Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs LLB y Gyfraith yn cynnig y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa fel cyfreithiwr, newyddiadurwr, actifydd, gwas sifil neu mewn llawer o feysydd eraill lle mae gradd yn y gyfraith yn werthfawr iawn.ÌýBydd ein tîm ymroddedig o gyfreithwyr yn cynnig gwybodaeth fanwl i chi am y materion cyfreithiol cyfoes sy'n dylanwadu ar ein bywydau a chymdeithas.ÌýYn ogystal â datblygu sgiliau cyfreithiol, bydd ein cysylltiadau cryf â phroffesiwn y gyfraith a diwydiant yn sicrhau cyfleoedd ymarferol cyffrous ar gyfer profiadau 'byd go iawn' a fydd yn sylfaen i lwybr gyrfa o'ch dewis.ÌýÌý
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i feithrin eich annibyniaeth ddeallusol.ÌýCewch eich cefnogi i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau fydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol, i ofyn ac ateb cwestiynau effeithiol am y gyfraith a'i chyfraniad at gymdeithas, ac i gyfleu eich dadleuon rhesymegol mewn modd effeithiol, ar lafar neu'n ysgrifenedig.Ìý
Byddwch yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd o egwyddorion a gwerthoedd y gyfraith a chyfiawnder, a byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio'r gyfraith er budd unigolion a chymdeithasau, gan gynnwys rhai sydd fwyaf ar gyrion ein cymuned.Ìý
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio meysydd gwybodaeth gyfreithiol sylfaenol.ÌýÌýEr enghraifft, yn y modiwl cyfraith gyhoeddus byddwch yn dysgu am sut mae'r wlad yn cael ei threfnu a'i rhedeg; mae’r modiwl cyfraith droseddol yn cynnwys archwilio cosbau ac adsefydlu unigolion sy'n torri'r gyfraith, ac yn y modiwl cyfraith contractau byddwch yn dysgu am sut mae cytundebau cyfreithiol yn cael eu gwneud ac yn gweithredu rhwng pobl a chwmnïau.ÌýÌýÌý
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis o fodiwlau opsiynol cyffrous y gyfraith fel cyfraith ryngwladol, cyfraith fasnachol, hawliau dynol, cyfraith Rufeinig a hanes cyfreithiol, athroniaeth y gyfraith a chyfraith teulu.ÌýÌýOs dewiswch ein modiwl lleoliad gwaith, cewch gyfle i gael profiad gwaith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
Byddwch yn cymryd rhan gweithredol yn eich dysgu.ÌýNid eistedd a darllen mo'r cyfan.ÌýByddwch yn dysgu sgiliau dadlau, eirioli a thrafod trwy amrywiaeth o gyfleoedd fel rhan o weithgareddau modiwlau a gweithgareddau allgyrsiol.ÌýÌýByddwch hefyd yn elwa o weithgareddau datblygiad proffesiynol, teithiau i'r llywodraeth a sefydliadau barnwrol, ac amrywiaeth eang o siaradwyr gwadd.ÌýÌý
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Amgylchedd astudio cefnogol gydag ystafell ffug-lys bwrpasol, llyfrgell y gyfraith a dosbarthiadau bach sy'n galluogi cysylltiad didrafferth â'r darlithwyr.
- Cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o bob modiwl gorfodol y gyfraith, a gellir astudio rhai o'r modiwlau dewisol yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o ddulliau addysgu trwy gydol eich cwrs, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau bach (tiwtorialau), amgylcheddau dysgu ar-lein, astudioÌýhunangyfeiriedigÌýneu gydweithredol, dysgu trwy brofiad a dysgu ar sail problemau.ÌýÌýÌý
Bydd eich wythnos arferol yn cynnwys deuddeg awr o ddarlithoedd ynghyd â thiwtorial bob pythefnos fydd yn para am awr.Ìý
Yn ystod eich amser gyda ni, cewch gefnogaeth i feithrin sgiliauÌýhunanreoli, gan gynnwys y gallu i adfyfyrio ar eich dysgu eich hun, gwneud defnydd effeithiol o adborth a'r gallu i weithio mewn tîm.ÌýÌýÌý
Byddwch yn datblygu'r gallu i wneud ymchwil annibynnol, gan gynnwys nodi materion sy'n gofyn am ymchwilio, gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol a chwilio am wybodaeth berthnasol o amrywiaeth o ffynonellau priodol, gan gynnwys ffynonellau cyfreithiol sylfaenol.Ìý
Bydd lefel yr her a'r cyflawniad yn cynyddu'n raddol i chi trwy gydol eich cwrs.Ìý
Bydd ein gweithdrefnau dysgu, addysgu ac asesu yn rhoi cyfle i chi ddangos eich bod wedi dysgu'r sgiliau a'r rhinweddau angenrheidiol yn eich cwrs.ÌýÌýRydym yn cydnabod pwysigrwydd ymarfer cynhwysol ac yn sensitif i ofynion cyfle cyfartal yn unol ag arfer da a rhwymedigaethau deddfwriaethol perthnasol.Ìý
Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau asesu i bennu eich cyflawniad cyffredinol; gall yr asesiadau hyn fod wedi eu hamseru neu ddim, wedi eu gweld ymlaen llaw neu ddim, yn barhaus neu'n seiliedig ar arholiadau.ÌýÌýÌý
Gallai'r tasgau fydd gofyn i chi eu gwneud gynnwys traethodau ac adroddiadau o hyd amrywiol; nodiadau achos; dehongliad statudol; briffiau; beirniadaeth o erthyglau; cyflwyniadau llafar/fideo; dadleuon; asesiadau ar sail sgiliau; cyfnodolion dysgu adfyfyriol; project ymchwil/traethawd hir; ac asesiadau gwaith/clinig.Ìý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 100 credyd o’r pynciau canlynol,ÌýCyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Sgiliau Cyfreithiol,ÌýCyfraith, Cyfiawnder a GweithdrefnÌýaÌýCyfraith Gyhoeddus.ÌýGall myfyrwyr ddewis modiwlau dewisol o ysgolion eraill, yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr ysgol y caiff y modiwl ei addysgu ynddi a chyfyngiadau'r amserlen sy'n caniatáu hynny. Er enghraifft yn y gorffennol mae myfyrywyr wedi dewis astudioÌýEidaleg, Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Y Gyfraith yn Gymraeg, Defnyddio'r Gymraeg, Economeg a Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol,ÌýEcwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith Tir, y Gyfraith,ÌýSgiliau Proffesiynol YmarferolÌýaÌýChyfraith Camwedd.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megis,ÌýTystiolaeth Droseddol, Cyfraith Cymru, Cyfraith Datganoli, Chyfraith Ryngwladol a Bywyd Gwyllt Mewn Perygl, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ryngwladol a Materion Cyfoes, Cyfraith Ryngwladol y Môr, Cyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Gyfraith a Thechnoleg, Materion Cyfoes mewn Cyfraith Trosedd, Cyfraith y Cyfryngau, Gwarchod Treftadaeth Ddiwylliannol, Cyfraith Fasnachol a Lleoliad gwaith.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd credyd o’r pynciau canlynol,ÌýCyfraith y DU, yr Undeb Ewropeaidd a Brexit. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd 100 credyd o'r pynciau megis,ÌýCyfraith Datganoli, Cyfraith Cymru, y Gyfraith ac Ymarfer Busnes, Cyfraith Fasnachol, Traethawd Hir, Chyfraith Ryngwladol Bywyd a Gwyllt Mewn Perygl, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ryngwladol a Materion Cyfoes, Cyfraith Ryngwladol y Môr, y Gyfraith a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Gyfraith a Thechnoleg, y Gyfraith, Cyfiawnder a Hawliau, Sgiliau Proffesiynol Ymarferol, Cadw Treftadaeth Ddiwylliannol, Ymarfer Eiddo, Ewyllysiau ac YstadauÌýaÌýLleoliad Gwaith.Ìý
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.Ìý
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Y Gyfraith
- Mae gennym lyfrgell y Gyfraith wedi'i lleoli yn hyfrydwch Ystafell Ddarllen Lloyd ym mhrif lyfrgell y Celfyddydau, y buddsoddwyd ynddi’n sylweddol gan y Brifysgol a chymwynaswyr eraill.
- Mae Llyfrgell y Gyfraith yn darparu ffynonellau print ac electronig i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr, a chaiff ei datblygu’n gyson i adlewyrchu’r gweithgareddau addysgu ac ymchwil diweddaraf ym maes y Gyfraith. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys dogfennau cyfeiriol, statudau, adroddiadau’r gyfraith, cyfnodolion, gwerslyfrau, pamffledi, adroddiadau’r llywodraeth, papurau newydd a chronfeydd data cyfreithiol ar-lein.
- Ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwneud ymchwil fanylach ar lefel Meistr neu PhD, mae Archifau’r Brifysgol yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd hanesyddol a nifer o ffynonellau gwreiddiol.
- Ystafell ffug lys bwrpasol sy'n galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol. Mae Ystafell y Ffug Lys yn caniatáu i'n myfyrwyr ymarfer cyflwyno achosion mewn lleoliad priodol, cymryd rhan mewn treialon, cynrychioli’r partïon a dysgu sut i ymddwyn mewn llys barn.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Nodwch: Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Nodwch: Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae gradd yn gyfraith o Fangor yn agor posibiliadau gyrfa cyffrous yn y gyfraith ac mewn llawer o feysydd heriol a gwerth chweil eraill lle gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ac i'r blaned.Ìý
Trwy gydol eich astudiaethau byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr.ÌýEfallai yr hoffech weithio yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, fel cyfreithiwr i’r llywodraeth, neu yn y sector preifat,Ìýefallai'nÌýarbenigo mewn cyfraith fasnachol, cyfraith mewnfudo neu gyfraith droseddol.
Os nad ydych eisiau ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, efallai yr hoffech weithio mewn maes lle byddai eich hyfforddiant a'ch gwybodaeth gyfreithiol yn fanteisiol a lle gallwch weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.ÌýÌýEr enghraifft, mae llawer o sefydliadau anllywodraethol (elusennau) eisiau pobl â chefndir cyfreithiol i weithio fel swyddogion polisi, ymgyrchwyr a gweithwyr cynghori.ÌýÌýMae sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n chwilio am yrfa ryngwladol.Ìý
Fel rhywun â gradd LLB yn y gyfraith, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd gyrfa mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â'r gyfraith ond y mae'r sgiliau cyffredinol a deallusol a ddysgwyd wrth astudio am radd yn y gyfraith yn eich gwneud yn gymwys dros ben.ÌýÌýGall y rhain gynnwys y gwasanaeth sifil, newyddiaduraeth, y cyfryngau a diwydiannau creadigol, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a'r gwasanaeth carchardai.Ìý
Yn ystod eich amser ym Mangor rydym yn gweithio'n galed i sicrhau eich bod yn cael gwybod am y nifer fawr o gyfleoedd sydd ar gael i chi fel myfyriwr graddedig.ÌýÌý
- Mae’r ysgol yn gweithio’n agos â’r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y brifysgol i ddarparu gwybodaeth hanfodol i chi er mwyn eich galluogi i wneud penderfyniadau allweddol am eich dyfodol.Ìý
- Mae Swyddog Cyflogadwyedd yr ysgol yn gweithio i gynorthwyo myfyrwyr i ddod o hyd i brofiad gwaith, yn cynnwysÌýinterniaethauÌýa lleoliadau.
- Os byddwch yn cymryd y modiwl lleoliadau gwaith, cewch gyfle i gael profiad o waith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
- Mae gan Undeb y Myfyrwyr Swyddfa Gwirfoddoli Myfyrwyr sy’n cynnig llawer o gyfleoedd i weithio gyda'r gymuned leol.Ìý
- Mae gan fyfyrwyr fynediad at y gwasanaethÌýTargetconnect, lle gall myfyrwyr ddod o hyd i swyddi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn ystod eu hastudiaethau ac wedi hynny.Ìý
- Mae pob myfyriwr yn cael cyfle i gael Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch.ÌýÌýAdroddiad sy'n rhestru eich cyflawniadau academaidd yn ogystal ag unrhyw gyflawniadau ychwanegol a chyd-gwricwlaidd yw Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch ac mae’n ychwanegiad defnyddiol iawn at unrhyw CV.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.