Ymweld â'r Archifdy
Rhai gwneud apwyntiad i ymweld â’r Archifau a Chasgliadau Arbennig.
Mae modd gwneud hyn drwy gysylltu â ni arÌýarchifau@bangor.ac.ukÌýneu 01248 383276.
Dydd Llun – Dydd Gwener
9.30-12.30 (bore) ÌýÌý 1.00-4.00 (pnawn)
Os oes modd, gofynnwn yn garedig i chi egluro beth yw eich gofynion ac i archebu dogfennau a llyfrau prin o flaen llaw.
Os oes gennych chi unrhyw ofynion arbennig ynglŷn â chael mynediad gadewch i ni wybod cyn eich ymweliad.
Os nad oes gennych Gerdyn Archif eisoes, bydd angen i chi lenwiÌý'Ffurflen Gofrestru Defnyddiwr' a dod â 2 fath o ddogfen adnabod gyda chi.
Mae'n bosib y bydd darllenwyr yn ystod y misoedd nesaf yn cael eu haflonyddu o ganlyniad i waith adeiladu y tu allan i'r Archifdy.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Yr ystafelloedd darllen
Ceir mynediad i’r Archifdy drwy gerdded i mewn i'r cyntedd aÌýchanu’r gloch ar y drws mewnol. Daw aelod o staff yr Archifau a Chasgliadau Arbennig i’ch cyfarfod.
Bydd dwy ystafell ddarllen ar gael i ddarllenwyr yn yr Archifdy.
Unwaith y byddwch yn yr ystafell, rhoddir sedd benodol i chi. Ni fydd rhaid i chi wisgo menyg.
Cyfleusterau
Mae toiledau cyhoeddus ar gael gyda chyfleusterau golchi dwylo ar y lloriau 1af ac 2il uwchben yr Archifdy ac yn y Prif Lyfrgell. Darperir hylif diheintio dwylo hefyd mewn amrywiol leoliadau.
Ìý
Ymweliadau Grŵp
Mae’r Archifau a Chasgliadau Arbennig yn croesau ymweliadau gan grŵpiau bychain o unigolion ar gyfer sesiynnau cyflwyno. Mae’r sesiynnau hyn yn cynnwys :
- trosolwg o’r casgliadau archifol sydd yng ngofal y Brifysgol
- disgrifiad o waith yr archifdy
- eglurhad o’r amryw ffyrdd o chwilota am ddeunydd
- arddangosfa fach o ddeunydd gwreiddiol sy’n adlewyrchu ehangder y casgliadau
- sesiwn cwestiwn ac ateb
Mae’r ymweliadau grŵp fel arfer yn para 1.5 awr a mae’r ystafell addysg yn addas ar gyfer grŵpiau o hyd at 15 o bobl.
Am ragor o wybodaeth neu i neilltuo lle ar gyfer eich grŵp chi, cysylltwch â ni ar (01248)383276 neu ar ebostÌýarchifau@bangor.ac.uk
Ìý