Crynodeb
Comisiynodd UK Sport dîm cydweithredol dan arweiniad Prifysgol Bangor i geisio deall proffil datblygiad eu hathletwyr mwyaf llwyddiannus. Mae cymharu athletwyr uwch-elitaidd sydd wedi ennill llawer o fedalau ag athletwyr elitaidd cyfatebol, nad ydynt wedi ennill medal wedi tynnu sylw at wahaniaethau pwysig mewn amrywiol ffactorau.
Gweithredodd UK Sport newidiadau i ddatblygiad eu hathletwyr trwy eu cynadleddau a'u fforymau, ac wedi hynny, rhoddodd cyrff llywodraethu cenedlaethol UK Sport y canfyddiadau ar waith er mwyn gwella eu rhaglenni datblygu talent. 
Roedd y project yn un o bump ar restr fer gwobr project ymchwil y flwyddyn y Times Higher Education Supplement yn 2016, ac mae wedi bod yn destun erthyglau mewn cyhoeddiadau rhyngwladol o bwys.
Ymchwilwyr
- Yr Athro Lew Hardy
- Dr Matt Barlow
- Yr Athro Tim Woodman