Crynodeb
Mae cyrhaeddiad llythrennedd isel yn effeithio ar un o bob pump o bobl ifanc 15 oed yn Ewrop, gyda chanlyniadau i ystod o ragolygon tymor hir, ond gellir ei osgoi gyda diagnosis cynnar o risg ac ymyriadau amserol.
Mae grŵp rhyngwladol o ymchwilwyr dan arweiniad Bangor wedi datblygu Cyfres o Asesiadau Amlieithog o Lythrennedd Cynnar (MABEL) - yr adnodd cyntaf i fod ar gael ar y we, sy'n cynnig cyfres o brofion mewn pum iaith i asesu iaith uniaith, dwyieithog ac ail iaith. Mae 750 o ymarferwyr mewn 22 o wledydd a oedd yn flaenorol heb asesiadau gwrthrychol o ansawdd uchel yn seiliedig ar dystiolaeth i ganfod risg cynnar o fethiant llythrennedd plant wedi cael budd o MABEL ers mis Medi 2019. 
MABEL yw'r unig gyfres amlieithog i asesu dysgwyr uniaith, dwyieithog ac ail iaith o unrhyw gyfuniad o'r ieithoedd MABEL. Yn ogystal, MABEL yw'r unig gyfres ddiagnostig gyda sgorau sy’n seiliedig ar normau sydd ar gael sy'n canolbwyntio'n benodol ar lythrennedd cynnar a sgiliau cysylltiedig mewn Tsiec, Slofac a Chymraeg ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan amrywiaeth eang o ymarferwyr.