli. Byddwch yn astudio 'gwyddoniaeth' iaith, gan gynnwys y synau posibl a ddefnyddir mewn lleferydd a'u cyfuniadau (ffoneteg, ffonoleg), sut mae geiriau'n cael eu cronni trwy forffoleg), beth sy'n gwahaniaethu brawddegau oddi wrth resi o eiriau (cystrawen), ystyr (semanteg a phragmateg), effaith cymdeithas, diwylliant a normau ar ddefnydd iaith (sosioieithyddiaeth) a sut mae ieithoedd yn newid dros amser.

Gwirfoddolwr yn cymryd rhan mewn arbrawf ar weithgaredd yr ymennydd

Darllen mwy: Seicoleg

Seicoleg yw'r astudiaeth wyddonol o'r modd mae pobl yn ymddwyn, yn teimlo, yn meddwl ac yn dysgu.ÌýFel gwyddoniaeth ac fel proffesiwn, mae seicoleg yn gwneud gwahaniaeth i bobl yn y byd go iawn, trwy wella ansawdd bywyd mewn amrywiaeth eang o feysydd. Rydym yn falch o'n cryfderau ym maes addysgu, dysgu ac ymchwil, a bydd hyn yn sicrhau y byddwch yn dysgu am wyddoniaeth a chymhwyso seicoleg gan ymchwilwyr a darlithwyr o'r radd flaenaf.Ìý

Myfyrwyr yn cymdeithasu y tu allan i Pontio

Darllen mwy: Saesneg

Mae Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn cwmpasu Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg ac Ieithyddiaeth.ÌýBydd astudioÌýIaith SaesnegÌýyn eich cyflwyno i'r offer a'r dulliau a ddefnyddir i archwilio a disgrifio'r holl agweddau hynny ar y Saesneg a mwy, a hynny’n systematig a thrylwyr.ÌýMae astudioÌýLlenyddiaeth SaesnegÌýyn rhoi cyfle i ddatblygu gwybodaeth drylwyr o destunau llenyddol, theori, hanes a beirniadaeth.ÌýMaeÌýIeithyddiaeth, fel y gwyddorau oll, yn cynnwys astudiaeth systematig o'r patrymau a'r rheoleidd-dra a geir mewn data lleferydd ac iaith.Ìý

Ffeithiau Allweddol gan Darganfod Prifysgol

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!

[0:07] Welcome to Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithyddiaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithyddiaeth llwyddiannus ym Mangor?Ìý
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithyddiaeth ym Mangor?Ìý
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ieithyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý

*Mae'r flwyddyn mynediad yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd mae'r cwrs yn cychwyn ynddi yn hytrach na'r flwyddyn galendr. E.e. bydd gan gwrs sy'n cychwyn ym Mawrth 2025 ddyddiad 'Mynediad Mawrth 2024/25' gan fod y flwyddyn academaidd yn cychwyn ym Medi 2024/25. Yn yr un modd, bydd gan gwrs sy'n cychwyn yn Ionawr 2025 y dyddiad 'Mynediad Ionawr 2024/25' gan mai 2024/25 yw'r flwyddyn academaidd.