Mae'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr yn cynnal ymgyrch Telethon Cronfa Bangor bob blwyddyn yn y gwanwyn a鈥檙 hydref, am bedair wythnos o nosweithiau Sul hyd nosweithiau Iau.
Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, bydd ein t卯m o fyfyrwyr yn ffonio cyn-fyfyrwyr i gadw mewn cysylltiad 芒 nhw, hel atgofion ac er mwyn iddyn nhw fedru cefnogi eu hen brifysgol.
Fel rhan o gymuned y cyn-fyfyrwyr fe gewch alwad ff么n gan un o鈥檔 myfyrwyr a fydd yn sgwrsio 芒 chi am eich cyfnod ym Mangor ac am Gronfa Bangor.
Nod Cronfa Bangor yw cefnogi cymaint o brojectau 芒 phosib a galluogi鈥檙 brifysgol i ychwanegu rhagoriaeth neu 鈥渞ywbeth ychwanegol鈥 at brofiad y myfyrwyr.
Yn ddiweddar cwblhaodd ein t卯m o fyfyrwyr ein hymgyrchoedd telethon gwanwyn yn ddeweddar gyda chanlyniadau gwych. Mae ein cyn-fyfyrwyr gwych wedi addo rhoi 拢68,000 pellach i Gronfa Bangor dros y pum mlynedd nesaf.听Bydd y rhoddion hyn yn caniat谩u i Gronfa Bangor ddarparu bwrsariaethau, teithiau maes, gweithgareddau llesiant, cyfleoedd chwaraeon a gwasanaethau ychwanegol, ac mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth aruthrol!
Dywedodd Persida Chung, Swyddog Datblygu, 鈥淓leni, wrth i鈥檙 Brifysgol dathlu cant a deugain o flynyddoedd ers ei sefydlu, byddwn yn canolbwyntio ar greu ystod o Ysgoloriaethau 140 Mlynedd. Nod yr ysgoloriaethau hyn yw sicrhau y gall myfyrwyr o bob cefndir ariannol astudio ym Mangor. Ein nod yw cefnogi cenhedlaeth newydd o fyfyrwyr Bangor drwy'r fenter hon.鈥
Dyma rai o鈥檙 mentrau a gefnogir gan Gronfa Bangor y flwyddyn academaidd hon:
-
Chwaraeon Bangor: Prynu llochesi symudol i'w defnyddio gan glybiau chwaraeon myfyrwyr a chymunedol
-
Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg: Cyfrannu at wobrau Hyfforddiant Arweinyddiaeth Arloesi Prifysgol Bangor (BUILT)
-
Undeb y Myfyrwyr: Darparu gweithgareddau llesiant gr诺p i fyfyrwyr ac arweinwyr myfyrwyr
-
Ysgol Gwyddorau'r Eigion: Adluniad o'r peiriant rhagfynegi tonnau a ddyluniwyd gan Jack Darbyshire, a oedd yn fyfyriwr ym Mangor,听
-
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Bwrsariaethau i fyfyrwyr Coedwigaeth deithio i'r Almaen
-
Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol: Modelau anatomegol ar gyfer myfyrwyr S诺oleg
-
Undeb y Myfyrwyr: Helpu鈥檙 Clwb Cychod i brynu dau gwch rhwyfo newydd
-
Ysgol Gwyddorau'r Eigion: Project acwariwm听
-
Archifau a Chasgliadau Arbennig Project Diogelu Hanes Pensaern茂ol
-
鈦Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau Cyfraniad at gynhyrchu'r gyfrol Cofion: Bywyd John Ellis
-
鈦Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau Project Llunio Hunaniaeth Leol a Chenedlaethol yng Nghymru
-
Yr Adran Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio Gweithdai cyfansoddi gyda Sinfonia Cymru ac Ensemble Canolfan Gerdd Williams Mathias
-
Ysgol Gwyddorau'r Eigion: Creigiau Bywyd Gwyllt 鈥 bwrdd arddangos dwyieithog ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus yr Ysgol
-
Undeb y Myfyrwyr: Cynhyrchu llyfr i ddathlu pen-blwydd UMCB yn 50 oed yn 2026
听
I wybod mwy am yr ymgyrch delethon, cysylltwch 芒 Persida.
Diolch i bawb ohonoch sy'n rhoi!
T卯m o alwyr myfyrwyr yn estyn allan at ein cyn-fyfyrwyr yn ystod ymgyrch Telethon
Sut i ymuno听芒'n t卯m?
Os ydych yn fyfyriwr brwdfrydig yn eich ail neu drydedd flwyddyn, yn teimlo'n argerddol dros Brifysgol Bangor, ac yn awyddus i gynorthwyo gyda'n hymgyrchoedd codi arian llwyddiannus, gellir cyrchu'r ffurflen gais a'r disgrifiad swydd trwy'r ddolen hon.