Pam astudio yma?
Mae Prifysgol Bangor mewn lleoliad perffaith i astudio’r amgylchedd a’i ryngweithiadau gyda phobl, cadwraeth a rheolaeth tir a dŵr.
- Mae gan yr ysgol amrywiaeth eang o arbenigeddau ym maes coedwigaeth, amaethyddiaeth, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth.
- Mae Parc Cenedlaethol Eryri lai na 20 munud o’r Brifysgol ac mae’n cynnig ‘labordy byw’ i lawer o’n haddysgu a’n hymchwil.
- Yn ogystal ag ucheldir ac iseldir sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu tirwedd a’u geomorffoleg, mae’r parc cenedlaethol hefyd yn cynnwys nifer fawr o warchodfeydd natur cenedlaethol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys rhai o arwyddocâd Ewropeaidd.
- Mae coedwigaeth a ffermio’n weithgareddau traddodiadol yn yr ardal hon ers cannoedd o flynyddoedd.
- Ceir hefyd safleoedd diwydiannol pwysig yn cynnwys safleoedd cynhyrchu ynni gwynt, dŵr a niwclear a mwyngloddiau copr a chwareli llechi.
- Yng ngorsaf maes yr ysgol, sydd wedi ei lleoli ychydig y tu allan i’r ddinas, mae’r tir yn ymestyn o gors halen ac iseldir wedi ei wella ar yr arfordir i dir pori ar y mynydd agored 1000 o fetrau uwchben lefel y môr. Mae’n cynnwys cyfleusterau ar gyfer gwaith maes, tŷ gwydr a labordy ac mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn gwneud defnydd helaeth ohono ar gyfer gwaith project.
- Mae swyddfeydd, darlithfeydd a labordai’r ysgol yn Adeilad Thoday, sydd rhwng Undeb y Myfyrwyr a’r llyfrgell wyddoniaeth ac o fewn pellter cerdded o’r neuaddau preswyl i gyd.
- Mae ystafell systemau gwybodaeth ddaearyddol newydd ei hagor; ac mae’n caniatáu i fyfyrwyr astudio cysylltiadau gofodol rhwng data amgylcheddol, hinsawdd, biolegol a chymdeithasol. Â
- Newydd ei gwblhau hefyd y mae labordy pwrpasol ar gyfer gwaith project myfyrwyr lle mae planhigion, pridd a chyfleusterau dadansoddol amgylcheddol eraill ar gael.
- Mae gan safle ymchwil yr ysgol amrywiaeth eang o gyfleusterau modern. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleuster arbrofol cyfoethogi carbon awyr agored, sy’n unigryw yn y DU, ac sy’n ymchwilio i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ecosystemau daearol.
- Mae Canolfan yr Amgylchedd Cymru yn bartneriaeth newydd rhwng y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a’r Brifysgol, ac mae’n dod â 60 o wyddonwyr amgylcheddol gydag amrywiaeth eang o wybodaeth a phrofiad ynghyd.
- Mae’r ganolfan mewn adeilad pwrpasol, wedi ei wneud o ddeunyddiau o ffynonellau lleol megis derw a llechi Cymreig ac mae’n cynnwys system ailgylchu dŵr glaw, celloedd ffotofoltaïg a phympiau sy'n cludo gwres o'r ddaear.
- Mae gan yr ysgol ei fferm ei hun lle gwneir ymchwil i gnydau, amaeth-goedwigaeth, coedwigaeth a gwyddor yr amgylchedd. Yn ogystal â hyn, mae hefyd yn fferm ddefaid ucheldir fasnachol a cheir hefyd gwarchodfeydd natur cenedlaethol ar ei thir.