Egwyddorion Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn mabwysiadu鈥檙 egwyddorion sy鈥檔 sail i waith Comisiynydd y Gymraeg, sef:

  • Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na鈥檙 Saesneg yng Nghymru
  • Dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny

Mae hyn yn golygu::

  1. Bydd y Brifysgol yn annog ac yn cefnogi myfyrwyr, staff ac eraill i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg.
  2. Bydd cyfleoedd i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol yn cael eu hyrwyddo鈥檔 rhagweithiol.
  3. Bydd ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd i astudio eu meysydd pwnc drwy鈥檙 Gymraeg ac yn derbyn cefnogaeth i wneud hynny.
  4. Bydd ein gwasanaethau o鈥檙 un ansawdd yn Gymraeg a Saesneg drwy fod yr un mor weledol 芒鈥檌 gilydd, yr un mor hawdd eu defnyddio a鈥檙 un mor effeithiol.
  5. Bydd y Brifysgol yn cofnodi dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) ac yn darparu gwasanaethau yn unol 芒鈥檙 dewis iaith hwnnw.
  6. Bydd ein polis茂au a systemau recriwtio staff yn sicrhau bod capasiti dwyieithog y Brifysgol yn cael ei gynnal ar draws ystod a graddfeydd swyddi.
  7. Bydd ein staff yn cael eu hannog ac yn cael cyfle i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg yn y gwaith ac i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gyda鈥檙 nod o gynyddu defnydd o鈥檙 Gymraeg yng ngweithleoedd y Brifysgol. Bydd rhai o weithleoedd y Brifysgol (e.e. Pontio) yn rhai dynodedig o safbwynt sicrhau mai鈥檙 Gymraeg yw鈥檙 brif iaith gwaith.
  8. Bydd ein polis茂au, ein cynlluniau a鈥檔 prosiectau yn ystyried yn llawn sut i roi lle canolog a naturiol i鈥檙 Gymraeg heb danseilio statws na defnydd o鈥檙 Gymraeg.
  9. Byddwn yn cynllunio鈥檔 rhagweithiol a blaengar er lles y Gymraeg gan ddefnyddio arbenigedd ymchwil ac arbenigedd cymhwysol er budd y defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y Brifysgol ac yn ehangach.
  10. Byddwn yn cofnodi penderfyniadau, prosesau a chwynion sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 Gymraeg.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?