Partneriaeth Gydweithredol, yn cynnwys Cytundebau Trosglwyddo
Cofrestr o Ddarpariaeth ar y Cyd
Dylai Ysgolion sy’n dymuno datblygu partneriaeth gydweithredol â darparwr arall yn y sector Addysg Uwch gadw’r pwyntiau isod mewn cof:
- Cyfrifoldeb Prifysgol Bangor yw safonau academaidd yr holl gymwysterau a ddyfernir yn ei henw.
- Rhaid i amcanion addysgol sefydliad cyfrannog fod yn gydnaws ag amcanion y Brifysgol. Bydd unrhyw bartner, gorau oll, yn sefydliad uchel ei statws a hanes o lwyddiant ac enw da, yn benodol ym maes ymchwil. Fodd bynnag, bydd y Brifysgol hefyd yn ystyried partneriaethau a allai chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y sefydliad a’r staff, yn benodol mewn sefydliadau tramor. Bydd y Brifysgol yn ystyried creu partneriaethau er mwyn datblygu rhaglenni sy’n gymorth i wireddu ei hamcanion ei hun ac amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Rhaid sefydlu’r holl bartneriaethau, yn cynnwys cytundebau trosglwyddo, gan ddefnyddio’r drefn sydd wedi’i phennu yn y the Cod Ymarfer ar Gyd-ddarpariaeth.
- Cod Ymarfer ar gyfer Darpariaeth ar y Cyd
Am fwy o gyngor ac arweiniad, cysylltwch â Dr Myfanwy Davies, Pennaeth, Sicrhau Ansawdd a Dilysu ar est. 3217.
Ffurflenni Diwydrwydd Dyladwy ac Asesu Risg
Sylwch:
Bydd y Swyddfa Cynllunio a Data Myfyrwyr yn cydlynu asesiad risg, diwydrwydd dyladwy, a chynllunio busnes ar gyfer partneriaethau categori A.
Ar gyfer partneriaid rhyngwladol, y Ganolfan Addysg Ryngwladol yw’r prif gyswllt rhwng yr Ysgol neu’r Ysgolion ac unrhyw bartner rhyngwladol yn ystod trafodaethau rhagarweiniol ynglŷn â sefydlu partneriaeth ryngwladol. Yn achos sefydlu neu adnewyddu partneriaethau categori B, bydd y Ganolfan Addysg Ryngwladol yn cydlynu asesiadau risg a gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy.
Bydd y Ganolfan Addysg Ryngwladol yn cydlynu trefniadau i sefydlu ac adnewyddu rhaglenni cyfnewid myfyrwyr categori D ffurfiol gyda sefydliadau tramor sy’n cynnwys asesiadau risg, gweithdrefnau diwydrwydd dyladwy a rhoi cytundebau.
- Diwydrwydd Dyladwy: Partneriaethau Categori A1
- Diwydrwydd Dyladwy: Partneriaethau Categori A2
- Partneriaethau Hyfforddiant Doethurol – Cam Cyntaf
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori B – Memorandwm Dealltwriaeth
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori B – Trefniadau Cydweddu
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori D1 – Cyd-oruchwyliaeth dros fyfyrwyr ymchwil; ymchwil neu cefnogaeth dysgu mewn sefydliad partner
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori D2 – Rhaglenni Masnachol
- Diwydrwydd Dyladwy: Categori D4 – Astudio dramor
Cefnogaeth i Bartneriaid Rhyngwladol
Mae gan y Brifysgol dair partneriaeth addysgu fawr ledled y byd. Rydym wedi ymrwymo I ddarparu profiad addysgu a dysgu cyfatebol i fyfyrwyr. Mae uwch enwebedig o fewn Ysgolion yn darparu hyfforddiant a datblygiad staff, yn enwedig o ran asesu. Darperir adnoddau yma i’n galluogi I rannu arfer gorau.