Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd y cwrs hwn yn cynnig gwybodaeth, sgiliau a phrofiad cyfreithiol eang i chi wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o feddwl ac ymddygiad dynol. Gallwch astudio cyfraith droseddol gyda seicoleg fforensig neu gyfraith cwmnïau gyda seicoleg defnyddwyr, gan sicrhau bod gennych sylfaen gadarn ar gyfer y llwybr gyrfa o’ch dewis. Bydd ein tîm ymroddedig o gyfreithwyr a throseddegwyr yn cynnig gwybodaeth fanwl i chi am y materion cyfreithiol cyfoes sy'n siapio ein bywydau a chymdeithas. Bydd ein cysylltiadau cryf â phroffesiwn y gyfraith a diwydiant yn cynnig cyfleoedd ymarferol cyffrous i chi gael profiadau 'byd go iawn'.
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i feithrin eich annibyniaeth ddeallusol. Cewch eich cefnogi i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau fydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol, i ofyn ac ateb cwestiynau effeithiol am y gyfraith a'i chyfraniad at gymdeithas, ac i gyfleu eich dadleuon rhesymegol mewn modd effeithiol, ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Byddwch yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd o egwyddorion a gwerthoedd y gyfraith a chyfiawnder, a byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio'r gyfraith er budd unigolion a chymdeithasau, gan gynnwys rhai sydd fwyaf ar gyrion ein cymuned.
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio meysydd gwybodaeth gyfreithiol sylfaenol. Er enghraifft, yn y modiwl Cyfraith Gyhoeddus byddwch yn dysgu am sut mae'r wlad yn cael ei threfnu a'i rhedeg; mae’r modiwl Cyfraith Droseddol yn cynnwys archwilio cosbau ac adsefydlu unigolion sy'n torri'r gyfraith, ac yn y modiwl Cyfraith Contractau byddwch yn dysgu am sut mae cytundebau cyfreithiol yn cael eu gwneud ac yn gweithredu rhwng pobl a chwmnïau. Yn ogystal â hyn, cewch y cyfle i astudio pynciau fel Iaith a'i Anhwylderau, yr Ymennydd a'r Meddwl a Dysgu Bod yn Hapus.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis o blith modiwlau dewisol cyffrous y gyfraith fel Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Fasnachol, Hawliau Dynol, Athroniaeth y Gyfraith a Chyfraith Teulu. Os dewiswch ein modiwl lleoliad gwaith, cewch gyfle i gael profiad gwaith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
Byddwch yn cymryd rhan weithredol yn eich dysgu. Nid eistedd a darllen mo'r cyfan. Byddwch yn dysgu sgiliau dadlau, eirioli a thrafod trwy amrywiaeth o gyfleoedd fel rhan o weithgareddau modiwlau a gweithgareddau allgyrsiol. Byddwch hefyd yn elwa o weithgareddau datblygiad proffesiynol, teithiau i sefydliadau llywodraethol a barnwrol, ac amrywiaeth eang o siaradwyr gwadd.
Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae’r Ysgol Seicoleg yn un o'r 100 adran seicoleg orau yn y byd (QS World University Ranking).
- Amgylchedd astudio cefnogol gydag ystafell ffug-lys bwrpasol, llyfrgell y gyfraith a dosbarthiadau bach sy'n galluogi cysylltiad didrafferth â'r darlithwyr.
- Cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o bob modiwl gorfodol y gyfraith, a gellir astudio rhai o'r modiwlau dewisol yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o ddulliau dysgu trwy gydol eich cwrs, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau bach (tiwtorialau), amgylcheddau dysgu ar-lein, astudio hunan-gyfeiriedig neu gydweithredol, dysgu trwy brofiad a dysgu ar sail problemau. Ìý
Bydd eich wythnos arferol yn cynnwys deuddeg awr o ddarlithoedd ynghyd â thiwtorial bob pythefnos fydd yn para am awr.
Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn meithrin sgiliau hunan-reoli, gan gynnwys y gallu i adfyfyrio ar eich dysgu eich hun, gwneud defnydd effeithiol o adborth a'r gallu i weithio mewn tîm. Ìý
Byddwch yn datblygu'r gallu i wneud ymchwil annibynnol, gan gynnwys nodi materion sy'n gofyn am ymchwilio, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol a chwilio am wybodaeth berthnasol o amrywiaeth o ffynonellau priodol, gan gynnwys ffynonellau cyfreithiol sylfaenol.
Bydd lefel yr her a'r cyflawniad yn cynyddu'n raddol i chi trwy gydol eich cwrs.
Bydd ein gweithdrefnau dysgu, addysgu ac asesu yn rhoi cyfle i chi ddangos eich bod wedi dysgu'r sgiliau a'r priodweddau angenrheidiol yn eich cwrs. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymarfer cynhwysol ac yn sensitif i ofynion cyfle cyfartal yn unol ag arfer da a rhwymedigaethau deddfwriaethol perthnasol.
Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu i bennu eich cyflawniad cyffredinol; gall yr asesiadau hyn fod wedi eu hamseru neu beidio, wedi eu gweld ymlaen llaw neu beidio, yn barhaus neu'n seiliedig ar arholiadau. Ìý
Gall y tasgau y gofynnir i chi eu cyflawni gynnwys traethodau ac adroddiadau o hyd amrywiol; nodiadau achos; dehongliad statudol; briffiau; beirniadaeth o erthyglau; cyflwyniadau llafar/fideo; dadleuon; asesiadau ar sail sgiliau; cyfnodolion dysgu adfyfyriol; project ymchwil/traethawd hir; ac asesiadau gwaith/clinig.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 120 credyd o'r pynciau canlynol,ÌýCyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Sgiliau Cyfreithiol, Cyfraith Gyhoeddus, Cyflwyniad i Gyfiawnder TroseddolÌýaÌýChyflwyniad i Droseddeg.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 120 credyd o’r pynciau canlynol,ÌýEcwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith Tir, Y Gyfraith, Cyfiawnder a Gweithdrefn, Cyfraith Camwedd, Trosedd a Chyfiawnder ym Mhrydain FodernÌýaÌýDeall Trosedd.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o’r pynciau canlynolÌýCyfraith y DU, yr Undeb Ewropeaidd a Brexit, Safbwyntiau ar Droseddau Ieuenctid, Pwer, Trosedd a Chosb, Sgiliau Proffesiynol Ymarferol, Cyfraith ac Ymarfer Busnes, Ymarfer EiddoÌý²¹³¦ÌýEwyllysiau ac Ystadau. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd 40 credyd o'r pynciau megis,ÌýCyfraith Cymru, Cyfraith Datganoli, Cyfraith Busnes ac Ymarfer, Cyfraith Fasnachol, Traethawd Hir Cyfraith Droseddol, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ryngwladol a Materion Cyfoes, Cyfraith Ryngwladol y Môr, Cyfraith a Thechnoleg, Cyfraith, Cyfiawnder a Hawliau, Cyfraith y Cyfryngau, Sgiliau Proffesiynol Ymarferol, Ymarfer Eiddo, EwyllysiauÌý²¹³¦ÌýYstadau a Lleoliad Gwaith.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Y Gyfraith
- Mae gennym lyfrgell y Gyfraith wedi'i lleoli yn hyfrydwch Ystafell Ddarllen Lloyd ym mhrif lyfrgell y Celfyddydau, y buddsoddwyd ynddi’n sylweddol gan y Brifysgol a chymwynaswyr eraill.
- Mae Llyfrgell y Gyfraith yn darparu ffynonellau print ac electronig i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr, a chaiff ei datblygu’n gyson i adlewyrchu’r gweithgareddau addysgu ac ymchwil diweddaraf ym maes y Gyfraith. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys dogfennau cyfeiriol, statudau, adroddiadau’r gyfraith, cyfnodolion, gwerslyfrau, pamffledi, adroddiadau’r llywodraeth, papurau newydd a chronfeydd data cyfreithiol ar-lein.
- Ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwneud ymchwil fanylach ar lefel Meistr neu PhD, mae Archifau’r Brifysgol yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd hanesyddol a nifer o ffynonellau gwreiddiol.
- Ystafell ffug lys bwrpasol sy'n galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol. Mae Ystafell y Ffug Lys yn caniatáu i'n myfyrwyr ymarfer cyflwyno achosion mewn lleoliad priodol, cymryd rhan mewn treialon, cynrychioli’r partïon a dysgu sut i ymddwyn mewn llys barn.
Ìý
Ìý
Cyfleusterau Seicoleg
Drwy gydol eich gradd bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a byddwch yn defnyddio rhai o'r cyfleusterau hyn fel ymchwilwyr yn ystod eich prosiect yn y drydedd flwyddyn. 
Mae gan yr Ysgol Seicoleg ei Sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) Philips Elition 3T.MRI/fMRI ei hun ar gyfer ymchwil pwrpasol. Gosodwyd ein sganiwr ymchwil-bwrpasol newydd yn haf 2019 yn y prif adeilad seicoleg. Mae'r sganiwr hwn yn cynnig techneg delweddu MR arloesol ac yn cynnwys technoleg tracio llygaid sy'n gydnaws ag MRI ac yn gallu gwneud recordiadau EEG y tu mewn i’r sganiwr. Gerllaw mae sganiwr ffug i gefnogi astudiaethau hyfforddi a gweithio gyda phlant. Mae gan y sganiwr hefyd gyfarpar delweddu cardiaidd 4D, cyfarpar delweddu trylediad tensor, a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig. Enghraifft o sut y gallwch ddefnyddio'r sganiwr, ar wahân i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yw y bu myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn sy'n gwneud eu prosiect yn labordy Dr Koldewyn yn rhan o astudiaethau sy'n cynnwys ymateb yr ymennydd i ryngweithio cymdeithasol a arsylwyd, gan gynnwys casglu data a dadansoddi data datblygiadol gan blant oed cynradd.
Mae arbenigedd mewn dulliau electroffisiolegol (EEG/ERP) yn gryfder arbennig yn yr Ysgol. Mae Labordy Electroenceffalograffi a Thopograffi Mynediad Agored yr Ysgol Seicoleg (Y Labordy POET) yn cynnwys bwth profi gwanhäwr sain wedi'i gysgodi'n llawn, System BioSemi EEG 128 sianel, a'r holl offer sy'n angenrheidiol ar gyfer arbrofion EEG/ERP clywedol a gweledol, gyda thechnoleg tracio llygaid cydamserol o bell. Ar wahân i gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn wedi cael cyfle i fod â rhan weithredol yn y labordy EEG/ERP ar gyfer eu prosiect.Ìý
ÌýÌý
Ar hyn o bryd, defnyddir y labordy POET i ymchwilio i ystod amrywiol o bynciau fel:Ìý
- dysgu peirianyddol i ragfynegi dilyniannau echddygol o weithgarwch EEG
- datblygiad cymdeithasol a hunan-ganfyddiad mewn babanod
- datblygu dadansoddiadau o dreialon EEG unigol i gymharu prosesu iaith mewn grwpiau nodweddiadol a grwpiau sydd â heriau datblygiadol.
Mae gan Labordy Ysgogi’r Ymennydd ddau fath gwahanol o offer ysgogi - offer ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS), ac offer ysgogi cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS). Mae ysgogiad trawsgreuanol magnetig yn dechneg anymwthiol sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf i darfu am gyfnod byr ar brosesu celloedd nerfol mewn rhan fechan o arwyneb yr ymennydd. Caiff cerrynt trydanol ei yrru am gyfnod byr iawn drwy’r ddyfais ysgogi - coil o wifrau copr (wedi'u hamgáu mewn plastig) a ddelir ar groen y pen. Mae’r cerrynt hwn yn creu maes magnetig o gwmpas y coil sydd, yn ei dro, yn creu cerrynt trydanol yn y celloedd nerfol ar arwyneb yr ymennydd. Pan fo’r celloedd nerfol yn cael eu hysgogi, ac am ryw ddegfed ran o eiliad wedyn, ni allant gyflawni eu swyddogaethau arferol. Nid yw hyn yn achosi unrhyw niwed nac anaf i’r celloedd nerfol.
Gelwir yr ail fath o ysgogiad yn ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS), ac fel yr ysgogiad trawsgreuanol magnetig, mae'n anymwthiol ac yn ddi-boen. Mae'n defnyddio ceryntau trydanol dwysedd isel i gyffroi neu atal gweithgarwch niwronau mewn rhannau penodol o'r ymennydd. Mae'r ddwy system hyn wedi eu rhyngwynebu mewn arbrofion gydag offer ar gyfer tracio llygaid, electromyograffeg (EMG), electroenceffalograffi (EEG), ac ar gyfer recordio cinematig.
Mae’r Ysgol Seicoleg yn gartref i nifer o labordai ar gyfer dal symudiadau cymhleth yr holl gorff a’i aelodau ar gyfer ymchwil. Ymhlith yr offer a ddefnyddir i wneud hyn mae System dal symudiadau Polhemus (16-sianel). Mae’r labordai yn ein galluogi i astudio gweithredoedd medrus gyda chryn fanwl gywirdeb gofodol-amserol.
Mae rhai enghreifftiau diweddar o weithgarwch yn y labordai hyn yn cynnwys yr Athro Robert Ward yn ymchwilio i sut mae arsylwyr yn dirnad gwybodaeth am symudiad y corff, ac i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddibynadwy neu'n dwyllodrus. Mae’r Dr. Koldewyn wedi defnyddio'r systemau i gofnodi patrymau chwilio yn ystod tasg chwilio gorfforol a ddyluniwyd i archwilio pa mor gyflym mae plant yn dysgu lle mae gwrthrych targed yn debygol o fod, a sut mae arsylwi eraill yn dylanwadu ar y dysgu hwnnw. Roedd myfyrwyr a oedd yn gwneud eu project trydedd flwyddyn yn ymwneud â dylunio'r astudiaeth ac â chasglu data gan blant oed cynradd.
Ìý
Cyfleusterau dan arweiniad ymchwilwyr. Yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored i’w rhannu, mae gan yr ysgol gyfleusterau arbenigol iawn yn neilltuol ar gyfer academyddion penodol, megis:Ìý
- sawl labordy EEG pwrpasol yn ychwanegol at ein cyfleuster mynediad agoredÌý
- dau labordy gwrthsain ar gyfer astudiaethau clywedol
- systemau adborth gorfodol rhithrealiti a realiti estynedig a reolir yn robotig
- dyfeisiau symudol ar gyfer tracio llygaid a symudiadau beiro ar gyfer astudio datblygiad llythrennedd mewn ysgolion ac yn y labordy
- labordy bwyd a seicoffarmacoleg yn cynnwys caledwedd a meddalwedd ar gyfer peiriant dosbarthu bwyd arbenigol
- ystafelloedd dadansoddi fideo ar gyfer ffitrwydd cardio-anadlol plant a sgiliau symud sylfaenol
- Bysellfwrdd Ìýtrawsddygiadur grym sy'n gydnaws ag MRI (10-sianel) i recordio gwasgiadau bysedd y ddwy law yn barhaus gan gynnwys symudiadau paratoadol ac adlewyrcholÌý
- Labordy Doppler Sonograffeg Trawsgreuanol ble gellir mesur llif y gwaed i bob hanner o'r ymennydd
Mae'r Ysgol yn rhannu trwyddedau’r Brifysgol a’r Coleg ar gyfer llwyfannau Qualtrics a Pavlovia i hwyluso ymchwil ar-lein.Ìý
Mae sawl panel cyfranogwyr ar gael i helpu ymchwilwyr yn yr Ysgol Seicoleg i recriwtio cyfranogwyr. Fel myfyriwr seicoleg byddwch yn cymryd rhan yn y panel myfyrwyr (SONA) ac mae ein myfyrwyr i gyd yn cymryd rhan mewn tua 4000 awr o ymchwil yn gyffredinol bob blwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnal paneli cyfranogwyr arbenigol a allai fod yn rhan o'ch prosiect trydedd flwyddyn:
- Panel cleifion niwrolegol, mewn cydweithrediad â'r GIG.
- Panel anhwylderau dysgu: yn canolbwyntio ar ddyslecsia (mewn cydweithrediad â Chanolfan Dyslecsia Miles yr Ysgol) ac yn cynnwys anhwylderau dysgu eraill ymhlith oedolion sy'n cymryd rhan
- Panel Cyfranogwyr Cymunedol: sy'n ddefnyddiol ar gyfer adnabod siaradwyr dwyieithog, pobl â dyslecsia, yr henoed, ac yn enwedig ar gyfer recriwtio rheolyddion cyfatebol ar gyfer astudiaethau achos cleifion, ac ar gyfer darparu cronfa o gyfranogwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg
- Cronfa Ddata Babanod/Plant
Mae ymchwilwyr seicoleg sy'n astudio datblygiad plant yn elwa o berthynas agos â Meithrinfa TÃr na nÓg Bangor. Mae'r feithrinfa'n darparu adnodd unigryw i ymchwilwyr yn y grwpiau ymchwil Clinigol, Iechyd, Ymddygiad ac Iaith, Dwyieithrwydd, ac Ymchwil Datblygu Gwybyddol. Mae gan TÃr na nÓg gyfleusterau arbennig, fel lolfa arsylwi a chamerâu fideo. Yn unol â chydsyniad rhieni neu warcheidwaid y plant, gellir arsylwi’r plant i gael dealltwriaeth bellach o iaith, dysgu a datblygiad.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Nodwch: Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Nodwch: Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd yn y Gyfraith o Fangor yn agor posibiliadau gyrfa cyffrous yn y gyfraith ac mewn llawer o feysydd eraill lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac i'r blaned.
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Efallai yr hoffech weithio yn y sector cyhoeddus fel cyfreithiwr y llywodraeth, neu yn y sector preifat, ac arbenigo mewn cyfraith fasnachol, cyfraith mewnfudo neu gyfraith droseddol.Ìý
Os nad ydych eisiau ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, efallai yr hoffech weithio mewn maes lle byddai eich hyfforddiant a'ch gwybodaeth gyfreithiol yn fanteisiol a lle gallwch weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae llawer o sefydliadau anllywodraethol (elusennau) eisiau pobl â chefndir cyfreithiol i weithio fel swyddogion polisi, ymgyrchwyr a gweithwyr cynghori. ÌýMae sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n chwilio am yrfa ryngwladol.
Fel rhywun â gradd LLB yn y Gyfraith, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd gyrfa mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â'r gyfraith ond y mae'r sgiliau cyffredinol a deallusol a ddysgwyd wrth astudio am radd yn y gyfraith yn eich gwneud yn gymwys dros ben ar eu cyfer. Gall y rhain gynnwys y gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwydiannau creadigol, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a'r gwasanaeth carchardai.
Ym Mangor rydym yn gweithio'n galed i sicrhau eich bod yn cael gwybod am y nifer fawr o gyfleoedd sydd ar gael.
- Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y brifysgol yn darparu gwybodaeth hanfodol i chi er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniadau allweddol am eich dyfodol.
- Mae Swyddog Cyflogadwyedd yr ysgol yn gweithio i gynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i brofiad gwaith, yn cynnwys interniaethau a lleoliadau.
- Os byddwch yn cymryd y modiwl lleoliadau gwaith, cewch gyfle i gael profiad o waith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
- Mae'r Swyddfa Gwirfoddoli Myfyrwyr yn cynnig llawer o gyfleoedd i weithio gyda'r gymuned leol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Y Gyfraith (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Ìý
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý