Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Dyma'r unig gwrs Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) yn y DU sy'n cynnig 3 lleoliad gwaith gwahanol.Byddwch yn ymarfer yr hyn rydych wedi ei ddysgu mewn darlithoedd ac yn ennill profiad ymarferol o ddod â chynnyrch arloesol i’r farchnad, rheoli projectau masnachol mewn modd proffesiynol a helpu cwmnïau i fod yn fwy effeithlon, cystadleuol a pherthnasol yn y byd heddiw.
Os oes gennych ddiddordeb gwireddu eich dychymyg, dyma'r cwrs i chi. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o sectorau dylunio, ac yn cael eich trochi ym maes dylunio a gweithgynhyrchu. Byddwch yn astudio methodolegau meddwl dylunio a dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl. Ar y cwrs, byddwch yn ystyried beth yw dylunio cynnyrch? Ai...
- Gwella bywydau pobl?
- Gwella'r ffordd y mae pethau'n gweithio?
- Sut rydym yn trefnu pethau?
- Gwella ein ffyrdd o gyfathrebu?
- Sut rydym yn meddwl yn strategol?
- Defnyddio'r dychymyg i greu pethau go iawn?
- Gwneud newidiadau i gymunedau?
- Dychmygu a dylunio'r dyfodol?
- Dylunio profiadau a chynhyrchion y mae pobl yn eu hoffi?
- Gwella ac arloesi gyda chynhyrchion a gwasanaethau?
- Dechrau busnesau creadigol?
- Gwneud penderfyniadau anodd?
- Gweithio gydag eraill am y gorau?
- Gwneud y byd yn lle gwell?
Os ydych yn cytuno ag un neu fwy o'r rhain, rydych yn ddarpar ddylunydd cynnyrch! Mae Dylunio Cynnyrch yn ymwneud â throi’r dychymyg yn wirionedd. Mae popeth yn ein hamgylchedd adeiledig wedi ei greu gan bobl i bobl. Daw dylunwyr o wahanol gefndiroedd, mae gan rai sgiliau creadigol, mae gan rai sgiliau technegol, ond mae pob un yn weledydd ac wedi ymroi i wella’r byd o’u hamgylch.
Ydych chi yn barod i fod yrÌýun sy'n ysgogi'r newid, yn arloeswr ac yn arweinydd?
ÌýI weld mwy o'r hyn rydym yn ei wneud ewch i:Ìý,ÌýÌý²Ô±ð³ÜÌý²Ô±ð³ÜÌý.
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Mae gan y cwrs cyfrwng Saesneg god UCAS gwahanol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?Ìý ÌýÌý
- 1af yn y Deyrnas Unedig am Ddylunio Cynnrych (The Guardian University Guide 2025).
- Hwn yw’r unig gwrs Dylunio Cynnyrch yn y Deyrnas Unedig gyda thri lleoliad gwaith diwydiannol ar wahân.
- Datblygu sgiliau sy'n eich galluogi i ddod â chynhyrchion arloesol i'r farchnad, gan wneud bywyd yn well, yn haws ac yn fwy cynhyrchiol i ddefnyddwyr a chwmnïau.Ìý
- Dysgu rheoli projectau masnachol yn broffesiynol, er mwyn caniatáu i gwmnïau fod yn fwy effeithiol, cystadleuol a pherthnasol yn y byd sydd ohoni.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs dylunio hwn yn wahanol i unrhyw gwrs arall yn y Deyrnas Unedig gan ei fod yn caniatau i chi deilwra eich profiadau wrth eich paratoi at fod yn ysgogwr newid, yn arloeswr ac yn arweinydd.Ìý
Ìý
Yn ystod y cwrs tair blynedd hwn, byddwch yn datblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddod â chynhyrchion arloesol i'r farchnad a gwneud bywyd yn well, yn haws ac yn fwy cynhyrchiol i gwsmeriaid sy'n gwerthfawrogi ffordd newydd o wneud pethau. Byddwch yn dysgu rheoli projectau masnachol mewn modd proffesiynol, er mwyn caniatáu i gwmnïau fod yn fwy effeithiol, cystadleuol a pherthnasol yn y byd sydd ohoni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth, a helpu i roi ar waith y pethau hynny a fydd er lles pobl a'r blaned.Ìý
Ìý
Mae ein graddedigion yn hyderus y bydd eu hegni a'u cyfraniad yn eu galluogi i ragori mewn unrhyw swydd a chael eu gwerthfawrogi gan ddiwydiant. Mae dros 90% o'n myfyrwyr yn dod o hyd i swyddi'n syth ar ôl graddio, ac mae llawer ohonynt yn cael swydd gyda'r cwmnïau lle buont ar leoliad gwaith yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Ìý
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i roi sylfaen eang i chi mewn dylunio trwy brojectau byw a phrofiad gyda diwydiant a cheir pedwar modiwl ym mhob blwyddyn:
- Profiad Gwaith
- Astudiaeth Pwnc Dylunio (dau fodiwl)Ìý
- Ymarfer Proffesiynol
Dyma'r unig gwrs yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig tri lleoliad gwaith, un bob blwyddyn gyda chwmni o'ch dewis. Mae hyn yn eich galluogi i deilwra eich profiadau i gyd-fynd â'ch dyheadau o ran gyrfa ac yn eich galluogi i arbenigo neu feithrin profiadau amrywiol y bydd cyflogwyr y dyfodol yn eu gwerthfawrogi.Ìý
Bydd amrywiaeth o friffiau'n eich herio ac yn eich datblygu'n greadigol ac yn broffesiynol. Bydd projectau gyda phartneriaid diwydiannol yn darparu sylfaen a chyd-destun i ddeall sut mae diwydiant yn gweithio. Eich her fydd bod yn greadigol a sicrhau eich bod yn arloesi yn y briff a roddir i chi.Ìý
Mae ein graddedigion yn gyflogadwy iawn ac mae eu meddylfryd a'u sgiliau dylunio bellach yn cael eu defnyddio i wneud y byd yn lle gwell, maent yn datrys problemau i gwsmeriaid, defnyddwyr, cleientiaid a chwmnïau ledled y byd.Ìý
Mae profiad mewn lleoliad gwaith yn cynnwys 24 wythnos dros dair blynedd:
- Bloc 8 wythnos pob blwyddyn
- Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol
- Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt o’r coleg
- Cynhyrchu portffolio ardderchog
- Profiad o gydweithredu
- Cymryd rhan mewn projectau go iawnÌý
- Datblygiad personol a phroffesiynol
- Profiadau a ysgogir gan yrfaoedd
Mae'r sgiliau a'r doniau a ddysgwyd ar leoliad gwaith ac yn ystod astudiaeth yn y brifysgol yn drosglwyddadwy i'r byd go iawn, gyda llawer o'n myfyrwyr yn parhau i weithio i'r cwmni lle buont ar eu lleoliad gwaith trydedd blwyddyn ar ôl graddio. Mae rhai o'r cwmnïau lleoliadau y mae ein myfyrwyr wedi bod ynddynt yn cynnwys:
- Unilever
- Bentley
- International Safety Components
- CK Tools
- Fifth Wheel Company
- Prism Medical UK
- JCB
- Jaguar Land Rover
- Westbridge Furniture Design
- DMM
- Survitec
Yn y modiwlau Astudiaeth Pwnc Dylunio byddwch yn astudio methodolegau dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl a meddylfryd dylunio. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Egwyddorion Meddylfryd Dylunio
- Creadigrwydd
- Cyfathrebu a Modelu Dylunio
- Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM)
- Sgiliau Gweithgynhyrchu
- Prototeipio
- Datblygu Cynaliadwy a'r Economi Cylchol
- Sgiliau CyflwynoÌý
Mae'r darlithoedd Ymarfer Proffesiynol wedi eu cynllunio i'ch dysgu am y pethau sy'n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch ym myd diwydiant:
- Arloesi Dylunio ar gyfer Diwydiant
- Arweinyddiaeth StrategolÌý
- Rheoli Projectau
- Sefydliadau a Rheolaeth
- Marchnata
- Sgiliau Cyflwyno
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Dylunio Cynnyrch (Cyfrwng Cymraeg) BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Dylunio Cynnyrch
Mae gennym weithdy prototeipio aml-ddefnyddiau. Yn y gweithdy hwn, cewch ddefnyddio’r holl offer sydd ar gael i’ch galluogi i ddatblygu a chynhyrchu prototeipiau sy'n gweithio'n llawn a gwella eich sgiliau cynhyrchu er mwyn dod i wybod am yr arferion mewn diwydiant. Mae staff technegol a staff darlithio yn y gweithdy trwy’r amser yn ystod sesiynau addysgu pwrpasol er mwyn datblygu eich sgiliau.
Mae’r offer penodol yn cynnwys:
- Driliau piler
- Amrywiaeth o beiriannau sandio a llathrwyr metel
- Cylchlifiau
- Turniau metel a pheiriannau llifanu
- Ardaloedd ffurfio metel poeth
- Cwpwrdd siotsgwrio
- Ardaloedd ffurfio gwres plastig
- Torwyr laser a ffurfwyr gwactod
- Cyfleusterau ac offer turnio pren penodol
- Cyfleusterau mowldio cyfansawdd a silicon
- Bwth chwistrellu paent a mannau gorffen
- Offer torri finyl ac argraffu sychdarthiad
- Turn CNC, peiriant llifannu, torrwr plasma a llwybryddion
- Cyfleusterau argraffu 3D diwydiannol a thanc golchiÌý
- Mannau stiwdio gyda mynediad at 20 argraffydd 3D bach
Mae gennym ystafell CAD gyda 35Ìýpeiriant manyleb uchel. Defnyddir yr ystafell hon ar gyfer darlithoedd (CAD, graffeg ddigidol, ymarfer proffesiynol) a hefyd i fyfyrwyr eu defnyddio'n annibynnol yn ôl yr angen (bydd myfyrwyr hefyd yn cael meddalwedd arbenigol gan gynnwys Solidworks, Adobe Creative Suite a Microsoft Office).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Cyfweliadau:ÌýBydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad yn cael eu gwahodd i i gyfarfod adolygu portffolio (gyfweliad).Ìý
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan cynnwys gradd C mewn Dylunio a Thechnoleg neu bwnc Celf/Peirianneg.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Cyfweliadau:ÌýBydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad yn cael eu gwahodd i i gyfarfod adolygu portffolio (gyfweliad).Ìý
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý gan cynnwys gradd C mewn Dylunio a Thechnoleg neu bwnc Celf/Peirianneg.ÌýNi dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Ar hyn o bryd mae gan ein cwrs gradd Dylunio Cynnyrch Cymhwysol un o'r cyfraddau cyflogadwyedd uchaf yn y wlad. Mae hyn oherwydd strwythur y cwrs sy'n troi ein graddedigion yn ddylunwyr proffesiynol a chyflogadwy iawn ac mae pob un o'n myfyrwyr yn cytuno bod y cwrs yn darparu paratoad rhagorol at swyddi mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi cael gwaith fel:
- Dylunwyr mewn asiantaethau
- Dylunwyr cynnyrch mewn cwmnïau ymgynghorol
- Arbenigwr technegol mewn peirianneg a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur
- Peirianwyr cynhyrchu
- Rheolwyr cynhyrchu
- Dylunwyr technegol
- Dylunio mewnol
- Dylunio dodrefn
- Peirianwyr dylunio
- Dylunwyr graffeg
- Dylunwyr digidol
- Dylunwyr gemwaith
- Rheolwyr marchnata
- Rheolwyr datblygu busnes
- Arweinwyr datrysiadau arloesol
- Rheolwyr strategaethau
- Perchnogion busnes hunangyflogedig
- Ymgynghorwyr annibynnolÌý
- Athrawon uwchradd
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.