Research Groups
Our staff are active in the following areas of research;
- Plant and Soil Science
- Natural Resources Ecology, Conservation and Management
- Crop and Forest Science
Newyddion
- Testing sewage has helped track Covid - soon it could reveal much more about the UK's health
23 Mawrth 2022 - Mapio problem sbwriel gyda’r cyfryngau cymdeithasol
21 Chwefror 2022 - Eliffantod amddifad yn cael trafferth asesu bygythiad llewod yn rhuo
18 Chwefror 2022 - BANGOR YN Y 15 UCHAF MEWN TABL CYNGHRAIR CYNALIADWYEDD
28 Ionawr 2022 - Cyfathrebu am goed ac ennill cystadleuaeth
3 Rhagfyr 2021 - Darllenwch yr holl newyddion
Ymchwil yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Ddearyddiaeth
Yn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 ystyriwyd bod 90% o’n hymchwil o ‘ansawdd ryngwladol’ fan leiaf, yn cynnwys 45% a oedd yn ‘rhagorol yn rhyngwladol’.
Mae gan Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth enw da’n rhyngwladol am ymchwil o’r safon uchaf. Yn ein maes pwnc fe wnaeth Prifysgol Bangor berfformio’n gryf iawn yn Ymarfer Asesu Ymchwil (RAE) 2008 o brifysgolion gwledydd Prydain. Fe wnaethom gyflwyno 35 o staff i’r panel asesu Amaethyddiaeth, gyda’r ymchwil yn cynnwys meysydd Gwyddor Planhigion a Phridd; Ecoleg, Cadwraeth a Rheolaeth Adnoddau Naturiol; a Gwyddor Cnydau a Choedwigoedd. Ystyriodd y panel bod 90% o’n hymchwil o ‘ansawdd ryngwladol’ fan leiaf, yn cynnwys 45% a oedd yn ‘rhagorol yn rhyngwladol’. Roeddem yn arbennig o falch bod canlyniad yr RAE wedi ystyried bod ein holl ‘amgylchedd ymchwil’ yn rhagorol yn rhyngwladol, gan gydnabod ein swyddogaeth bwysig ym maes ymchwil ac addysgu ôl-radd, ac ansawdd uchel iawn ein cyfleusterau ymchwil.
I helpu i roi’r canlyniad hwn mewn cyd-destun, cafodd Prifysgol Bangor sgôr cyfartal â phedair prifysgol arall sy’n adnabyddus am enw da eu gwaith ymchwil ym maes pwnc y panel RAE: Prifysgol Reading a Phrifysgol Newcastle (Amaethyddiaeth) a Phrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Lerpwl (Gwyddor Milfeddygaeth).
Ein cenhadaeth ymchwil yw darparu sail wyddonol i amaethyddiaeth gynaliadwy, coedwigaeth a chadwraeth adnoddau naturiol drwy dri amcan penodol:
- Hyrwyddo gwybodaeth o sail amgylcheddol a biolegol defnydd tir drwy ymchwil sylfaenol i wyddor planhigion a phridd
- Dylanwadu ar reoli adnoddau naturiol ar gyfer cynhyrchu cynaliadwy ac ansawdd amgylcheddol drwy integreiddio prosesau bioffisegol ac economaidd-gymdeithasol ar y raddfa ecosystem (ecoleg adnoddau naturiol, cadwraeth a rheolaeth)
- Rhoi sylw i anghenion dynol am fwyd a deunyddiau drwy hyrwyddo gwybodaeth am eneteg cnydau, systemau cynhyrchu cynaliadwy a nodweddion deunydd planhigion (gwyddor cnydau a choedwigoedd).
Mae agwedd ryngddisgyblaethol gref i’n hymchwil ac mae’n cynnwys cydweithio agos ar draws y disgyblaethau defnydd tir, amgylcheddol, biolegol a chemegol. Edrychwch ar ein Tudalennau Ymchwil cyfredol i gael mwy o wybodaeth am ein gweithgareddau ymchwil.
Cyfleusterau
Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gynnal ansawdd yr ymchwil a wneir yn SENRGY rydym yn sicrhau bod ein cyfleusterau’n addas i’r dasg.
Partneriaethau a Chydweithwyr
Mae staff o SENRGY yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid, o sefydliadau lleol i sefydliadau yn y DU, Ewrop a byd-eang.
Cyfleoedd Ymchwil
Darllenwch am ein cyfleoedd ymchwil.