Ìý
Y SWYDD:
- Ffonio cyn-fyfyrwyr (graddedigion) Bangor i siarad â nhw am eu profiad yma, a gofyn iddynt gefnogi Cronfa Bangor gyda rhodd
- Gwneud cysylltiad personol, bod yn wyneb Prifysgol Bangor a dod â chyn-fyfyrwyr yn ôl i'r brifysgol trwy'r alwad
- Mae rhoddion gan gyn-fyfyrwyr wedi ariannu, er enghraifft, ysgoloriaethau a bwrsariaethau, interniaethau, grantiau teithio, darpariaeth chwaraeon a gweithgareddau iaith Gymraeg a diwylliannol. Bydd angen i chi ddefnyddio'ch profiad eich hun neu gyd-fyfyriwr i ddod â hyn yn fyw ar y ffôn
Ìý
Y MANTEISION:
- Tâl deniadol o £13.45 yr awr!
- Gwella eich sgiliau i'w hychwanegu at eich CV - byddwch chi'n dysgu sut i drafod, gwella eich sgiliau cyfathrebu, gweithio fel rhan o dîm a llawer mwy
- Hyfforddiant llawn a chefnogaeth
- Cyfle i siarad â rhai pobl wirioneddol ddiddorol, ysbrydoledig a dylanwadol
- Codi arian ar gyfer projectau gwych ar draws Prifysgol Bangor
- Gweithio o gwmpas eich ymrwymiadau prifysgol - shifftiau gyda'r nos a'r penwythnos
- Rydyn ni'n cynnal dwy ymgyrch y flwyddyn, felly mae posibilrwydd i gael gwaith cyson
Ìý
GOFYNION:
- Agwedd aeddfed gyfrifol, gan fod yn brydlon a dibynadwy tu hwnt
- Yn hynod o glir ar lafar, gyda ffordd wych ar y ffôn
- Y gallu i ymwneud ag ystod fawr o bobl a chyfathrebu â nhw - sgiliau gwrando da a safon uchel o Saesneg llafar ac ysgrifenedig ac, i rai aelodau o'r tîm, hefyd y gallu i gyfathrebu i safon uchel o Gymraeg ysgrifenedig a llafar
- Dyfalbarhaus, creadigol a hyblyg - yn gallu troi pethau negyddol yn gadarnhaol, a thrafod i gael canlyniadau y cytunir arnynt
- Brwdfrydig ac angerddol am Fangor - yn hapus i siarad am eich gwybodaeth am y brifysgol a'ch adran
- Byddwch chi'n unigolyn diddorol iawn, yn fedrus mewn sawl maes, ac yn gallu cynnal sgyrsiau difyr - caiff cymryd rhan mewn clybiau a chymdeithasau Prifysgol Bangor ei ystyried yn ddefnyddiol, ond nid yw hynny'n hanfodol
- Er nad yw'n hanfodol, byddwn yn falch o glywed a ydych chi'n siarad unrhyw ieithoedd eraill yn ogystal â'r Saesneg
Ìý
RHAID I CHI ALLU DOD I'R CANLYNOL:
Sesiynau recriwtio- Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, fe'ch gwahoddir i ffug brawf ffôn ac os ydych chi'n llwyddiannus, gofynnir i chi ddod am gyfweliad.
Sesiwn hyfforddi- cynhelir yr hyfforddiant ddydd Sadwrn, Hydref 19fed, 10yb - 3yh. Fe'ch telir am y sesiwn hon os byddwch chi'n cwblhau'r gofyniad shifft isafswm o 4 shifft yr wythnos. Ni allwn ystyried eich cais oni bai eich bod yn gallu dod i'r hyfforddiant a chyflawni'r gofyniad shifft isafswm, felly peidiwch â gwneud cais os na allwch.
Ffonio- diwrnod cyntaf y galw fydd dydd Sul, Hydref 20fed, a chynhelir yr ymgyrch am 4 wythnos
Er gwybodaeth i chi, dyma'r shifftiau:
O ddydd Llun i ddydd Iau o 6yh tan 9yh
dydd Sul, 3:30yh tan 6:30yh
Ìý
Ewch i'n tudalen am fwy o wybodaeth am Telethon Cronfa Bangor.