Gallai coedwig law'r Amazon fynd o fewn oes
Bydd ecosystemau mawr, fel coedwig law'r Amazon, yn chwalu ac yn diflannu鈥檔 ddychrynllyd o gyflym, unwaith y cyrhaeddir trobwynt hollbwysig, yn 么l cyfrifiadau yn seiliedig ar ddata鈥檙 byd go iawn.
Wrth ysgrifennu yn Nature Comms (doi), mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, Prifysgol Southampton ac Ysgol Astudiaethau'r Dwyrain ac Affrica, Prifysgol Llundain, yn datgelu pa mor gyflym y bydd ecosystemau o wahanol feintiau yn diflannu, unwaith y byddant wedi cyrraedd pwynt y maent yn chwalu y tu hwnt iddo, gan drawsnewid yn ecosystem amgen.
Er enghraifft, unwaith y cyrhaeddir y 'pwynt di-droi'n-么l', gallai coedwig law eiconig yr Amazon symud i ecosystem debyg i safana gyda chymysgedd o goed a glaswellt o fewn 50 mlynedd, yn 么l y gwaith.
, gyda'r tanau a'r dinistr yn yr Amazon ac yn Awstralia.
鈥淵n anffodus, yr hyn y mae ein papur yn ei ddatgelu yw bod angen i ddynoliaeth baratoi ar gyfer newidiadau yn gynt o lawer na鈥檙 disgwyl,鈥 meddai'r prif awdur ar y cyd Dr Simon Willcock o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor.
鈥淏yddai'r newidiadau cyflym hyn i ecosystemau mwyaf a mwyaf eiconig y byd yn effeithio ar y buddion y maent yn eu rhoi inni, gan gynnwys popeth o fwyd a deunyddiau, i'r ocsigen a'r d诺r sydd eu hangen arnom ar gyfer bywyd.鈥
Beth ellir ei wneud i arafu'r chwalfeydd hyn?
Gall ecosystemau sy'n cynnwys nifer o rywogaethau sy'n rhyngweithio, yn hytrach na'r rhai sy'n cael eu dominyddu gan un rhywogaeth yn unig, fod yn fwy sefydlog a chymryd mwy o amser i symud i gyflyrau ecosystem amgen. Mae'r rhain yn darparu cyfleoedd i liniaru neu reoli'r effeithiau gwaethaf, dywed yr awduron. Er enghraifft, mae eliffantod yn cael eu galw'n rhywogaeth 'maen clo' gan eu bod yn cael effaith anghymesur o fawr ar y dirwedd - yn gwthio coed drosodd, ond hefyd yn gwasgaru hadau dros bellteroedd mawr. Dywed yr awduron y byddai colli rhywogaethau maen clo, fel hyn, yn arwain at newid cyflym a dramatig yn y dirwedd yn ystod ein hoes.
鈥淒yma ddadl gref arall eto i osgoi diraddio ecosystemau ein planed; mae angen i ni wneud mwy i warchod bioamrywiaeth,鈥 meddai Dr Gregory Cooper, Ysgol Astudiaethau'r Dwyrain ac Affrica, Prifysgol Llundain.
Dywed yr Athro John Dearing o Ysgol Daearyddiaeth a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Southampton:
鈥淩oeddem yn gwybod yn reddfol y byddai systemau mawr yn chwalu鈥檔 arafach na rhai bach - oherwydd yr amser y mae鈥檔 ei gymryd i effeithiau ymledu ar draws pellteroedd mawr. Ond yr hyn a oedd yn annisgwyl oedd y canfyddiad bod systemau mawr yn chwalu鈥檔 gynt o lawer nag y byddech yn ei ddisgwyl - hyd yn oed y mwyaf ar y Ddaear yn cymryd dim ond ychydig ddegawdau o bosibl.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2020