Cofrestrwch nawr!
Digwyddiadau ar gyfer Ysgolion
Cystadleuaeth ‘Top of the Bench’ – 22 Ionawr 2020
Dyma i chi gystadleuaeth gemeg genedlaethol gyffrous sy’n gwahodd yr ysgolion i gystadlu yn rhagbrawf ranbarthol flynyddol cystadleuaeth ‘Top of the Bench’ y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, i fyfyrwyr CA3 a CA4. Bydd y gystadleuaeth ar ffurf cwis gwybodaeth gyffredinol am gemeg ac yn cael ei chynnal yng Ngholeg Llandrillo, Campws Llandrillo-yn-Rhos a Thechniquest Glyndŵr.
Caiff pob ysgol gynnig un tîm fydd yn cynnwys dau ddisgybl o flwyddyn 9, un o flwyddyn 10 ac un o flwyddyn 11.
Gwahoddir yr enillwyr rhanbarthol i gymryd rhan yn Rownd Derfynol Genedlaethol y Deyrnas Unedig yn ystod gwanwyn 2020.
Gŵyl Gemeg Salters – 22 Ebrill
Menter gan Sefydliad Salters yw gŵyl Cemeg Salters, a’u bwriad yw hyrwyddo cemeg a’r gwyddorau cysylltiedig ymysg pobl ifanc. Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn, e-bostiwch siobhan.jones@bangor.ac.uk