Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi ymgysylltu â chwestiynau sylfaenol bywyd: Beth mae bod yn fod dynol yn ei olygu? Sut dylen ni ddatrys penblethau moesegol? A yw'n bosibl profi bod Duw yn bodoli? Mae ein cwrs yn dwyn ynghyd fodiwlau sy'n archwilio moeseg, athroniaeth ddadansoddol a chyfandirol, a chrefyddau'r Dwyrain a'r Gorllewin. Os oes gennych feddwl ymholgar ac eisiau meithrin sgiliau newydd - efallai mai hwn fydd y cwrs i chi.
Dysgir pob un o'n modiwlau gan arbenigwyr ym meysydd Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd sy’n rhagori mewn meysydd fel eithafiaeth grefyddol, dirfodaeth, moeseg gymhwysol, estheteg, astudiaethau ar yr Holocost ac astudio crefyddau'r byd. Bob blwyddyn gallwch ddewis o ystod eang o gyrsiau, a heb unrhyw fodiwlau gorfodol yn eich blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn, gallwch deilwra'ch gradd i'ch diddordebau eich hun. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, byddwch eto'n gallu dewis y rhan fwyaf o'ch modiwlau ond bydd gofyn i chi hefyd gwblhau prosiect annibynnol a fydd yn rhoi cyfle i chi ymchwilio i bwnc o'ch dewis ar lefel uwch.
Dysgir ein cyrsiau trwy ddarlithoedd a seminarau rhyngweithiol, lle gallwch archwilio a thrafod rhai o'r materion athronyddol, moesegol a chrefyddol mwyaf arwyddocaol sy'n wynebu dynoliaeth heddiw. Cewch gyfle hefyd i gwrdd â'ch darlithwyr ar gyfer sesiynau tiwtorial un i un neu mewn grwpiau bach i drafod a datblygu eich syniadau ymhellach.Ìý
Mae ein staff yn ymroddedig i ddatblygu eich potensial academaidd a phersonol i'r eithaf, gan sicrhau eich bod yn barod i lwyddo ar ôl graddio.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Byddwch yn cael cyfle i arbenigo yn eich gradd mewn athroniaeth, moeseg neu grefydd.
- Byddwch yn elwa o arbenigedd staff a’u hymrwymiad i addysgu, a gofal dros fyfyrwyr a'u lles.
- Mae ein staff yn weithgar mewn ymchwil ac yn cynnwys ymchwil gyfredol yn eu haddysgu.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Dysgir pob modiwl drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau.
- Caiff darlithoedd eu harwain gan diwtor cwrs ble cewch eich cyflwyno i'r themâu a'r materion canolog sydd i'w trafod trwy gydol y modiwl.Ìý
- Bydd seminarau wythnosol yn cyd-fynd â darlithoedd sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr fynegi eu syniadau neu drafod pynciau mewn grwpiau bach.Ìý
- Defnyddir Blackboard hefyd yn rhan o’r modiwlau, sef cyfrwng dysgu ar-lein y brifysgol.
Trwy gydol eich gradd byddwch yn cael cyfle i gwblhau gwahanol fathau o asesiadau, megis: arholiadau, traethodau, astudiaethau achos, dadansoddi testun, adolygiadau ffilm, cyflwyniadau, podlediadau a rhestri termau. Trwy gwblhau ystod mor amrywiol o asesiadau, cewch gyfle i ddatblygu ystod eang o wahanol sgiliau ac arddulliau ysgrifennu a fydd yn amhrisiadwy yn eich gyrfaoedd maes o law. Byddwch yn cael adborth helaeth ar bob aseiniad, er mwyn sicrhau eich bod yn gallu gwneud cynnydd yn barhaus trwy gydol eich gradd.
Os ydych yn bryderus am un o'n ffyrdd asesu yn rhai o'n modiwlau, efallai y gallwn ddarparu asesiad amgen i chi (a fydd yn ymdrin â chanlyniadau dysgu tebyg ar gyfer y modiwl).
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bwriad eich blwyddyn gyntaf yw rhoi cefndir sylfaenol i chi mewn testunau'n ymwneud ag Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd fel eich bod yn ymgyfarwyddo â'r pynciau hyn, hyd yn oed os nad ydych wedi eu hastudio o'r blaen. Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y gwahanol sgiliau y bydd arnoch eu hangen i astudio’n ddiweddarach ym mlynyddoedd 2 a 3. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn darperir ystod o fodiwlau crefyddol, moesegol ac athronyddol i chi, gyda llawer ohonynt yn berthnasol i faterion sy'n destun pryder ar hyn o bryd. Ym Mlwyddyn 3 mae'r modiwlau sydd ar gael yn cynnwys modiwl traethawd hir, sy'n ymwneud ag astudio'n annibynnol gyda chefnogaeth destun o'ch dewis o unrhyw un o'r modiwlau yr ydych chi wedi eu hastudio yn yr ysgol. Modiwl y traethawd hir yw'r unig fodiwl gorfodol yn y rhaglen radd hon.
Yn ystod pob semester byddwch yn astudio modiwlau sy’n cyfateb i 60 credyd, sef cyfanswm o 120 credyd y flwyddyn.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Gall myfyrwyr ymuno â'r prosiect RE-Connect sy'n ceisio helpu myfyrwyr i gael profiad o ddysgu Astudiaethau Crefyddol i fyfyrwyr ysgol uwchradd.
- Mae gan fyfyrwyr fynediad at ystod o arteffactau ac adnoddau crefyddol.Ìý
- Cyfleoedd i ddarllen testunau a llawysgrifau prin.Ìý
- Cyfleoedd i ymgysylltu ag aelodau o wahanol gymunedau crefyddol.Ìý
- Cyfleoedd i ymweld â'r pedwar prif safle pererindod yng Ngogledd Cymru.Ìý
- Mae gan yr Ysgol ei hystafell gyffredin ei hun i fyfyrwyr lle mae cyfrifiaduron ar gael.
- Mae gan yr Ysgol ei chyfnodolyn ei hun lle gall myfyrwyr gyhoeddi eu gwaith.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 120Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 -128Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Ìýystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Trwy astudio Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn y farchnad swyddi heddiw. Er enghraifft, mae ein gradd yn annog myfyrwyr i ddatblygu ystod o sgiliau fel datrys problemau, dadansoddi a gwerthuso, cyfathrebu a chyflwyno, empathi a sgiliau cymdeithasol, creadigrwydd, ffurfio dadl neu safbwynt y gellir ei gyfiawnhau, rheoli amser, sgiliau trefnu a gwaith tîm. Caiff y sgiliau trosglwyddadwy hyn eu gwerthfawrogi gan ystod eang o gyflogwyr a gallant arwain graddedigion Gwleidyddiaeth at gyflogaeth mewn ystod o wahanol feysydd megis:
- Gwasanaethau cyfreithiolÌý
- Addysgu ac addysgÌý
- Y byd academaiddÌý
- ³Ò·É±ô±ð¾±»å²â»å»å¾±²¹±ð³Ù³óÌý
- Gwaith Cymdeithasol
- Rheoli digwyddiadauÌý
- °ä²â´Ú°ù¾±´Ú²â»å»å¾±´Ç²ÔÌý
- Busnes a RheolaethÌý
- µþ²¹²Ô³¦¾±´ÇÌý
- Y Gwasanaeth CarcharÌý
- Amgueddfeydd, Treftadaeth a'r CelfyddydauÌý
- °ä·É²Ô²õ±ð±ô²¹Ìý
- Newyddiaduraeth
- °ä²â³ó´Ç±ð»å»å¾±Ìý
- Y WeinidogaethÌý
- Gofal iechyd
- Asiantaethau dielw
- Y CyfryngauÌý
Mae llawer o fyfyrwyr yn mynd ymlaen i wneud graddau uwch sy'n arwain at MA, Mhres neu PhD.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý