Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Gweithgarwch corfforol

Cadw'n heini ym Mangor

  • Staff Actif a Staff Bootcamp


Mae RhaglenÌýStaff ActifÌýyn gyfle i’r staff brofi gweithgaredd newydd bob mis o'r flwyddyn. Gall y staff fwynhau dosbarthiadau ystumiau’r corff ac iechyd y cefn, bocsio, couch i 5km, saethyddiaeth a llawer mwy. Cynlluniwyd Bootcamp y staff.ÌýCynlluniwyd Bootcamp y stafÌýi feithrin cryfder a ffitrwydd trwy gymysgedd o ymarfer aerobig, cryfder a chyflymder. Mae Staff Actif a sesiynau Bootcamp yn costio £2 y sesiwn. Does dim rhaid i staff fod yn aelodau o Ganolfan Brailsford i ymuno.

  • Campws Byw a chwaraeon

Cafodd rhaglen Campws Byw ei datblygu i'ch helpu chi wneud yn fawr o'ch amser yn y Neuaddau Preswyl. Mae rhaglen o ddigwyddiadau am ddim trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys nosweithiau ffilm, anturiaethau i weld mannau hardd lleol, gweithgareddau awyr agored, a dosbarthiadau ffitrwydd.

Lawrlwythwch Galendr Campws BywÌýa’r Ap (mae’r ap o dan Campws Byw Prifysgol Bangor). JYmunwch â'nÌýÌýi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy'n digwydd.

Rhaglen o chwaraeon tîm sydd ar gael am ddim i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor yw Chwaraeon y Campws. Mae'n ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, ennill sgiliau tîm ac arweinyddiaeth. Mynnwch olwg arÌýraglen chwaraeon y campws am eleniÌýa dilynwch ni arÌý

  • Mynnwch feicio

Cynllun seiclo i’r gwaith y staff

Ìý

  • GetOutside

ei sefydlu gan yr Arolwg Ordnans i helpu mwy o bobl fynd allan yn amlach. Mi wnaiff gweithgareddau egnïol yn yr awyr agored eich helpu chi fyw'n hirach, aros yn iau a mwynhau bywyd yn well. Mae llawer o bethau i'w gwneud yn yr awyr agored, ac mae digwyddiadau, mannau ddiddorol, gweithgareddau, tywyswyr a syniadau am ddim yn lleol ac ym mhob cwr o Brydain Fawr.

  • Clybiau a Chymdeithasau Chwaraeon

Mae chwaraeon ym Mangor yn hwylus i bawb, waeth beth fo'ch gallu a’ch diddordeb. Mae yna weithgaredd i chi. Daeth Undeb y Myfyrwyr yn ail yn y Deyrnas Unedig am ei Chwaraeon a'i Chymdeithasau ym mhleidlais Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2020, ac mae’rÌýyn falch iawn o gynnig mwy na 60 o glybiau chwaraeon gyda'rÌýUndeb AthletauÌýmwy na 120 o wahanol Gymdeithasau, a mwy na 50 o Brojectau Gwirfoddoli, a does dim tâl am ymuno.

Mae'r Undeb Athletau’n cynnig chwaraeon cystadleuol a hamdden, gan gynnwys syrffio a sgwba-blymio oddi ar arfordir y gogledd, gymnasteg, tenis, saethyddiaeth, ac athletau. Mae nifer o glybiau chwaraeon y myfyrwyr yn cystadlu yn nigwyddiadau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS), ac mae gemau rheolaidd yn erbyn prifysgolion eraill.

Ewch iÌýÌýi weld yr holl weithgareddau amrywiol sydd ar gynnig trwy’r clwb. Mae yna groeso mawr i chi yno.

  • Gwirfoddoli a chwaraeon

Mae gwirfoddoli yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Bangor yn ffordd wych o gymryd rhan mewn chwaraeon ac ennill profiad gwerthfawr. Mae amrywiolÌýgyfleoedd i wirfoddoli gyda chwaraeonÌýym Mangor, gan gynnwys badminton, pêl-rwyd, hyfforddi pêl-fasged, a helpu trefnu digwyddiadau.

  • Dechrau nofio

Mae nofio yn ymarfer ysgafn gwych sy'n defnyddio pob grŵp cyhyrau ac mae’n gweithio’r corff cyfan. Os ydych chi'n mwynhau nofio er mwyn ffitrwydd neu hamddena, mae yna sawl lleoliad ledled y gogledd i ddewis o’u plith.ÌýBle mae’r ganolfan hamdden a nofio agosaf.

  • Cerdded yn y Gogledd

Mae cerdded yn un o'r ffyrdd symlaf o gynnal iechyd a ffitrwydd cyffredinol. O gerdded y 10,000 o gamau bob dydd fel a argymhellir (wyth cilomedr) gallwch gadw'r galon yn iach a lleihau braster eich corff. Gall cerdded hefyd wella tyndra’r cyhyrau, rhoi hwb i'ch metaboledd, lleddfu straen, codi lefelau egni a gwella cwsg.

Digon hawdd yw cerdded fel rhan o’ch trefn ddyddiol. Mae gennym dudalen we oÌýdeithiau cerddedÌýsy’n cynnwys teithiau cerdded amser cinio o wahanol fannau ar safleoedd Bangor a Phorthaethwy a rhai teithiau cerdded hanesyddol i ddysgu am hanes a threftadaeth leol. Gallwch hefyd ddod o hyd i gasgliad o'r teithiau cerdded sydd â’r golygfeydd gorau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn LlÅ·n, Llwybr Arfordir Môn, a Sir Conwy.

Eich cefnogi chi i iechyd corfforol llawn

Mae'r Brifysgol yn cynnig nifer o wasanaethau i helpu mynd i'r afael â chyflyrau iechyd corfforol.

Leaf health

Mae Canolfan Brailsford mewn partneriaeth âÌýLEAF HealthÌýyn cynnig amrywiol driniaethau. Caiff staff a myfyrwyr y Brifysgol ostyngiad o 10% ar bob triniaeth, fel therapi chwaraeon a thylino, osteopathi, aciwbigo a llawer mwy.

Iechyd galwedigaethol

Mae Iechyd GalwedigaetholÌýyn helpu staff sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl afiechyd. Mae’n sicrhau bod mesurau priodol ar waith i helpu staff sydd â phryderon neu broblemau iechyd weithio'n ddiogel ac yn effeithiol.

RCS Cymru

I aelodau o’r staff sy'n sâl o'r gwaith, neu'n ei chael hi'n anodd gweithio gyda chyflwr iechyd, maeÌýcynnig gwasanaethau ffisiotherapi am ddim, ac arweiniad arbenigol ac ymarferion i'ch helpu chi wella'ch iechyd corfforol a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau cyhyrysgerbydol sy'n effeithio ar eich gallu i weithio'n effeithiol.

Adnoddau ar gyfer iechyd a gweithgaredd corfforol

  • Mae gwefan ffordd o fyw Gofal yn Gyntaf yn cynnig gwybodaeth am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â ffitrwydd, maeth a diet, iechyd corfforol, ysmygu ac yfed a llawer mwy
  • Ìýrhowch gynnig ar y rhain, sydd wedi'u cynllunio'n arbennig i chi eu gwneud wrth eich desg neu ble bynnag rydych chi'n eistedd gyda'r cyfrifiadur, i helpu lleddfu straen.
  • Mae Eich Iechyd Chiyn trafod ffyrdd o fabwysiadu ffordd iach o fyw a helpu atal neu leihau'r risg o ddatblygu afiechydon, megis clefyd cardiofasgwlaidd, canserau a gordewdra. Mae’r 'Canllawiau' yn cynnig cyngor a ffyrdd o reoli colesterol, rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau eich pwysedd gwaed.
  • Ìýmae modd dechrau gyda newidiadau iach a bach. Rhowch gynnig ar yr offer a'r awgrymiadau yma i fod yn egnïol bob dydd. Cymerwch olwg ar yr holl apiau a argymhellir gan y GIG i gefnogi gwell iechyd a lles.
  • ²Ñ²¹±ðÌýÌýyn darparu gwybodaeth ynglÅ·n â sut y gall gweithgaredd corfforol helpu eich iechyd meddwl, awgrymiadau i ddewis gweithgaredd sy'n gweithio i chi, a sut mae goresgyn rhywbeth a allai eich atal rhag gwneud mwy.
  • yn cynnwys canllawiau ar weithgaredd corfforol, ymarferion ar gyfer poen cefn a sciatica, canllawiau ffitrwydd ac awgrymiadau am redeg.

Podlediadau a fideos

  • Ìý²Ñ²¹±ðÌýÌýyn gwahodd athletwyr o bob cwr o'r byd i drafod eu magwraeth, eu llwybr hwythau at fyd chwaraeon, ac effaith seicolegol perfformio ar y lefel uchaf.
  • ²Ñ²¹±ðÌýÌýyn drymlwythog o wyddoniaeth ond mae Dr. Rhonda Patrick, yn gwneud gwaith gwych yn egluro ymchwil cymhleth a’i droi’n gyngor ymarferol. Mae hi'n siarad â gwesteion arbenigol am yr ymchwil diweddaraf ynghylch gwella ansawdd eich bywyd, yn ogystal â'ch hirhoedledd.
  • ²Ñ²¹±ðÌý, gan gynnwys 'Beth sy'n gwneud i'r cyhyrau dyfu', 'Pam mae'r ymennydd wrth ei fodd pan fyddwch yn ymarfer' a 'Pam mae rhai pobl yn cael ymarfer corff yn anoddach na’i gilydd'.
  • Mae Gweminar Lles Corfforol RCS Cymru yn archwilio ffyrdd o gynnal lles dros dri maes allweddol sef cwsg, gweithgaredd corfforol a maeth.