Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Bwyd iach a chynaliadwy

Arlwyo

Mae ein gwasanaeth danfon prydau bwyd yn cynnig dewis bwyd o'r ansawdd uchaf, llawn maeth a ffres i unrhyw achlysur. Mae ein gwasanaeth arlwyo, sydd wedi ei leoli yn Neuadd Reichel, yn paratoi bwyd blasus y gellir ei ddanfon ar y campws ac i leoliadau o fewn 15 milltir i Fangor.

Ffynonellau gwybodaeth a chyngor

Ryseitiau rhad

  •  mae'r ryseitiau hyn yn ffordd wych o ddechrau gwneud prydau hawdd, rhad a blasus.
  • Cook with Campus Life Mae Prifysgol Bangor wedi llunio llyfr coginio bach gwych (yn cynnwys ryseitiau coctels di-alcohol) sy'n llawn o brydau bwyd blasus, maethlon a syml. Mae ein holl ryseitiau wedi eu creu i fod yn hawdd i'w gwneud, ac yn flasus iawn.
  • Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yn cynnig syniadau da i fyfyrwyr greu prydau bwyd iach, maethlon a rhad.
  • ²Ñ²¹±ð’rÌýyn anelu at helpu myfyrwyr i ddarganfod ryseitiau hawdd eu dilyn, cyflym a rhad i'w gwneud gan ddefnyddio adnoddau a chynhyrchion ffres a maethlon.
  • ²Ñ²¹±ð’rÌý yn trafod y pum grŵp bwyd, pob un yn cyflawni pwrpas penodol. Gall deall sut mae'r grwpiau bwyd hyn yn effeithio ar eich corff eich helpu i benderfynu beth, a faint, y dylech ei fwyta.

Bwyta'n iawn ar gyfer eich microbau

  •  Yn aml, ystyrir bod bacteria a microbau eraill (gan gynnwys ffyngau a firysau) yn ffynonellau afiechyd, ond mewn gwirionedd mae llawer ohonynt yn cyfrannu at eich cadw'n iach.
  • Mae eich perfedd yn sensitif i emosiynau fel dicter, pryder, tristwch a llawenydd, a gall eich ymennydd ymateb i arwyddion o'ch stumog. Dyna fwy o reswm byth dros fwyta diet cytbwys a maethlon er mwyn i’ch perfedd a'ch ymennydd fod yn iach.

Paratoi a choginio bwyd iach

  • Nid yw bwyta’n iach yn golygu peidio byth â bwyta eich hoff fwydydd. Gallwch addasu eich hoff ryseitiau yn hawdd i ddarparu dewis arall iachach trwy ddilyn cyngor yr 
  • Mae’n hawdd anghofio bwyta'n iach wrth geisio dod i ben ag amserlen brysur a llawer o gyfrifoldebau. Gall eich helpu i sefydlu arferion bwyta iach.

Podlediadau

  • ²Ñ²¹±ðÌý gyda Rhiannon Lambert, maethegydd cymwys, yn cynnig yr holl gyngor yn seiliedig ar dystiolaeth sydd ei angen arnoch i fyw’n iach. Mae gwesteion arbennig yn ymuno â Rhiannon, sydd i gyd yn arbenigwyr lles, i edrych yn fanwl ar gwestiynau poblogaidd am ddiwylliant diet a gwahanu'r ffeithiau o'r ffuglen.
  •  yn y podlediad hwn, dan ofal meddyg, hyfforddwr personol, blogiwr, ac awdur, Dr Hazel Wallace, byddwch yn clywed gan arbenigwyr blaenllaw yn eu maes sy'n rhannu cyngor ar sail tystiolaeth ynglÅ·n â sut y gallwn fyw’n iachach ac egluro’r wybodaeth ddryslyd sydd ar gael ar-lein.
  •  mae'r epidemiolegydd genetig Tim Spector yn dadlau bod bron popeth a ddywedwyd wrthym am fwyd yn anghywir.

Edrych ar fwyd mewn ffordd gytbwys

  • gyda chymaint o wybodaeth anghyson ar gael, mae'n hawdd drysu ynglÅ·n â bwyta'n iach. Datblygwch eich gwybodaeth am fwyta'n iach, maeth a dewisiadau yn seiliedig ar yr ymchwil gwyddonol diweddaraf.

  • ²Ñ²¹±ðÌý yn cynnig gwybodaeth a chyngor am faeth i staff y brifysgol ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys sut i fwyta’n synhwyrol rhwng prydau, bwyta llai o halen, a bwydydd sy’n brwydro yn erbyn blinder ac yn lleihau lefelau colesterol.
  • ²Ñ²¹±ðÌýHealthy Eating yn darparu cyngor ar ddiet cytbwys sy'n cryfhau eich system imiwnedd.
  • ²Ñ²¹±ðÌý yn dysgu am y grwpiau bwyd i sicrhau diet cytbwys, ryseitiau ac awgrymiadau i fwyta'n iach a chyngor i gael system dreulio iach.

Mathau o de a'u manteision iechyd

Mae te yn ddiod hynafol a gaiff ei yfed ledled y byd ac mae'n parhau i fod yn ddiod boblogaidd. Gall te annog colli pwysau, lleddfu anghysur corfforol, helpu i ostwng colesterol, a sicrhau bywiogrwydd meddwl. Dangoswyd bod rhai mathau o de yn helpu yn erbyn radicalau rhydd a all gyfrannu at ganser, clefyd y galon a rhydwelïau wedi tagu.

²Ñ²¹±ðÌý yn darparu ffeithiau am dros 30 o wahanol fathau o de.

yn de du a gwyrdd, yn hibiscus a chamomile, dysgwch am yr wyth te sy'n cynnig llu o fanteision iechyd.

Beth yw un dogn?

  • Mae canllawiau Bupa yn argymell maint dognau ar gyfer y grwpiau bwyd allweddol a fydd yn diwallu gofynion maethol ac ynni unigolyn cyffredin ac yn cynnig awgrymiadau i leihau maint dognau.
  •  osgoi 'portion distortion' a bod yn ymwybodol o faint rydych yn ei fwyta. . 
  •  Nid yw rheoli faint byddwch yn ei fwyta yn golygu bod rhaid i chi fwyta ychydig bach na mesur yn union nifer y pys ar eich plât.

Beth mae'n ei olygu i fwyta'n lân?

  •  Gall dechrau ffordd newydd o fwyta deimlo’n llethol ar y dechrau. Yma gallwch ddysgu'n union beth ddylai bwyta'n lân ei olygu i'ch bywyd a sut i ddechrau.
  •  yma ceir pob rysáit sydd ei hangen arnoch i fwyta'n lân, gan ddefnyddio bwyd cyfan a heb ei brosesu, o'r bore tan y nos.