Meysydd Ffocws Ymchwil
Mae ymchwil y Coleg Meddygaeth ac Iechyd yn rhychwantu amrywiaeth o waith ymchwil yn eu holl agweddau i wella iechyd a llesiant. O ran ei gryfderau mae datblygu cyffuriau oncolegol therapiwteg folecwlaidd, ffisioleg afiechydon cardiofasgwlar a chyhyrysgerbydol, niwrowyddoniaeth anhwylderau datblygiadol a chymdeithasol gan gynnwys awtistiaeth a dyslecsia, yn ogystal ag iechyd a pherfformiad pobl mewn amgylcheddau eithafol.
Mae gwaith cyflenwol i fynd i'r afael â heriau iechyd a gwella bywydau pobl yn cynnwys adferiad ar ôl anaf i’r ymennydd ac anafiadau/anhwylderau i’r coesau a’r breichiau, ymyriadau arloesol sy’n seiliedig ar y celfyddydau creadigol, rhaglenni gofal ac ymyriadau ar-lein i ofalwyr anffurfiol, ymyriadau addysgol cynnar yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a gwledydd incwm canolig is.
Ymhlith y meysydd rhagoriaeth eraill mae economeg iechyd a chynhyrchion fferyllol. Yn sail i'r gwaith hwnnw mae rhagoriaeth bellach o ran gwerthuso ymyriadau cymhleth, datblygu gwasanaethau, niwrowyddoniaeth wybyddol, dwyieithrwydd a newid ymddygiad yn ogystal â datblygu cyffuriau ocolegol a therapiwteg folecwlaidd.
Mae tri philer craidd yn arwain ein hymdrechion mewn ymchwil, pob un yn faes ffocws hanfodol:
Ìý
Caiff ein hymdrechion mewn ymchwil eu harwain gan dri philer craidd, pob un yn faes ffocws hanfodol:
Caiff ein hymdrechion mewn ymchwil eu harwain gan dri philer craidd, pob un yn faes ffocws hanfodol:
Mae ein hymchwil yn hynod ryngddisgyblaethol ac yn nodedig am ei effaith ar bolisi, darpariaeth y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ymarfer clinigol.
Mae’r themâu trawsbynciol yn mynegi gweithgarwch ymchwil allweddol sy'n digwydd ledled y Coleg Meddygaeth ac Iechyd
Ìý
Mae ein hymchwil yn hynod ryngddisgyblaethol ac yn nodedig am ei effaith ar bolisi, darpariaeth y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac ymarfer clinigol.
Mae’r themâu trawsbynciol yn mynegi gweithgarwch ymchwil allweddol sy'n digwydd ledled y Coleg Meddygaeth ac Iechyd
Ìý
Rhagoriaeth Ymchwil ar Waith: Golwg Agosach ar y Tair Ysgol
Mae Coleg Meddygaeth ac Iechyd Phrifysgol Bangor yn cynnwys tair ysgol ddeinamig, pob un yn meithrin amgylchedd ymchwil unigryw sy’n sbarduno arloesedd a rhagoriaeth. Mae'r coleg yn dod â gwyddorau biofeddygol, gwyddorau iechyd a gwyddorau ymddygiadol sylfaenol a chymhwysol ynghyd mewn tair Ysgol academaidd:
Ìý
Ym mhob un o'r ysgolion hynny, caiff ymchwil ei reoli a'i gefnogi'n ofalus trwy fframwaith cynhwysfawr. Mae timau ymchwil ymroddedig, cyfleusterau o'r radd flaenaf, a mecanweithiau ariannu cadarn yn cynnig amgylchedd i ymchwilwyr ffynnu a gwneud darganfyddiadau arloesol.
Mae ymrwymiad y Coleg i ragoriaeth ymchwil yn amlwg yn y safle blaenllaw sydd ganddo yn y byd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF). Mae’r gamp honno’n dyst i ymroddiad ac arbenigedd ein hymchwilwyr, a hwythau’n gwthio ffiniau gwybodaeth yn gyson ac yn trawsnewid bywydau trwy eu gwaith.
Ìý
Straeon Sbotolau Ymchwil
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ymchwil blaenllaw mewn amrywiol ddisgyblaethau gofal iechyd a gwyddorau dynol. Caiff eu gosod yn gyson ymhlith prifysgolion gorau’r Deyrnas Unedig am allbynnau ei hymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, pennwyd bod ymchwil Bangor mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth, Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, a Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Hamdden a Thwristiaeth ‘gyda’r gorau yn y byd’ neu’n ‘rhagorol yn rhyngwladol'. Mae ein hymchwil mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Deintyddiaeth, Nyrsio a Fferylliaeth yn safle 15Ìýyn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig. Mae’r gwaith yn cefnogi cynlluniau blaengar a gefnogir gan Lywodraeth Cymru i sefydlu Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor erbyn 2024 a fydd yn adeiladu ar ein cryfderau ymchwil yn y gwyddorau dynol ac yn helpu datblygu iechyd a gofal cymdeithasol cynaliadwy at y dyfodol a fydd yn gynaliadwy, yn seiliedig ar le ac yn hybu twf y sector gwyddorau bywyd yn rhanbarthol.
Mae ymchwil Prifysgol Bangor yn y meysydd hynny’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled y byd. Mae ymchwilwyr y brifysgol yn ymrwymo i ganfod atebion arloesol i rai o broblemau iechyd a chymdeithasol mwyaf enbyd y byd. O fewn thema eang Meddygaeth ac Iechyd, fe wnaethom gyflwyno tair Uned Asesu. I ymchwilio i fanylion yr astudiaethau achos a gyflwynwyd ewch i'r adran berthnasol
Gweler Ein Cyhoeddiadau Diweddar
Gweler ein casgliad helaeth o gyhoeddiadau ymchwil i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf mewn meddygaeth ac iechyd. Mae ein hymchwilwyr yn ymroddedig i rannu eu darganfyddiadau arloesol gyda'r byd. Cewch fynediad at eu gwaith yn uniongyrchol trwy ein tudalennau Pure.