Cefnogi perfformiad trwy fod yn rheolwr da iawn
Mae rheolwyr da yn allweddol i lwyddiant unrhyw sefydliad ac mae nodweddion rheolwr da yn cynnwys (ymhlith eraill): hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth o鈥檜 heffaith ar eraill, gallu cynllunio a gosod amcanion clir a sgiliau cyfathrebu da i symbylu a chefnogi eraill.
Hunan ymwybyddiaeth a deall eich effaith ar eraill
Wrth edrych ar nodweddion arweinwyr llwyddiannus, nodwedd allweddol yw ymwybyddiaeth o鈥檜 hemosiynau eu hunain a鈥檜 heffaith bosibl ar eraill. Felly mae deall pobl eraill yn hollbwysig i reoli timau鈥檔 effeithiol.
Gosod amcanion
Mae amcanion clir yn ein helpu i ganolbwyntio ein sylw, rhoi synnwyr cyfeiriad a鈥檔 helpu i reoli ein blaenoriaethau鈥檔 effeithiol 鈥 gall amcanion heriol fod yn ysgogol hefyd. Dylai鈥檙 amcanion fod yn rhai SMART:
- Penodol ac yn ymestyn 鈥 dylai amcanion fod mor benodol a chlir ag y bo modd ac ymestyn pobl hynny yw, eu bod yn gosod rhywfaint o her i鈥檙 unigolyn.
- Mesuradwy 鈥 bydd yr amcan yn nodi bod yr amcan wedi ei gyflawni.
- Wedi eu cytuno ac yn gyraeddadwy 鈥 yn ddelfrydol dylai鈥檙 rheolwr ac aelod staff gytuno ar yr amcanion a bod yr amcanion yn realistig o fewn cyd-destun y swydd a鈥檙 adnoddau sydd ar gael.
- Realistig 鈥 nid yw鈥檙 amcanion yn rhai haearnaidd, felly mae鈥檔 amlwg bod angen newid amcanion os yw鈥檙 sefyllfa鈥檔 newid a rhaid i鈥檙 nod sicrhau cydbwysedd rhwng bod yn anodd a chyraeddadwy.
- Terfynau amser 鈥 mae rhoi dyddiadau cau yn dda o ran canolbwyntio sylw pawb a helpu鈥檙 rheolwr i fynd ar 么l y camau gweithredu a chytuno ar ddisgwyliadau.
Cymhelliant
Nid oes unrhyw ffon hud pan ddaw i gymhelliant a dyna pam mae llawer o ddamcaniaethau am y maes hwn. Fodd bynnag, dyma rai agweddau pwysig i鈥檞 hystyried fel rheolwr mewn perthynas 芒 chymhelliant:
- Mae staff yn gwahaniaethu o ran yr hyn maent eisiau mewn swydd, felly mae鈥檔 dda cael gwybod beth maent eisiau ei gyflawni a hefyd cydnabod nad yw鈥檙 hyn sy鈥檔 eich cymell chi o reidrwydd yn mynd i ysgogi pobl eraill.
- Mae pobl eisiau synnwyr o bwrpas 鈥 felly gwnewch yn si诺r bod eich staff yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt a sut maent yn cyfrannu at weledigaeth gyffredinol y brifysgol.
- Rhowch wybod beth sy鈥檔 digwydd yn eich maes chi ac yn y brifysgol fel bod pobl yn teimlo鈥檔 wybodus ar lefel leol ac yn deall y 鈥榙arlun mawr鈥 o ran y brifysgol.
- Deall beth mae eich t卯m eisiau gennych chi 鈥 a chyflawni eu disgwyliadau.
- Dangos diddordeb yn eich staff.
Cyfathrebu
Mae pobl yn gweithio ar eu gorau pan maent wedi eu cymell ac i gael eu hysgogi maent angen:
- Deall sut mae eu hamcanion yn cyfrannu at amcanion cyffredinol y brifysgol.
- Gwybod os ydynt yn cyflawni eu hamcanion ac os ydynt, bod hyn yn cael ei gydnabod.
- Ymgynghori 芒 nhw ynghylch penderfyniadau sy鈥檔 cael effaith arnynt.
Mae鈥檔 amlwg bod gallu rheolwyr i gyfathrebu鈥檔 effeithiol yn bwysig, ac felly mae angen i chi ymgynghori 芒鈥檆h staff (cyn gwneud penderfyniadau, cael syniadau ac awgrymiadau), hysbysu eich staff (am benderfyniadau fel bod staff yn gwybod am unrhyw newidiadau) a pherswadio a dylanwadu ar eraill (fel y gallwch weithio tuag at atebion a gytunir ar y cyd). Pan fyddwch yn gwneud hyn mae鈥檔 rhaid i chi wrando鈥檔 effeithiol. Mae gwrando yn sgil pwysig i reolwyr, a bydd yn eich helpu i gael y budd mwyaf o鈥檙 sgyrsiau a gewch gyda鈥檆h staff a chydweithwyr eraill. Mae gwrandawyr da yn gofyn am eglurhad trwy ofyn i鈥檙 siaradwr gadarnhau neu bod yn fwy penodol am yr hyn sy鈥檔 cael ei ddweud, ac yn crynhoi鈥檙 prif bwyntiau i sicrhau eu bod yn deall yr hyn sy鈥檔 cael ei ddweud. Mae adborth hefyd yn un o sgiliau allweddol rheolwr da. Gall adborth fod yn gadarnhaol 鈥 pan fydd rheolwyr am i staff barhau 芒鈥檙 gwaith da neu ddatblygiadol 鈥 pan fydd angen i reolwyr fynd i鈥檙 afael 芒 meysydd sy鈥檔 achosi problemau. Mae rheolwyr yn aml yn osgoi trafod perfformiad gwael oherwydd eu bod yn ofni y bydd yr aelod staff yn ymateb yn wael neu鈥檔 emosiynol. Felly, pan fyddwch yn rhoi adborth am berfformiad mae鈥檔 rhaid i chi:
- Gyfathrebu mewn ffordd wrthrychol a pheidio 芒 barnu (hynny yw peidiwch 芒 bod yn emosiynol)
- Bod yn benodol iawn.
- Eglurwch yn union beth yw鈥檙 broblem ac yna nodi effaith y gwaith / pobl eraill a bod yn glir iawn am yr hyn rydych eisiau ei weld yn digwydd yn y dyfodol.
Mae llawer yn teimlo鈥檔 amddiffynnol yngl欧n 芒 beirniadaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, dylech gydnabod hynny a cheisio tawelu鈥檙 sefyllfa. Gallwch wneud hyn trwy:
- Wrando鈥檔 ofalus a gofyn cwestiynau 鈥 trwy ofyn cwestiynau myfyriol e.e. 鈥淪ut fyddech chi鈥檔 delio 芒鈥檙 sefyllfa yna eto?鈥
- Cyfnewid r么l 鈥 os oedd y sefyllfa鈥檔 cynnwys pobl eraill, gallwch ofyn beth fyddai eu safbwynt pe baent hwy yn sefyllfa鈥檙 unigolyn arall.
- Hunanddatgelu 鈥 eglurwch sut ydych chi鈥檔 teimlo oherwydd y sefyllfa.
- Byddwch yn bendant 鈥 gallwch gydnabod safbwynt neu deimladau unigolyn arall ond rhowch ddatganiad clir am eich safbwynt chi ynghylch y sefyllfa.
- Chwilio am syniadau 鈥 cael yr unigolyn i gymryd rhan trwy chwilio am ateb i鈥檙 ddwy ochr.