Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r radd hon Meistr mewn Swoleg gydaÌýPhrimatolegÌýyn rhaglen israddedig estynedig sy’n caniatáu i chi raddio naill ai gyda BSc (Anrh) ar ddiwedd y drydedd flwyddyn neu gyda gradd Meistr ar ddiwedd y bedwaredd flwyddyn.ÌýÌýÌýÌý
Mae'rÌýprimatiaidÌý(epaod, mwncïod,Ìýtarsieriaid, lemyriaid aÌýlorisiaid) yn wynebu argyfwng difodiant gan fod llawer ohonynt yn arbenigol o ran euÌýbioleg a'u hecoleg ac yn byw mewn rhannau o'r byd sy'n arbennig o agored i golli cynefinoedd a diraddiad y cynefinoedd. Nhw hefyd yw'r grŵp o anifeiliaid yr ydym yn perthyn iddynt, felly maent yn darparu ffenestr y gallwn ddehongli gwreiddiau esblygiadol dynol drwyddi.Ìý
Bydd y radd hon yn rhoi hyfforddiantÌýswolegolÌýeang i chi gyda gwybodaeth uwch amÌýbrimatiaid. Fel swolegwyr, byddwch yn edrych ar yr amrywiaeth lawn o anifeiliaid, eu hesblygiad, ymddygiad, ecoleg, anatomeg, ffisioleg a datblygiad. FelÌýprimatolegwyr, byddwch yn cymryd modiwlau arbenigol i adeiladu dealltwriaeth fanwl o'rÌýprimatiaidÌýa datblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ymwneud â’u hymchwil a'u cadwraeth.Ìý
Gan edrych i'r gorffennol a'r presennol, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol gadarn o hanes esblygiadol ac amrywiaeth ac addasiadau cyfredol yÌýprimatiaid. Gan edrych o'r presennol i'r dyfodol, byddwch hefyd yn datblygu eich meddwl a'ch sgiliau i ddeall, a , gobeithio, mynd i'r afael â rhai o'r heriau cadwraeth niferus y maeÌýprimatiaidÌýyn eu hwynebu yn y gwyllt.Ìý
Cewch gyfle i gael amrywiaeth o brofiadau, yn y labordy ac yn y maes, gartref a thramor, tra’n dysgu sgiliau trosglwyddadwy sy'n gysylltiedig â hyfforddiant gwyddonol, sgiliau TG a dadansoddi data,Ìý ysgrifennu, cyfathrebu gwyddonol. Gallwch hefyd ddilyn cwrs maesÌýprimatolegÌýdewisol i weld a dysgu amÌýbrimatiaidÌýyn eu cynefin naturiol (e.e. ym Mharc CenedlaetholÌýKibaleÌýyn Uganda).Ìý
Rhaglen israddedig estynedig yw’r cwrs MZool sy’n caniatáu i fyfyrwyr raddio naill ai gyda BSc ar ddiwedd Blwyddyn 3 neu gyda gradd Meistr ar ddiwedd Blwyddyn 4.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Bydd egin-brimatolegwyr yn rhan o ysgol sydd â grŵp ymchwil primatoleg cadarn sy'n dal i dyfu. Yno gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil parhaus a rhyngweithio â staff arbenigol.Ìý
- Mae ein cyfleusterau addysgu rhagorol yn cynnwys amgueddfa swoleg gyda chasgliad amrywiol o sbesimenau fertebratau ac infertebratau, gan gynnwys primatiaid, casgliad cynyddol o gastiau ffosiliau primatiaid nad ydynt yn ddynol a phrimatiaid dynol cynnar, acwaria môr a dŵr croyw a gardd fotaneg ar lannau'r Fenai.Ìý
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn, bydd gofyn i fyfyrwyr astudio 120 o gredydau’r flwyddyn gyda modiwlau fydd yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymarferion rhyngweithiol, yn ogystal â theithiau maes a thiwtorialau ym mlwyddyn 1 a 2.Ìý Mae’r flwyddyn olaf, blwyddyn 4, yn cynnwys hyfforddiant sgiliau meintiol uwch a gwaith annibynnol ar broject ymchwil uwch, dan oruchwyliaeth aelod staff, ar bwnc sy'n cyd-fynd â diddordeb y myfyriwr.Ìý Mae’r modiwlau’n mynd yn fwy arbenigol wrth i chi fynd trwy’r radd ac mae nifer y modiwlau gorfodol yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall, felly mae gennych fwy o ddewis o ran sut y byddwch yn arbenigo yn nes ymlaen yn y radd.Ìý Asesir trwy gyfuniad o arholiadau ac asesu parhaus. Mae modiwlau cyfrwng Cymraeg ar gael hefyd.Ìý
Mae’r radd Meistr mewn Swoleg gydaÌýPhrimatolegÌýyn rhaglen israddedig estynedig sy’n caniatáu i fyfyrwyr raddio naill ai gyda BSc (Anrh) arÌýddiwedd y drydedd flwyddyn neu gyda gradd Meistr ar ddiwedd y bedwaredd flwyddyn.ÌýÌý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Swoleg gyda Phrimatoleg MZool.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan gynnwys gradd C mewn Bioleg os yn astudio un pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth neu Daeareg);Ìý²Ô±ð³ÜÌýradd B mewn Bioleg os nad yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDDÌý gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth. (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DDM - DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): DDM - DDDÌýÌýgan gynnwys 4 modiwl BiolegÌý(Mae'r modiwlau Bioleg a dderbynnir yn cynnwys: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Systemau Biolegol Anifeiliaid; Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg; Etifeddiad a Geneteg; Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad; Arolygon Poblogaeth; Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýGan gynnwys H5 mewn Bioleg
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch**:ÌýPasio yn ofynnol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
TGAU: gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Chymhwyster Gwyddoniaeth Ddwbl, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 128 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan gynnwys gradd C mewn Bioleg os yn astudio un pwnc gwyddoniaeth arall (Cemeg, Ffiseg, Mathemateg, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth neu Daeareg);Ìý²Ô±ð³ÜÌýradd B mewn Bioleg os nad yn astudio pwnc gwyddoniaeth arall.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDDÌý gan gynnwys Teilyngdod mewn 4 modiwl Bioleg. Modiwlau a dderbynnir: Bioleg Anifeiliaid; Anatomeg a Ffisioleg Anifeiliaid; Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Bridio Anifeiliaid a Geneteg; Technegau Biocemeg a Biocemegol; Biocemeg a Microbioleg; Hanfodion Gwyddoniaeth; Geneteg a Pheirianneg Genetig; Etifeddiad a Thrin Genetig; Ffisioleg systemau'r Corff Dynol; Ffisioleg Rheoleiddio ac Atgenhedlu Dynol; Poblogaethau Bywyd Gwyllt, Ecoleg a Chadwraeth. (Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma Technegol Estynedig CaergrawntÌýmewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DDM - DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): DDM - DDDÌýÌýgan gynnwys 4 modiwl BiolegÌý(Mae'r modiwlau Bioleg a dderbynnir yn cynnwys: Ymddygiad a Chyfathrebu Anifeiliaid; Systemau Biolegol Anifeiliaid; Cadwraeth Bywyd Gwyllt ac Ecoleg; Etifeddiad a Geneteg; Cysyniadau Ecolegol a’u Cymhwysiad; Arolygon Poblogaeth; Ecoleg a Chadwraeth. Caiff modiwlau eraill sy'n gysylltiedig â Bioleg eu hystyried fesul achos.)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýGan gynnwys H5 mewn Bioleg
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch**:ÌýPasio yn ofynnol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gyrfaoedd
Mae ein myfyrwyr bellach yn gweithio ym maes rheoli bywyd gwyllt,ÌýymgynghoriaethÌýamgylcheddol, sefydliadau’r llywodraeth, cyrff anllywodraethol fel yr YmddiriedolaethÌýGenedlaethol neu'r RSPB, dysgu a'r cyfryngau lleol a chenedlaethol.Ìý
Maent hefyd wedi mynd ymlaen i amrywiaeth o raglenni astudio ôl-radd, gan gynnwys graddau ymchwil mewnÌýprimatolegÌýac esblygiad dynol.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýSwoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý