Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae economeg yn darparu gwahanol ffyrdd inni feddwl am y byd a sut mae'n gweithredu. Mae'n ein helpu i ddeall sut mae unigolion, busnesau a llywodraethau yn ymddwyn; ac yn rhoi cipolwg i ni o sut y dylent ymddwyn. Ar un pegwn, mae economeg yn llywio'r penderfyniadau y mae llywodraethau yn eu gwneud am rai o faterion pwysicaf ein dydd, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldeb. Mae'n llywio sut mae busnesau'n gwneud penderfyniadau am bopeth o brisio a hysbysebu i fuddsoddi mewn datblygu cynnyrch a strategaeth gorfforaethol. Ar y pegwn arall, gall ein helpu ni fel unigolion i wneud penderfyniadau gwell am ein bywydau ein hunain; gan gynnwys pa mor galed y dylem weithio a faint y dylem ei gynilo ar gyfer ein hymddeoliad.
Yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym ni dîm o academyddion cymwys a phrofiadol iawn gyda diddordebau mewn amrywiaeth eang o bynciau economaidd gan gynnwys marchnadoedd llafur, yr economi wleidyddol, economeg iechyd, economeg feintiol, datblygu rhanbarthol, ymfudo a chyllid cyhoeddus. Mae ein tîm yn ymwneud ag ymchwil o'r radd flaenaf mewn economeg, ac yn gweithio'n rheolaidd gyda llunwyr polisi yn y llywodraeth, rheoleiddwyr a melinau trafod. Maent yn ymroddedig i gyfrannu o’u dirnadaeth o fyd polisi, ymarfer ac ymchwil i'ch helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o fancio a chyllid fel egin economegydd.
Bydd y rhaglen anrhydedd sengl hon mewn Economeg yn caniatáu ichi ennill dealltwriaeth o sut mae economïau modern yn gweithio. Ar yr un pryd, byddwch yn datblygu sgiliau a fydd o werth mawr i'ch bywyd a'ch gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn dod i ddeall sut mae cwmnïau'n cystadlu, arferion unigolion fel defnyddwyr a gweithwyr, a sut mae llywodraethau'n ceisio rheoli a rheoleiddio'r prosesau hyn. Ymhellach, byddwch yn dysgu sut mae'r ffactorau hyn yn siapio cymdeithas yn gyffredinol trwy ddylanwadu ar dwf economaidd, anghydraddoldeb, cynaliadwyedd a'r ymateb i argyfyngau naturiol ac o waith dyn. Byddwch yn meithrin sgiliau mewn modelu, data a meddwl dadansoddol - sgiliau pwysig iawn i gyd ym marchnad swyddi heddiw.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Fe'ch dysgir gan staff sy’n gwneud gwaith ymchwil, gyda diddordebau mewn amrywiaeth eang o bynciau economaidd, gan gynnwys marchnadoedd llafur, economi wleidyddol, economeg feintiol, mudo a chyllid cyhoeddus.
- Gallwch gyfuno'ch astudiaeth o economeg gyda modiwlau dewisiol yn yr Ysgol Busnes (fel rheolaeth, bancio neu gyfrifeg) neu o rywle arall yn y Brifysgol (megis astudio iaith).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
The Society of Professional Economists (SPE)
Mae Ysgol Busnes Bangor cofrestru ei myfyrwyr BSc Economeg a BSc Economeg a Chyllid gyda trwy gydol ei gradd israddedig. SPE yw'r rhwydwaith mwyaf o economegwyr proffesiynol yn Ewrop tu allan i'r byd academaidd gyda mwy na 1,200 o aelodau. Gydag aelodau o bob maes o’r proffesiwn gan gynnwys cyllid a masnach, diwydiant, adrannau’r llywodraeth, ymgynghorwyr sector preifat, ysgolion busnes a phrifysgolion mae’r gymdeithas yn rhoi cyfle i chi glywed gan siaradwyr gwadd, cael mynediad i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol a derbyn diweddariadau ar ddigwyddiadau economeg gysylltiedig.Â
Cynnwys y Cwrs
O ddiwrnod cyntaf eich cwrs gradd, byddwch yn dechrau dysgu'r sgiliau i ddatblygu yn economegydd. Gallwch ddefnyddio cyfleusterau, adnoddau a ffynonellau thechnoleg gwybodaeth ragorol i gefnogi'ch taith ddysgu.
Cyflwynir yr addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Gallwch ddisgwyl cael o leiaf 12 awr o amser cyswllt yn ystod pob wythnos addysgu.
Disgwylir i chi hefyd ymgymryd ag astudio annibynnol a gwaith grŵp, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein gan ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir.Â
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol, Dulliau Dadansoddi Busnes, Economeg a Thechnegau Ariannol. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Hanfodion marchnata digidol, Sylfaen i farchnata, Cyflwyniad i gylch bywyd y gweithiwr, Cyllid personol a bancio, Egwyddorion cyfrifo ariannol, Egwyddorion cyfrifeg rheolaeth, Egwyddorion rheolaeth a threfniadaeth a Thechnoleg mewn marchnata. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 4 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o'r pynciau canlynol, Econometreg, Macro-economeg a Micro-economeg. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Economeg a masnach ryngwladol ac Economeg gyhoeddus. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 5 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd 120 credyd o bynciau fel Economeg gymhwysol a Deall yr economi fyd-eang. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 6 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.Â
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnirÂ
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Â Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnirÂ
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Nid yw economeg yn bwnc galwedigaethol - nid yw'n arwain at un llwybr gyrfa penodol. Fodd bynnag, er gwaethaf hynny, caiff ei gydnabod yn eang fel un o'r meysydd pwnc sydd â'r rhagolygon gorau ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae hyn oherwydd bod economeg yn darparu sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i fyfyrwyr, gan gynnwys:
- sgiliau dadansoddi - y gallu i ddistyllu a dadansoddi problemau cymhleth;
- dirnadaeth o’r farchnad (deall sut mae marchnadoedd yn gweithio a phwysigrwydd cymhellion;
- y gallu i weithio gyda data a'i ddefnyddio i gael dirnadaeth o'r byd go iawn.
Mae'r sgiliau hyn i gyd yn werthfawr iawn yn y farchnad swyddi ac yn golygu bod cyflogau graddedigion economeg ymhlith y mwyaf o unrhyw ddisgyblaeth. Gallwch weld y dystiolaeth yma.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.