Mae Prifysgol Bangor yn arwain un o wyth project a ariennir gan Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig i chwyldroi ein gallu i deithio ymhellach i鈥檙 gofod 鈥 a hyd yn oed teithio i鈥檙 blaned Mawrth.
Bydd y cyllid o 拢1.6 miliwn yn cefnogi ymchwil i wneud teithio i鈥檙 gofod yn fwy diogel ac effeithlon, gan ddefnyddio technolegau rheoli o bell a defnyddio cyflenwadau y gellir dod o hyd iddynt yn y gofod i gynnal gofodwyr a llongau gofod.
Bydd yr ymchwil sy鈥檔 cael ei gyllido ym Mhrifysgol Bangor, dan arweiniad Dr Phylis Makurunje, yn defnyddio technegau gweithgynhyrchu adiol i greu tanwyddau niwclear ar gyfer gyriant gofod. Mae systemau tanwydd niwclear sefydlog o'r fath yn hanfodol i alluogi teithiau i ddyfnder y gofod.
Bydd y prosesau newydd sy鈥檔 cael eu datblygu gan wyddonwyr o Sefydliad Dyfodol Niwclear Bangor yn galluogi datblygu a gweithgynhyrchu amrywiol gyfluniadau a dyluniadau tanwydd na ellir eu gwireddu鈥檔 hawdd trwy ddulliau gweithgynhyrchu confensiynol. Bydd yr ymchwil yn creu tanwyddau niwclear sy鈥檔 cynnwys syrconiwm metelaidd a seramig yn defnyddio dull gweithgynhyrchu adiol ac yna yn asesu eu perfformiad.
Meddai鈥檙 Athro mewn Deunyddiau Niwclear a Chyd-gyfarwyddwr Sefydliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor, yr Athro Simon Middleburgh: 鈥淏ydd y project hwn yn harneisio鈥檙 arbenigedd sydd gennym ym maes tanwydd niwclear yn y Sefydliad Dyfodol Niwclear ac yn ei gymhwyso i un o鈥檙 cymwysiadau mwyaf cyffrous posibl, sef archwilio鈥檙 gofod. Unwaith y bydd llong ofod yn teithio y tu hwnt i'n planed ni, ni all ddibynnu ar yr haul am ynni mwyach. P诺er niwclear yw鈥檙 unig ffordd sydd gennym ar hyn o bryd i ddarparu鈥檙 p诺er ar gyfer teithio yn y gofod am gyfnod hir.鈥
Dywedodd George Freeman, y Gweinidog Gwladol sy鈥檔 gyfrifol am y Gofod yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg, a ffurfiwyd yn ddiweddar:
鈥淵 gofod yw'r oror, y labordy a鈥檙 man profi eithaf i dechnoleg.
Mae hanes hir y Deyrnas Unedig o arwain mewn gwyddoniaeth ac ym maes archwilio dyfnder y gofod yn allweddol i ddeall cysawd ein haul a tharddiad bywyd, ac i greu cyfleoedd ar gyfer sector twf uchel Technoleg Gofod.
Mae鈥檙 cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o strategaeth y llywodraeth i ddefnyddio ein buddsoddiad o 拢5 biliwn yng ngwyddoniaeth a thechnoleg y gofod i dyfu ein sector gofod masnachol, sy鈥檔 werth 拢16.5 biliwn, i greu busnesau, swyddi a chyfleoedd ar gyfer yfory, a chlystyrau gofod o Gernyw i鈥檙 Alban.鈥
Dywedodd Prif Weithredwr Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig, Dr Paul Bate:
鈥淢ae鈥檙 cysyniad o archwilio鈥檔 ddyfnach i鈥檙 gofod 鈥 boed hynny鈥檔 golygu dychwelyd i wyneb y lleuad drwy鈥檙 rhaglen Artemis, neu weithio allan sut y gallem deithio i鈥檙 blaned Mawrth a goroesi arni 鈥 yn uchelgais byd-eang sydd wedi bod yn tyfu ers y tro cyntaf i ddynolryw ymgyrraedd at y gofod yn y 1950au.
Bydd cefnogi technolegau sy鈥檔 gwireddu鈥檙 uchelgais hwnnw鈥檔 helpu i godi proffil rhyngwladol sgiliau ac arbenigedd gofod y Deyrnas Unedig. Nid yn unig y mae hyn wrth reswm yn datgloi cyfleoedd busnes ar hyd y gadwyn gyflenwi, ond mae鈥檔 helpu i ysbrydoli pobl ifanc i ystyried y posibilrwydd o gael gyrfa yn y gofod heb orfod gadael y Deyrnas Unedig.
Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i sector archwilio鈥檙 gofod, ac edrychaf ymlaen at weld pa mor bell y bydd canlyniadau鈥檙 projectau hyn yn mynd 芒 ni.鈥
Dangosodd yr adroddiad diweddaraf am faint ac iechyd sector gofod y Deyrnas Unedig fod o leiaf 47,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 gofod mewn bron i 1,300 o sefydliadau gofod yn y Deyrnas Unedig. Nododd hefyd gynnydd o 19% mewn buddsoddiad ymchwil a datblygu sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gofod hyd at 2021.