Dewch i ryfeddu ar y casgliadau sbesimenau yn Amgueddfa Hanes Natur Brambell
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru eleni, gaiff ei chynnal rhwng 27 Hydref – 4 Tachwedd.
Mae'r digwyddiad blynyddol unigryw hwn yn gyfle i bawb sy'n byw yng Nghymru, neu'n ymweld dros hanner tymor, i archwilio a thyrchu yn yr amgueddfeydd gwych sydd gennym ledled Cymru. Unwaith eto caiff rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd amrywiol eu cynnal gyda rhywbeth at ddant pawb, o arddangosfeydd, atgynyrchiadau a gweithdai i weithgareddau thema Calan Gaeaf.
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell, Prifysgol Bangor yn cynnal diwrnod agored ar y Dydd Sadwrn, 3ydd o Dachwedd 11yb-3yp fel rhan o’r ŵyl. Dyma gyfle i ymweld a’r amgueddfa, sydd ddim ar agor i’r cyhoedd fel arfer, er mwyn dysgu mwy am y sbesimenau sydd i’w gweld yno. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r gwirfoddolwyr fydd ar gael, a bydd yna hefyd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran.
Bwriedir gwella mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol ac mae’n rhan o waith Storiel mewn partneriaeth a Phrifysgol Bangor. Bydd y digwyddiad yma’n rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r sbesimenau sydd yn cael eu harddangos.
Lleolir Adeilad Brambell dros ffordd i ASDA ac mae cyfeiradau ar gael ar y gwefan
Dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas:
"Rydyn ni'n hynod o ffodus yng Nghymru i gael y fath gyfoeth o amgueddfeydd sy'n llawn eitemau hynod o ddiddorol. Rwy'n gweld yr Ŵyl fel cyfle pwysig i amgueddfeydd gysyslltu â’u cymunedau lleol a helpu pobl i ymdrochi yn eu diwylliant a'u treftadaeth. Gobeithio y bydd hyn yn helpu ysbrydoli cenhedlaeth newydd o bobl i ddysgu mwy am ein hanes diddorol."
Ychwanegodd Victoria Rogers, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru,
"Y nod yw ysbrydoli ymwelwyr i ddysgu mwy am rai o'r storïau celfyddydol a threftadaeth anhygoel yn eu milltir sgwâr trwy amrywiaeth o wahanol brofiadau. Gyda hanner tymor a Chalan Gaeaf yn cyd-fynd â'r ŵyl, mae'n gyfle i wneud rhywbeth gyda'r teulu cyfan, felly hoffwn eich annog chi i edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn eich ardal leol ac ewch amdani!"
Am restr lawn o’r holl weithgareddau sydd yn digwydd yn ystod Gŵyl Amgueddfeydd ewch i www.amgueddfeydd.cymru
Dyddiad cyhoeddi: 24 Hydref 2018