Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Byddwch yn dysgu am yr hyn mae seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer yn ei wneud, sut maen nhw'n ei wneud, a pham. Byddwch yn dysgu gan staff arbenigol am ystod o bynciau yn amrywio o sut mae perfformwyr chwaraeon yn ffynnu dan bwysau i'r hyn sy'n cymell ymarferwyr corff i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Byddwch hefyd yn cwblhau project ymchwil gwreiddiol a fydd yn ychwanegu at yr hyn rydym yn ei wybod am gymhwyso ffactorau seicolegol sy'n gysylltiedig ag ymarfer corff a chwaraeon ac a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel seicolegydd chwaraeon.
A ydych chi'n ystyried bod yn Seicolegydd chwaraeon ac ymarfer?
P'un a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gydag athletwyr a thimau elitaidd a phroffesiynol i wella eu perfformiad neu os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn sut mae pobl gyffredin yn dysgu sut i fwynhau chwaraeon a dysgu cadw at raglen ymarfer corff yna dyma'r cwrs i chi
Seicoleg chwaraeon ac ymarfer yw'r astudiaeth o'r ffactorau seicolegol sy'n dylanwadu ar chwaraeon, perfformiad athletwyr, ymarfer corff a gweithgareddau corfforol. Mae seicolegwyr chwaraeon ac ymarfer yn ymchwilio i sut mae ffactorau seicolegol yn dylanwadu ar allu athletwyr elitaidd i berfformio dan bwysau a sut y gall cymryd rhan mewn chwaraeon hamdden ac ymarfer corff wella iechyd, iechyd meddwl a lles.
Un peth anarferol am y cwrs hwn ym Mangor yw ei fod yn canolbwyntio ar archwilio ffactorau seicoffisiolegol, fel delweddu'r ymennydd a monitro cyfradd curiad y galon yn fanwl, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut mae prosesau seicolegol a ffisiolegol yn rhyngweithio ag ymddygiad chwaraeon ac ymarfer corff athletwyr elitaidd ac ymarferwyr hamdden, ac yn gysylltiedig â hynny. Wrth i chi symud ymlaen trwy'r cwrs mae yna lawer o feysydd arbenigedd y gallwch eu harchwilio gan gynnwys agweddau mwy anarferol fel seicoleg ymddygiadau caethiwus, niwrowyddoniaeth a dulliau cwnsela a meysydd mwy traddodiadol fel dylanwad straen a phryder ar berfformiad, sgiliau seicolegol, dylanwad personoliaeth a gwahaniaethau unigol ar iechyd a pherfformiad a sut i gynllunio a gwerthuso ymyriadau.
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) i roi sylfaen raddedig i chi gael aelodaeth siartredig o'r Gymdeithas a dyma'r cam cyntaf at yrfa fel seicolegydd yn y Deyrnas Unedig ac wrth gwrs mae’n arbennig o berthnasol i yrfaoedd mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer.
Dysgu oddi wrth y gorau!
Cewch eich dysgu gan blaenllaw yn y maes. Mae staff Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi gweithio, ac maent yn dal i weithio gyda nifer o Chwaraeon Olympaidd, chwaraeon proffesiynol, y fyddin a'r GIG. Hefyd, mae’r adran ar hyn o bryd yn gartref i'r nifer mwyaf o ymchwilwyr seicoleg sy'n canolbwyntio ar berfformiad nag unrhyw le yn y byd ac mae llawer o'r pynciau a addysgir ar y cwrs hwn yn cael eu cyflwyno gan staff seicoleg sydd hefyd ag enw da rhyngwladol yn eu meysydd arbenigol.
Mae gogledd Cymru yn cynnig amgylchedd naturiol hyfryd ar gyfer eich astudiaethau, ac mae ein hadran, a sefydlwyd ym 1978, yn falch o alw ei hun yn un o'r darparwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer cyntaf a hynaf yn y byd.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP) sydd â bri rhyngwladol ac yn cynnwys labordai seicoleg chwaraeon o'r radd flaenaf.
- Mae'r staff yn cynnig arbenigedd mewn seicoleg chwaraeon ac arweinyddiaeth i gyrff gan gynnwys: Tîm Sgïo Telemark Prydain, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, UK Sport, Chwaraeon Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Lloyds TSB, Ericsson.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ym mlwyddyn 1 byddwch yn astudio sylfeini seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff, ffisioleg, dulliau ymchwil ac agweddau craidd ar seicoleg, er enghraifft swyddogaeth yr ymennydd a'r meddwl. Gallwch hefyd wneud pythefnos o brofiad gwaith sy'n canolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb i chi, datblygu eich sgiliau proffesiynol neu edrych yn fanylach ar rai agweddau ar seicoleg gadarnhaol.
Mae Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar yr elfennau allweddol sy'n ofynnol ar gyfer achrediad BPS gan gynnwys seicoleg wybyddol, cymdeithasol, datblygiadol a biolegol ochr yn ochr â chynnwys mewn seicoleg chwaraeon ac ymarfer corff a seicoffisioleg chwaraeon ac ymarfer corff. Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau dulliau ymchwil ymhellach ac yn dechrau ar y broses o ddatblygu eich project ymchwil, lle byddwch yn datblygu cwestiwn ymchwil gwreiddiol sy'n canolbwyntio ar faes sydd o ddiddordeb arbennig i chi.
Ym mlwyddyn 3 y prif ffocws yw eich project ymchwil, lle byddwch yn casglu ac yn dadansoddi data sy'n ymwneud â chwestiwn ymchwil newydd ac yn cyflwyno'r canfyddiadau ar sawl ffurf. Byddwch hefyd yn edrych yn fanwl ar bynciau fel straen a pherfformiad, personoliaeth a gwahaniaethau unigol ac yn edrych ar ffyrdd o ymyrryd ag athletwyr i wella perfformiad.
Fel rheol bydd gan fyfyrwyr un neu ddwy awr o ddarlithoedd bob wythnos ar gyfer pob modiwl, yn ogystal â chyfnodau mewn labordai, seminarau a thiwtorialau. Bydd yr amser cyswllt uniongyrchol hwn yn gysylltiedig â dysgu sy'n rhoi lle canolog i'r myfyrwyr fel darllen, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, casglu gwybodaeth a data, gweithio ar brojectau grŵp a pharatoi cyflwyniadau llafar a phoster. Y gweithgareddau hyn fydd sail eich asesiad, ynghyd ag arholiadau, astudiaethau achos a beirniadaethau ar ymchwil.
Bydd myfyrwyr yn treulio 25% o'u hamser mewn darlithoedd, seminarau a gwaith ymarferol mewn labordai. Mae’r niferoedd yn y darlithoedd, y seminarau a dosbarthiadau’r labordy i gyd yn fychain:
- Darlithoedd: 30-150
- Seminarau: tua. 12
- Sesiynau ymarferol yn y labordy: tua. 25
Mae’r dull hwn yn golygu fod gan ein myfyrwyr gysylltiad agosach â'r darlithwyr a'r tiwtoriaid ac mae pob un o’n myfyrwyr yn gallu cael cyfarfodydd personol rheolaidd gyda'r staff.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
CyfleusterauÌýGwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- labordy addysgu £1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
- 3 x labordy rheoli/profi galluedd seicoechddygol
- labordai profion seicolegÌý
- labordy dynwared gyrru
- labordy Seicoleg Cymdeithasol/Byw o’i fewnÌý
- labordy profi trochiad dŵr
Labordai Ymchwil Ffisioleg Ìý
Rydym yn cynnal profion gyda chleientiaid allanol e.e., rydym wedi profi aelodau o Sgwadiau Caiacio a Hwylio Cenedlaethol Cymru, cleifion sy'n dioddef o gyflyrau amrywiol - canser y fron, lwpws, arthritis gwynegol, problemau arennol, diabetes, gordewdra, aelodau o'r gwasanaeth tân, athletwyr elitaidd, personél milwrol, a mynyddwyr i enwi dim ond rhai. Mae'r offer yn y labordai hyn yn cynnwys:
- Dadansoddwyr ar-lein fesul anadl - mesur y ffitrwydd aerobig mwyaf posibl, defnydd ynni, awyru. Maent yn fersiwn fwy soffistigedig o'r system bagiau Douglas a welir hefyd yn y labordy hwn a'r labordy addysgu.
- Peiriant Electrocardiogram (ECG) - 12 gwifren sy'n addas ar gyfer monitro yn ystod ymarfer corff neu wrth orffwys.Ìý
- Dadansoddwr lactad/glwcos YSI.Ìý
- Melin draed gyda chyflymder o 30km, gwregys gwrthdro i ganiatáu rhedeg i lawr allt, bwa diogelwch ar gyfer rhedeg lawr allt a sbrint.
- GEM - Dadansoddwr Nwy Gwaed - yn mesur crynodiadau nwyon mewn gwaed e.e., ocsigen a charbon deuocsid ac asidau e.e., asid lactig.
- Osmomedr: ar gyfer mesur cynnwys halen mewn wrin (statws hydradiad).
- Reflatron - ffotomedr sy'n caniatáu mesur gwaed yn y capilarïau, colesterol, asid wrig, glwcos, lipoproteinau dwysedd uchel (HDY) h.y., colesterol da. Ìý
Siambr Amgylcheddol Ìý Ìý
- Gellir amrywio’r tymheredd o hyd at 40º i lawr i -20º, yn ogystal ag amrywiadau o 5-95% mewn lleithder.
- Fe'i defnyddir i fesur adweithiau wrth i'r corff brofi straen eithafol, er enghraifft, dadhydradiad. Gellir cynnal profion seicolegol hefyd wrth ymarfer corff o dan amodau o straen, er enghraifft, gweithrediad gwybyddol wrth ddadhydradu.
- Roedd profion diweddar yn cynnwys dull newydd o gofnodi tymereddau gan ddefnyddio synwyryddion/cofnodwyr data wedi'u tapio i groen pobl, gyda’r rhain yn bwydo data yn uniongyrchol i gyfrifiadur. Mae gennym hefyd y gallu i gymryd tymereddau croen a’r rhefr wrth brofi yn y siambr. Ìý Ìý
Siambr Uchder
Mae’r siambr yn caniatáu amrywio'r amgylchedd o 21% ocsigen (0 m) i 7% ocsigen (8,900m, sef uchder copa Everest) gan ddefnyddio uned sy’n ymddwyn fel gogr moleciwlar i dynnu ocsigen o’r aer. Mae'n rheoli tymheredd a lleithder yn gywir i 0.1oC ac 1%. Mae gan yr Ysgol hefyd ddwy uned gludadwy gyda system babell fel bod modd hyfforddi, cysgu ac ymaddasu at uchder 'gartref'. Trwy ddefnyddio'r siambr hon mewn cyfuniad â'r sganiwr fMRI (sydd yn yr Ysgol Seicoleg), mae'n bosibl delweddu'r ymennydd a phenderfynu pam mae pobl yn cael cur pen neu salwch mynydd difrifol sy’n aml yn angheuol. Mae astudiaethau sy'n cyfuno'r defnydd o'r siambr ag ymarfer corff wedi helpu i benderfynu a all efelychu uchder helpu pobl i golli pwysau.Ìý
- Keystone - fersiwn fwy soffistigedig o'r peiriant cyfaint ysgyfaint (sbiromedr) yn y labordy addysgu. ÌýMae'n mesur y rhan fwyaf o swyddogaethau capasiti a chyfaint yr ysgyfaint e.e., cyfaint gweddilliol (y cyfaint sy’n weddill yn yr ysgyfaint ar ôl anadlu allan yn normal) - wedi'i fesur trwy ail-anadlu nwy heliwm cymysg, ac mae'n mesur cryfder cyhyrau anadlol ac effeithlonrwydd cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint.
- Haemocue - ffotomedr sy'n mesur haemoglobin o’r gwaed yn y capilarïau.
- Llif Ffisio - cyfaint strôc ac allbwn cardiaidd h.y., faint o waed sy'n cael ei bwmpio gan y galon gyda phob curiad a fesul munud.
- Tango - pwysedd gwaed awtomataidd yn ystod ymarfer corff.
- Cardiau mesur ymdrech ganfyddedig (RPE) - a ddefnyddir i asesu ymdrech wrth wneud ymarfer corff. Pwysig oherwydd bod ymdrech ganfyddedig yn rheoli dwyster ymarfer corff mewn athletwyr a phobl arferol yn ymarfer corff. ÌýÌý
Sganiwr Amsugnofetreg Pelydr-X Ynni-Deuol (Labordy DXA)Ìý
Ni oedd yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon gyntaf yn y DU i osod sganiwr DXA a'i ddefnyddio ar gyfer ymchwil. Mae'n gallu mesur dwysedd esgyrn a rhoi mesuriadau meinweoedd - braster; cyfansoddiad mas di-fraster/cyhyrau. Gall offer arall yn yr adran asesu cyfansoddiad y corff hefyd, fel offerynnau mesur rhwystriant trydanol, y tanc pwyso tanddwr a chaliperau plygiadau’r croen.Ìý
Labordy Addysgu Canolfan PAWB £1mÌý
Mae'r labordy addysgu ffisioleg hwn (a gostiodd mwy na £1 miliwn) gyda’r gorau o’i fath ac fe’i cynlluniwyd fel y gallai myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn effeithiol. Mae'n cynnwys offer fel: Ìý
- Peiriant cyfaint yr ysgyfaint.
- Bagiau Douglas ar gyfer casglu nwy yn ystod amrywiol ymarferion a pheiriant i ddadansoddi'r nwyon hyn ar gyfer cynnwys ocsigen a charbon deuocsid a ddefnyddir i bennu lefelau ffitrwydd aerobig a defnydd ynni.
- Peiriant Wingate - yn profi'r capasiti anaerobig mwyaf posibl. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio hyn yn gweld croniad o sgil-gynnyrch ymarfer corff (asid lactig).
- Beiciau a melinau traed - defnyddir y rhain i ddynwared sefyllfa ymarfer corff i fesur paramedrau ffisiolegol, biocemegol a seicolegol.Ìý
- Dau beiriant rhwyfo - peiriant rhwyfo safonol, a pheiriant caiac.Ìý
- Peiriannau pwysedd gwaed.
- Dynamomedr cefn/coesau.
- Caliperau plygiadau croen.
- System addysgu ECG.Ìý
Labordai Profion Ymarfer ac Adfer ÌýÌý
- Dynamomedr Isoginetig/Isometrig - mae'n mesur pob math o weithgarwch cymalog a chryfder cyhyrol. Gellir defnyddio'r ddynamomedr hefyd i adfer o anafiadau a gellir ei ddefnyddio ar y cyd â’r Estyniad Plygu’r Bongorff.
- Estyniad Plygu’r Bongorff - wedi'i ychwanegu at y ddynamomedr i fesur cryfder y cefn a grwpiau cyhyrau cysylltiedig.
- Peiriant electromyograffeg (EMG) - 19 sianel ynghyd â chyflymder dargludiad. Mae'n mesur signalau trydanol yn y cyhyrau, gan edrych ar gyfradd danio'r cyhyrau ac a ydynt yn blino yn ystod ymarfer corff.Ìý
- Uwchsain - yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyhyrau wrth ymarfer corff a bydd yn dangos meinwe creithiau. Hefyd, gall fesur llif y gwaed mewn pibellau gwaed a'r galon a gall ymchwilio i forffoleg a swyddogaeth y galon yn ogystal.
- Melin draed.Ìý
- Ergomedrau - Beiciau Monarch (beiciau profi cleifion), Rhwyfwr ‘Concept’.Ìý
- Peiriant Lode Corival.Ìý
Labordai Seicoleg a Seicoffisioleg
- Systemau electroenceffalograffi (EEG) i fesur gweithgarwch yr ymennydd trwy gofnodi'r gweithgarwch trydanol ar groen y pen.
- Peiriannau a meddalwedd bio-adborth i arddangos signalau seicoffisiolegol (e.e. tonnau’r ymennydd, amrywioldeb cyfradd y galon) mewn amser real a helpu unigolion i ddysgu sut i reoli eu cyflwr seicoffisiolegol.
- Tracwyr llygaid symudol i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Synwyryddion grym a mesur cyflymiad i fesur proffiliau symud a datblygu dealltwriaeth o sut mae techneg yn datblygu gyda dysgu a sut mae straen seicolegol yn effeithio arno.
- Camerâu fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro ymatebion dynol mewn arbrofion seicoleg ac i ganiatáu cwblhau holiaduron ar-lein am gyflwr seicolegol.
Labordai Seicoechddygol a Rheoli Symudiadau a Dysgu
- Mae yna 5 o'r rhain i gyd a defnyddir yr offer sefydlog i fonitro, mesur a deall symudiadau dynol a rheoli gweithgarwch, yn amrywio o sgiliau echddygol manwl syml i symudiadau a ddefnyddir mewn chwaraeon egnïol lle mae’r holl gorff ar waith, a hynny o dan driniaethau seicolegol, ffisiolegol ac amgylcheddol diderfyn.
- Labordy dadansoddi symudiad gyda 12 Camera Vicon 3D.Ìý
- Labordy dadansoddi symudiad Optotrack.Ìý
- Manipulandum yr aelodau uchaf gyda dyfeisiau mesur cyflymiad.Ìý
- Tabledi Graffeg 2D cydraniad uchel.Ìý
- System symudol tracio llygaid i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Sbectolau achludiad i drin maes gwelededd yn uniongyrchol mewn amser real pan fo rhywun yn symud.
- Camera fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro a dadansoddi sgiliau symud.Ìý
Ìý
Ìý
Cyfleusterau Seicoleg
Drwy gydol eich gradd bydd modd i chi ddefnyddio’r cyfleusterau hyn i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a byddwch yn defnyddio rhai o'r cyfleusterau hyn fel ymchwilwyr yn ystod eich prosiect yn y drydedd flwyddyn. 
Mae gan yr Ysgol Seicoleg ei Sganiwr Delweddu Cyseiniant Magnetig (MRI) Philips Elition 3T.MRI/fMRI ei hun ar gyfer ymchwil pwrpasol. Gosodwyd ein sganiwr ymchwil-bwrpasol newydd yn haf 2019 yn y prif adeilad seicoleg. Mae'r sganiwr hwn yn cynnig techneg delweddu MR arloesol ac yn cynnwys technoleg tracio llygaid sy'n gydnaws ag MRI ac yn gallu gwneud recordiadau EEG y tu mewn i’r sganiwr. Gerllaw mae sganiwr ffug i gefnogi astudiaethau hyfforddi a gweithio gyda phlant. Mae gan y sganiwr hefyd gyfarpar delweddu cardiaidd 4D, cyfarpar delweddu trylediad tensor, a sbectrosgopeg cyseiniant magnetig. Enghraifft o sut y gallwch ddefnyddio'r sganiwr, ar wahân i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, yw y bu myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn sy'n gwneud eu prosiect yn labordy Dr Koldewyn yn rhan o astudiaethau sy'n cynnwys ymateb yr ymennydd i ryngweithio cymdeithasol a arsylwyd, gan gynnwys casglu data a dadansoddi data datblygiadol gan blant oed cynradd.
Mae arbenigedd mewn dulliau electroffisiolegol (EEG/ERP) yn gryfder arbennig yn yr Ysgol. Mae Labordy Electroenceffalograffi a Thopograffi Mynediad Agored yr Ysgol Seicoleg (Y Labordy POET) yn cynnwys bwth profi gwanhäwr sain wedi'i gysgodi'n llawn, System BioSemi EEG 128 sianel, a'r holl offer sy'n angenrheidiol ar gyfer arbrofion EEG/ERP clywedol a gweledol, gyda thechnoleg tracio llygaid cydamserol o bell. Ar wahân i gyfleoedd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, mae myfyrwyr israddedig yn eu trydedd flwyddyn wedi cael cyfle i fod â rhan weithredol yn y labordy EEG/ERP ar gyfer eu prosiect.Ìý
ÌýÌý
Ar hyn o bryd, defnyddir y labordy POET i ymchwilio i ystod amrywiol o bynciau fel:Ìý
- dysgu peirianyddol i ragfynegi dilyniannau echddygol o weithgarwch EEG
- datblygiad cymdeithasol a hunan-ganfyddiad mewn babanod
- datblygu dadansoddiadau o dreialon EEG unigol i gymharu prosesu iaith mewn grwpiau nodweddiadol a grwpiau sydd â heriau datblygiadol.
Mae gan Labordy Ysgogi’r Ymennydd ddau fath gwahanol o offer ysgogi - offer ysgogi trawsgreuanol magnetig (TMS), ac offer ysgogi cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS). Mae ysgogiad trawsgreuanol magnetig yn dechneg anymwthiol sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf i darfu am gyfnod byr ar brosesu celloedd nerfol mewn rhan fechan o arwyneb yr ymennydd. Caiff cerrynt trydanol ei yrru am gyfnod byr iawn drwy’r ddyfais ysgogi - coil o wifrau copr (wedi'u hamgáu mewn plastig) a ddelir ar groen y pen. Mae’r cerrynt hwn yn creu maes magnetig o gwmpas y coil sydd, yn ei dro, yn creu cerrynt trydanol yn y celloedd nerfol ar arwyneb yr ymennydd. Pan fo’r celloedd nerfol yn cael eu hysgogi, ac am ryw ddegfed ran o eiliad wedyn, ni allant gyflawni eu swyddogaethau arferol. Nid yw hyn yn achosi unrhyw niwed nac anaf i’r celloedd nerfol.
Gelwir yr ail fath o ysgogiad yn ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS), ac fel yr ysgogiad trawsgreuanol magnetig, mae'n anymwthiol ac yn ddi-boen. Mae'n defnyddio ceryntau trydanol dwysedd isel i gyffroi neu atal gweithgarwch niwronau mewn rhannau penodol o'r ymennydd. Mae'r ddwy system hyn wedi eu rhyngwynebu mewn arbrofion gydag offer ar gyfer tracio llygaid, electromyograffeg (EMG), electroenceffalograffi (EEG), ac ar gyfer recordio cinematig.
Mae’r Ysgol Seicoleg yn gartref i nifer o labordai ar gyfer dal symudiadau cymhleth yr holl gorff a’i aelodau ar gyfer ymchwil. Ymhlith yr offer a ddefnyddir i wneud hyn mae System dal symudiadau Polhemus (16-sianel). Mae’r labordai yn ein galluogi i astudio gweithredoedd medrus gyda chryn fanwl gywirdeb gofodol-amserol.
Mae rhai enghreifftiau diweddar o weithgarwch yn y labordai hyn yn cynnwys yr Athro Robert Ward yn ymchwilio i sut mae arsylwyr yn dirnad gwybodaeth am symudiad y corff, ac i ba raddau mae'r wybodaeth hon yn ddibynadwy neu'n dwyllodrus. Mae’r Dr. Koldewyn wedi defnyddio'r systemau i gofnodi patrymau chwilio yn ystod tasg chwilio gorfforol a ddyluniwyd i archwilio pa mor gyflym mae plant yn dysgu lle mae gwrthrych targed yn debygol o fod, a sut mae arsylwi eraill yn dylanwadu ar y dysgu hwnnw. Roedd myfyrwyr a oedd yn gwneud eu project trydedd flwyddyn yn ymwneud â dylunio'r astudiaeth ac â chasglu data gan blant oed cynradd.
Ìý
Cyfleusterau dan arweiniad ymchwilwyr. Yn ogystal â chyfleusterau mynediad agored i’w rhannu, mae gan yr ysgol gyfleusterau arbenigol iawn yn neilltuol ar gyfer academyddion penodol, megis:Ìý
- sawl labordy EEG pwrpasol yn ychwanegol at ein cyfleuster mynediad agoredÌý
- dau labordy gwrthsain ar gyfer astudiaethau clywedol
- systemau adborth gorfodol rhithrealiti a realiti estynedig a reolir yn robotig
- dyfeisiau symudol ar gyfer tracio llygaid a symudiadau beiro ar gyfer astudio datblygiad llythrennedd mewn ysgolion ac yn y labordy
- labordy bwyd a seicoffarmacoleg yn cynnwys caledwedd a meddalwedd ar gyfer peiriant dosbarthu bwyd arbenigol
- ystafelloedd dadansoddi fideo ar gyfer ffitrwydd cardio-anadlol plant a sgiliau symud sylfaenol
- Bysellfwrdd Ìýtrawsddygiadur grym sy'n gydnaws ag MRI (10-sianel) i recordio gwasgiadau bysedd y ddwy law yn barhaus gan gynnwys symudiadau paratoadol ac adlewyrcholÌý
- Labordy Doppler Sonograffeg Trawsgreuanol ble gellir mesur llif y gwaed i bob hanner o'r ymennydd
Mae'r Ysgol yn rhannu trwyddedau’r Brifysgol a’r Coleg ar gyfer llwyfannau Qualtrics a Pavlovia i hwyluso ymchwil ar-lein.Ìý
Mae sawl panel cyfranogwyr ar gael i helpu ymchwilwyr yn yr Ysgol Seicoleg i recriwtio cyfranogwyr. Fel myfyriwr seicoleg byddwch yn cymryd rhan yn y panel myfyrwyr (SONA) ac mae ein myfyrwyr i gyd yn cymryd rhan mewn tua 4000 awr o ymchwil yn gyffredinol bob blwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnal paneli cyfranogwyr arbenigol a allai fod yn rhan o'ch prosiect trydedd flwyddyn:
- Panel cleifion niwrolegol, mewn cydweithrediad â'r GIG.
- Panel anhwylderau dysgu: yn canolbwyntio ar ddyslecsia (mewn cydweithrediad â Chanolfan Dyslecsia Miles yr Ysgol) ac yn cynnwys anhwylderau dysgu eraill ymhlith oedolion sy'n cymryd rhan
- Panel Cyfranogwyr Cymunedol: sy'n ddefnyddiol ar gyfer adnabod siaradwyr dwyieithog, pobl â dyslecsia, yr henoed, ac yn enwedig ar gyfer recriwtio rheolyddion cyfatebol ar gyfer astudiaethau achos cleifion, ac ar gyfer darparu cronfa o gyfranogwyr dwyieithog Cymraeg/Saesneg
- Cronfa Ddata Babanod/Plant
Mae ymchwilwyr seicoleg sy'n astudio datblygiad plant yn elwa o berthynas agos â Meithrinfa TÃr na nÓg Bangor. Mae'r feithrinfa'n darparu adnodd unigryw i ymchwilwyr yn y grwpiau ymchwil Clinigol, Iechyd, Ymddygiad ac Iaith, Dwyieithrwydd, ac Ymchwil Datblygu Gwybyddol. Mae gan TÃr na nÓg gyfleusterau arbennig, fel lolfa arsylwi a chamerâu fideo. Yn unol â chydsyniad rhieni neu warcheidwaid y plant, gellir arsylwi’r plant i gael dealltwriaeth bellach o iaith, dysgu a datblygiad.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.Ìý
- Lefel A (ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol na sgiliau allweddol)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC:ÌýDMM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDDÌý
- Arweinwyr Chwaraeon y DU: Cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Uwch
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.Ìý
- Lefel A (ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol na sgiliau allweddol)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC:ÌýDMM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDDÌý
- Arweinwyr Chwaraeon y DU: Cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Uwch
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth
- Dylai ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i’r awyr agored (e.e. profiad ymarferol, profiad gwaith, Gwobr Dug Caeredin).
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae'r gradd BSc Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer wedi'i hachredu gan Gymdeithas SeicolegolÌýPrydain (BPS) i roi sylfaen raddedig i fyfyrwyr at aelodaeth siartredig o'r Gymdeithas a dyma'r cam cyntaf at yrfa fel seicolegydd yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn baratoad rhagorol i gael gyrfaoedd mewn gwyddorau chwaraeon a'r diwydiannau chwaraeon, ffitrwydd ac iechyd yn ogystal â bod yn addas ar gyfer symud ymlaen i unrhyw faes seicoleg.Ìý
Ble nesa? Llwybrau at gyflogaethÌý
Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) yn achredu'r cwrs. Mae'n rhoi’r cyfle i chi gaelÌýÌý(neu GBC) sy'n hanfodol ar gyfer dechrauÌýunrhywÌýyrfa mewn seicoleg.Ìý Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn gymwys i wneud cais i'r BPS am GBC. Dyma'rÌýÌýar y ffordd i fod yn seicolegydd siartredig neu'n seicolegydd sy'nÌýÌýo'r Cyngor Proffesiynau Gofal IechydÌýÌýÌý
Mae gwaith posibl mewn meysydd eraill yn seiliedig ar y sgiliau a ddatblygwyd ar y cwrs yn cynnwys:Ìý
- Holl lwybrau'r proffesiynau seicolegÌý
- Athro/darlithyddÌý
- Gwyddonydd Chwaraeon ac YmarferÌý
- YmchwilyddÌý
- Cynorthwyydd SeicolegÌý
- Swyddi rheoliÌý
- Gweithio ym maes hybu iechyd neu ymddygiad iechydÌý
Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer gradd meistr, er enghraifft y rhaglenÌýMScÌýSeicoleg Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor sydd wedi'i hachredu gan BPS arÌýgyfer graddedigion sy'n meddu ar GBC o'u gradd israddedig.Ìý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýÌý
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý