Mwy o wybodaeth...
Cyfleoedd Ymchwil
Yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 ystyriwyd bod 90% o’n hymchwil o ‘ansawdd ryngwladol’ fan leiaf, yn cynnwys 45% a oedd yn ‘rhagorol yn rhyngwladol’.
Mae’r Ysgol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd astudio ôl-radd, drwy raddau ymchwil a chyrsiau ôl-radd hyfforddedig. Mae gan ein staff a’n myfyrwyr ddiddordebau ymchwil ac arbenigedd mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, economeg, gwyddorau pridd ac ecoleg gymhwysol, ac mae gennym gysylltiadau ag ystod eang o sefydliadau allanol, ym Mhrydain a thu hwnt. Caiff myfyrwyr amgylchedd dysgu a chefnogaeth ragorol i astudio at raddau ymchwil.
Mae myfyrwyr ymchwil yn SENRGY yn astudio ystod eang o destunau – edrychwch ar ein tudalennau ymchwil am wybodaeth am ymchwil gyfredol yn SENRGY a thudalen myfyrwyr ymchwil i weld enghreifftiau o destunau ymchwil PhD diweddar.
Defnyddiwch y cysylltiadau a ganlyn i weld ein hefrydiaethau PhD a gyllidir, a’n swyddi gwag ôl-ddoethurol sydd ar gael ar hyn o bryd.
I gael gwybodaeth gyffredinol am raddau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, cliciwch yma. Dylai myfyrwyr rhyngwladol hefyd edrych yma i gael gwybodaeth am ffioedd ac ysgoloriaethau.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio gyda ni? Cysylltwch â ni os hoffech gael gwybodaeth bellach, neu cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais.
Am swyddi gwag eraill ym Mhrifysgol Bangor, cliciwch yma i weld .