Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae astudio cerddoriaeth yn miniogi'r cof ac mae'n eich arfogi â sgiliau cerddorol proffesiynol sy'n addas at nifer o yrfaoedd. Byddwch yn tyfu fel cerddor, o dan law cyfansoddwyr, arweinwyr, cerddolegwyr ac ymchwilwyr byd-enwog. Byddwch yn rhan o gymuned gerddorol fywiog, byddwch yn perfformio neu'n mwynhau perfformiadau mewn mannau cyhoeddus. Bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn y tu hwnt i'r ddarlithfa a bydd cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau cerddorol eraill y myfyrwyr.
Mae Astudio Cerddoriaeth yn gyfle creadigol i dyfu fel cerddor, a hynny o dan arweiniad cyfansoddwyr, arweinwyr, cerddolegwyr ac ymchwilwyr byd-enwog. Mae gennym draddodiad maith o ragoriaeth academaidd ac mae ein cyrsiau'n unigryw o ran amrywiaeth y dewis sydd ar gael. Â Anelwn at roi'r gallu i'n graddedigion fod yn arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol yn eu meysydd. Mae ein dull o ddysgu Cerddoriaeth yn seiliedig ar ymarfer ac mae'n rhoi cyfle i berfformio cyfansoddiadau'r myfyrwyr, a rhyngweithio rhwng cerddoriaeth fyw ac electroneg, a pherfformio hanesyddol ei naws sy'n deillio o'n gweithgareddau cerddolegol. Â Byddwch yn creu ac yn astudio cerddoriaeth gyda cherddorion, cyfansoddwyr a cherddolegwyr ifanc o'r un anian, ac yn miniogi eich crefft ac yn archwilio'r maes. Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i ddilyn arbenigedd o'ch dewis chi, gan ymestyn eich galluoedd a'ch profi'ch hun.
Byddwch yn rhan o gymuned gerddoriaeth fywiog, naill ai’n perfformio neu'n mynychu perfformiadau mewn canolfannau cyhoeddus fel Pontio a Neuadd odidog Prichard Jones. Bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn y tu hwnt i'r ddarlithfa a bydd cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau cerddorol eraill y myfyrwyr, megis Opera, Band Cyngerdd, Troelli Recordiau, Theatr Gerdd a Cherddorfa Linynnol.  Mae astudio cerddoriaeth yn miniogi'r cof, mae’n anogaeth i waith tîm, mae’n gyfle i fod yn greadigol ac mae’n eich arfogi â sgiliau cerddorol proffesiynol sy'n addas at amryw o yrfaoedd.
Mae'r cwrs BA Cerddoriaeth yn cynnwys modiwlau dewisol o blith pynciau eraill, ac mae'r cwrs BMus hwn yn cynnwys modiwlau cerddoriaeth yn unig.
Pam dewis Bangor?
- Rydym yn cynnig dewis amrywiol sy'n fodd i chi lunio'ch cwrs yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Cynigir Ysgoloriaethau Perfformio Cerdd i'r offerynwyr a/neu'r cantorion mwyaf addawol.
- Mae yma gymuned ddeinamig o ran creu cerddoriaeth: corau, cerddorfeydd, bandiau, ensembles y myfyrwyr a mwy.
- Dau adeilad Cerdd pwrpasol, dwy neuadd gyngerdd broffesiynol, ystafell ymarfer gwrthsain, pedair stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, canolfan celfyddydau Pontio.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae rhaglen gradd Gerddoriaeth Bangor yn hyblyg - byddwch chi'n siapio'ch cwrs gradd yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau. Byddwch yn dechrau astudio cerddoriaeth yn ei holl agweddau, trwy theori ac ymarfer cerddorol gan gynnwys polyffoni moddol a chyfansoddi electroacwstig, a phob genre arall dan haul. Byddwch yn defnyddio'r fframwaith eang hwnnw’n fan cychwyn i ddatblygu eich arbenigedd eich hun o blith nifer o feysydd megis cerddoleg, perfformio neu gyfansoddi, gan gynnwys cerddoriaeth yr 20fed ganrif, golygu cerddoriaeth, perfformio cerddoriaeth glasurol neu boblogaidd, cerddoriaeth ym maes iechyd a lles, a phob arddull gyfansoddi.
Mae llawer o’r addysgu’n digwydd mewn grwpiau bach, a’r awyrgylch yn ysgogol ac yn gynhaliol. Bydd gennych tua 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau bob wythnos. Dysgir Perfformio Unigol trwy gyfuniad arloesol o hyfforddiant unigol, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Yn ogystal, byddwch yn treulio amser ar ddarllen cefndirol, gwrando ar gerddoriaeth, cwblhau traethodau a gwaith cwrs a pharatoi at seminarau yn ogystal â rihyrsio a pherfformio mewn ensembles, corau a cherddorfeydd. Gall sawl modiwl gynnwys teithiau maes, er enghraifft i gyngherddau, archifau, stiwdios recordio a gweithdai cyfansoddi. Mae gennym gysylltiadau rhagorol â sefydliadau blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Cymru'r BBC (y mae gennym weithdy cyfansoddi blynyddol gyda nhw), Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Sinfonietta Llundain, Sain (Recordiau) yn y blaen. Mae eraill yn cynnwys lleoliadau byr y tu allan i'r Brifysgol (er enghraifft, modiwl Lleoli'r Celfyddydau Cymunedol). Byddwch hefyd yn treulio naill ai traean neu ddwy ran o dair o'ch blwyddyn olaf yn gweithio ar brosiectau cerddoriaeth annibynnol o dan oruchwyliaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cerddoriaeth BMus (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cerddoriaeth
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol.
- Dwy neuadd gyngerdd safonol broffesiynol.
- Mannau ymarfer.
- Ystafelloedd ymarfer gyda mynediad 24 awr.
- Offerynnau gan gynnwys organ maint llawn, organ siambr, harpsicordiau a phianos traws.Â
- Pedair stiwdio cyfansoddi a recordio electroacwstig o'r radd flaenaf, gyda mynediad 24 awr.
- Mynediad i fannau perfformio ac ymarfer yng nghanolfan gelfyddydau ysblennydd Pontio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: gan cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth: MMM- DDM gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant.
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth**
- Access**:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Â
Cyfweliadau
Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Â Cynhelir y cyfweliad gan banel (yn cynnwys dau aelod fel arfer) o staff Cerddoriaeth a bydd yn para tua 30 munud. Byddwn yn eich gwahodd i'r campws am eich cyfweliad gan ei fod yn rhoi cyfle gwych i chi weld y cyfleusterau; fodd bynnag, gwyddom efallai na fydd hyn yn addas i bawb ac rydym yn hapus i gynnal cyfweliadau ar-lein.Â
Cyfle yw’r cyfweliad inni ddarganfod mwy amdanoch chi fel person, eich profiad cerddorol, eich diddordebau a'ch dyheadau at y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi ddysgu mwy amdanom ni, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am gerddoriaeth ym Mangor. Y nod yw ein helpu ni gael syniad o'ch dealltwriaeth gerddorol a'ch potensial at y dyfodol.
Clyweliadau a PhortffoliosÂ
Mewn rhai achosion - lle mae angen gwybodaeth bellach neu dystiolaeth o allu cerddorol ar y lefel ofynnol - gallwn ofyn am bortffolio o waith (e.e. traethawd, cyfansoddiad, perfformiad) a/neu eich gwahodd i glyweliad.
Mewn clyweliad, gofynnir i chi chwarae neu ganu dau ddarn byr. Cewch wneud hynny yn y cnawd, yn 'fyw' ar-lein, neu drwy gyflwyno fideo sydd wedi'i recordio ymlaen llaw. Yn eich clyweliad, nid oes angen i chi ddangos popeth y gallwch ei wneud inni. Gwell peidio â bod yn rhy uchelgeisiol. Chwaraewch rywbeth rydych chi'n ei wybod yn dda. Y nod yw ein helpu ni gael syniad o'ch dealltwriaeth gerddorol a'ch potensial at y dyfodol.
Cyn y cyfweliad efallai y byddwn hefyd yn gofyn am bortffolio ac yn gofyn i chi gyflwyno NAILL AI draethawd diweddar, NEU gyfansoddiad. Efallai y gofynnwn ichi siarad ychydig yn y cyfweliad am y gwaith y gwnaethoch ei gyflwyno. Unwaith eto, rydym yn chwilio am botensial i’r dyfodol yn ogystal ag edrych ar eich llwyddiannau yn y gorffennol.Â
Canllawiau ar baratoi am glyweliadau a chyflwyno gwaith ar eu cyfer
Portffolios: Os nad oes gennych draethawd am gerddoriaeth, bydd traethawd mewn pwnc arall yn iawn. Dewiswch rywbeth sy'n dangos y gallwch gyfleu syniadau ar ffurf ysgrifenedig. Os dewiswch gyflwyno cyfansoddiad, gall hwnnw fod yn recordiad, yn sgôr, neu'r ddau.
- Dylid cyflwyno traethodau, cyfansoddiadau a fideos clyweliad o leiaf 48 awr cyn dyddiad eich cyfweliad, trwy e-bost i cerddoriaeth@bangor.ac.uk.
- Dylid cyflwyno clyweliadau fideo trwy e-bostio cyswllt i YouTube neu Vimeo.Â
- Dylid cyflwyno recordiadau o gyfansoddiadau trwy e-bostio cyswllt i YouTube, Soundcloud, Dropbox, Google Drive neu WeTransfer.
Ar gyfer eich clyweliad, dylech baratoi dau ddarn cyferbyniol, a fydd, gyda'i gilydd, yn gwneud cyfanswm o ddim mwy na 6 munud. Cewch berfformio gyda chyfeiliant neu heb gyfeiliant. Os ydych yn dod i glyweliad yn y cnawd, gallwn ddarparu cyfeiliant os oes angen, ond dylech gyflwyno PDF o'ch cyfeiliant o leiaf 48 awr ymlaen llaw. Os ydych yn gwneud clyweliad yn fyw ar-lein, neu drwy fideo wedi'i recordio ymlaen llaw, dylech ddarparu eich cyfeiliant eich hun. Mae traciau cefndir hefyd yn dderbyniol.
Os ydych yn darparu fideo wedi'i recordio ymlaen llaw:
- Dylai eich fideo fod heb ei olygu, a'r sain heb ei brosesu.Â
- Rhaid i'ch wyneb fod yn y golwg, ac (os ydych chi'n offerynnwr) dylai eich dwylo fod yn y golwg hefyd. Ceisiwch sicrhau nad oes golau llachar y tu ôl i chi (er enghraifft, ffenestr).Â
- Cyhoeddwch eich enw llawn a theitl(au) a chyfansoddwr(wyr) y darnau y byddwch chi'n eu perfformio ar ddechrau'r fideo.Â
- Gwnewch yn siŵr bod teitl eich fideo yn cynnwys eich enw.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni ar cerddoriaeth@bangor.ac.ukÂ
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: gan cynnwys gradd B mewn Cerddoriaeth. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth: DMM - DDM gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant.
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth**
- Access**:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Â
Cyfweliadau
Mewn rhai achosion - lle mae angen gwybodaeth bellach neu dystiolaeth o allu cerddorol ar y lefel ofynnol -bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Â Cynhelir y cyfweliad gan banel (yn cynnwys dau aelod fel arfer) o staff Cerddoriaeth a bydd yn para tua 30 munud. Byddwn yn eich gwahodd i'r campws am eich cyfweliad gan ei fod yn rhoi cyfle gwych i chi weld y cyfleusterau; fodd bynnag, gwyddom efallai na fydd hyn yn addas i bawb ac rydym yn hapus i gynnal cyfweliadau ar-lein.Â
Cyfle yw’r cyfweliad inni ddarganfod mwy amdanoch chi fel person, eich profiad cerddorol, eich diddordebau a'ch dyheadau at y dyfodol. Mae hefyd yn gyfle gwych i chi ddysgu mwy amdanom ni, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am gerddoriaeth ym Mangor. Y nod yw ein helpu ni gael syniad o'ch dealltwriaeth gerddorol a'ch potensial at y dyfodol.
Clyweliadau a PhortffoliosÂ
Mewn rhai achosion - lle mae angen gwybodaeth bellach neu dystiolaeth o allu cerddorol ar y lefel ofynnol - gallwn ofyn am bortffolio o waith (e.e. traethawd, cyfansoddiad, perfformiad) a/neu eich gwahodd i glyweliad.
Mewn clyweliad, gofynnir i chi chwarae neu ganu dau ddarn byr. Cewch wneud hynny yn y cnawd, yn 'fyw' ar-lein, neu drwy gyflwyno fideo sydd wedi'i recordio ymlaen llaw. Yn eich clyweliad, nid oes angen i chi ddangos popeth y gallwch ei wneud inni. Gwell peidio â bod yn rhy uchelgeisiol. Chwaraewch rywbeth rydych chi'n ei wybod yn dda. Y nod yw ein helpu ni gael syniad o'ch dealltwriaeth gerddorol a'ch potensial at y dyfodol.
Cyn y cyfweliad efallai y byddwn hefyd yn gofyn am bortffolio ac yn gofyn i chi gyflwyno NAILL AI draethawd diweddar, NEU gyfansoddiad. Efallai y gofynnwn ichi siarad ychydig yn y cyfweliad am y gwaith y gwnaethoch ei gyflwyno. Unwaith eto, rydym yn chwilio am botensial i’r dyfodol yn ogystal ag edrych ar eich llwyddiannau yn y gorffennol.Â
Canllawiau ar baratoi am glyweliadau a chyflwyno gwaith ar eu cyfer Portffolios: Os nad oes gennych draethawd am gerddoriaeth, bydd traethawd mewn pwnc arall yn iawn. Dewiswch rywbeth sy'n dangos y gallwch gyfleu syniadau ar ffurf ysgrifenedig. Os dewiswch gyflwyno cyfansoddiad, gall hwnnw fod yn recordiad, yn sgôr, neu'r ddau.
- Dylid cyflwyno traethodau, cyfansoddiadau a fideos clyweliad o leiaf 48 awr cyn dyddiad eich cyfweliad, trwy e-bost i cerddoriaeth@bangor.ac.uk.
- Dylid cyflwyno clyweliadau fideo trwy e-bostio cyswllt i YouTube neu Vimeo.Â
- Dylid cyflwyno recordiadau o gyfansoddiadau trwy e-bostio cyswllt i YouTube, Soundcloud, Dropbox, Google Drive neu WeTransfer.
Ar gyfer eich clyweliad, dylech baratoi dau ddarn cyferbyniol, a fydd, gyda'i gilydd, yn gwneud cyfanswm o ddim mwy na 6 munud. Cewch berfformio gyda chyfeiliant neu heb gyfeiliant. Os ydych yn dod i glyweliad yn y cnawd, gallwn ddarparu cyfeiliant os oes angen, ond dylech gyflwyno PDF o'ch cyfeiliant o leiaf 48 awr ymlaen llaw. Os ydych yn gwneud clyweliad yn fyw ar-lein, neu drwy fideo wedi'i recordio ymlaen llaw, dylech ddarparu eich cyfeiliant eich hun. Mae traciau cefndir hefyd yn dderbyniol.
Os ydych yn darparu fideo wedi'i recordio ymlaen llaw:
- Dylai eich fideo fod heb ei olygu, a'r sain heb ei brosesu.Â
- Rhaid i'ch wyneb fod yn y golwg, ac (os ydych chi'n offerynnwr) dylai eich dwylo fod yn y golwg hefyd. Ceisiwch sicrhau nad oes golau llachar y tu ôl i chi (er enghraifft, ffenestr).Â
- Cyhoeddwch eich enw llawn a theitl(au) a chyfansoddwr(wyr) y darnau y byddwch chi'n eu perfformio ar ddechrau'r fideo.Â
- Gwnewch yn siŵr bod teitl eich fideo yn cynnwys eich enw.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni ar cerddoriaeth@bangor.ac.ukÂ
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn Cerddoriaeth yn cynnig rhagolygon gwych o ran cyflogaeth a bydd y sgiliau a ddatblygwch yn fodd ichi ragori mewn amryw o yrfaoedd cerddorol. Yn ogystal â gweithio fel cyfansoddwyr, perfformwyr, cyfansoddwyr caneuon, golygyddion, telynegwyr ac arweinwyr, mae llawer o'n graddedigion yn gweithio gyda cherddorfeydd, tai opera, neu ganolfannau’r celfyddydau fel cyfarwyddwyr cerdd, cydlynwyr creadigol, a gweinyddwyr. Mae galw mawr am raddedigion cerddoriaeth bob amser yn y cyfryngau a chyda chwmnïau recordio, yn dechnegwyr, yn gynhyrchwyr, yn gynllunwyr rhaglenni ac yn ysgrifenwyr. Ymhlith y gyrfaoedd posibl eraill mae newyddiaduraeth arbenigol mewn cerddoriaeth, cyhoeddi cerddoriaeth, llyfrgellyddiaeth gerdd a marchnata’r celfyddydau. Mae nifer o'n graddedigion wedi mynd yn academyddion, yn gyfansoddwyr ac yn berfformwyr o fri, ac eraill yn athrawon, ar bob lefel o addysg (gan gynnwys prifysgolion).
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â