Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Rydym yn gynyddol ymwybodol o werth organebau'r môr ar gyfer bwyd, meddyginiaeth a chynhyrchion eraill yn ogystal â'u dylanwad ar yr hinsawdd. Mae Bioleg Môr yn astudiaeth o’r organebau sy'n meddiannu 95% o fiosffer ein planed, gan fyw mewn amodau sy'n amrywio o'r moroedd pegynol (is na -2°C) i fentiau hydrothermol (dros 100°C). Ceir hyd i fwyafrif y ffyla yn y cefnforoedd; mae meintiau organebau'n amrywio o'r ficro-organeb leiaf ar y blaned i'r infertebratau (môr lewys mawr)  a'r mamaliaid mwyaf (morfilod glas).
Mae'r rhaglen Bioleg y Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn cyfuno blwyddyn sylfaen gyda gradd anrhydedd tair blynedd i greu rhaglen pedair blynedd integredig. Mae’r rhaglen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc gwyddonol yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio ar lefel gradd. Mae’r BSc Bioleg y Môr gyda Blwyddyn Sylfaen yn ddelfrydol i ymgeiswyr nad ydynt yn cyflawni gofynion mynediad gradd tair blynedd yn llawn neu a fyddai'n elwa o astudio pwnc gwyddonol am flwyddyn arall.
Bydd cwblhau'r flwyddyn sylfaen yn llwyddiannus yn golygu y cewch symud ymlaen i flwyddyn 1 y rhaglen Bioleg y Môr.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Fel myfyriwr ar y cwrs BSc Bioleg y Môr gyda Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Bangor, cewch eich dysgu gan staff ymroddedig a brwdfrydig a bydd gennych fynediad at gyfleusterau a rhwydwaith cefnogi myfyrwyr helaeth y brifysgol.
- Mae'r Ysgol yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau’r eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.Â
- Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r môr, sy'n ddelfrydol i ddatblygu eich sgiliau casglu data mewn aberoedd, ar lan y môr ac ar y môr.
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m y byddwch yn ei defnyddio yn ystod eich astudiaethau.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Trwy gydol eich gradd Bioleg y Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen) byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o wahanol weithgareddau dysgu, a all gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau trwy gwblhau amrywiaeth eang o asesiadau.
Mae nifer o'r modiwlau'n cynnwys teithiau maes undydd. Ym mlwyddyn 2 ceir taith undydd a chwrs maes ar y llong ymchwil ac ym mlwyddyn 3 cynhelir ymarferion profi damcaniaethau fel rhan o’r project maes rhynglanwol. Mae gennych ddewis hefyd o fynd ar gwrs maes tramor i Virginia, UDA. Asesir eich gwaith ymarferol yn barhaus ac arholir pob modiwl trwy gwestiynau amlddewis, profion labordy ac arholiadau ysgrifenedig.
Nid yn unig byddwch yn mwynhau’r adnoddau a ddisgwylir mewn canolfan fodern bioleg y môr, gydag acwaria dŵr croyw a dŵr hallt, byddwch yn elwa hefyd o’r amrywiaeth eithriadol o gynefinoedd y môr sydd gerllaw, lle cynhelir gwaith maes, sydd yn rhan annatod o'r cwrs gradd. Rydym yn anarferol ymhlith prifysgolion ym Mhrydain am fod gennym fynediad at long ymchwil o'r radd flaenaf.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r cwrs poblogaidd hwn yn rhoi’r cyfle i astudio elfennau sylfaenol bioleg bywyd y môr yn ogystal ag elfennau mwy arbenigol megis dyframaeth, pysgodfeydd a biotechnoleg y môr.Â
Mae elfen blwyddyn sylfaen y rhaglen wedi ei chynllunio i'ch paratoi at astudio ar lefel gradd.  Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau academaidd a'ch gwybodaeth bwnc-benodol, cyn symud ymlaen i flwyddyn 1 y rhaglen.  Byddwch yn cwblhau modiwlau sy'n canolbwyntio ar dechnoleg gwybodaeth a sgiliau cyfathrebu, mathemateg hanfodol ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trwy ymgymryd â phroject ymchwil pwnc-benodol. Yn ogystal, byddwch yn astudio modiwlau ar Fioleg Hanfodol a Chemeg Hanfodol.Â
Nod blwyddyn 1 a 2 y rhaglen yw cryfhau a dyfnhau eich gwybodaeth ac ehangu eich sylfaen sgiliau. Nod y drydedd flwyddyn yw datblygu eich dealltwriaeth feirniadol o'r pwnc a gwella eich cyflogadwyedd ymhellach.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bioleg y Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.Â
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Â
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.Â
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.Â
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 104 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau: Â
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.Â
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 112 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbynnir Diplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau: Â
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Scottish Higher
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae'r radf Bioleg y Môr (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn baratoad delfrydol at yrfaoedd mewn ymchwil, pysgodfeydd a dyframaeth, rheoli adnoddau môr, cadwraeth, cyrff cynghori'r llywodraeth, y cyfryngau gwyddonol, eco-dwristiaeth a diwydiannau hamdden eraill a grwpiau dwyn pwysau, a nifer o feysydd heb gysylltiad uniongyrchol sydd angen sgiliau dadansoddol.Â
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.