Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ffarmacoleg yw'r astudiaeth o sut mae meddyginiaethau'n gweithio a sut maen nhw'n effeithio arnom ni. Mae ffarmacolegwyr yn cyfrannu'n fawr at feddygaeth trwy ddarganfod triniaethau newydd. Bydd gradd BSc mewn Ffarmacoleg yn rhoi cyfle i chi ddilyn gyrfa arloesol a chyffrous wrth ddarganfod a phrofi cyffuriau newydd neu gynnal ymchwil trwy dreialon clinigol. Bydd y radd BSc Ffarmacoleg hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant fferyllol a biotechnoleg neu mewn ymchwil academaidd.Â
Mae'r BSc Ffarmacoleg wedi'i gynllunio i'ch arfogi â sgiliau a gwybodaeth wyddonol o ran meddyginiaethau a sut maen nhw'n gweithio, yn ogystal â dealltwriaeth o sut y cânt eu defnyddio a sut yr asesir eu heffeithiolrwydd a'u gwerth. Mae'r cwrs yn cyfuno gwahanol fathau o addysgu sy'n ymdrin ag egwyddorion ffarmacoleg, canser a ffarmacoleg gardiofasgwlaidd, ffarmacogenomeg, ffarmaceconomeg, a llawer o feysydd pwnc eraill. Byddwch yn astudio sut gaiff cyffuriau'n eu darganfod a’u treialu mewn bodau dynol, a sut y cânt eu hasesu gan sefydliadau fel awdurdodau rheoleiddio a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Â
Bydd y cwrs BSc hwn mewn Ffarmacoleg yn fodd i chi ddatblygu, integreiddio a chymhwyso'ch gwybodaeth lle mae darganfyddiadau gwyddonol ac ymarfer clinigol yn cwrdd. Bydd eich dealltwriaeth gadarn o bob agwedd ar feddyginiaethau, o'r gwyddorau sylfaenol i bolisi, yn darparu sgiliau ar gyfer cyfleoedd gyrfa amrywiol, gan gynnwys diwydiannau fferyllol a biotechnoleg mawr a bach, sefydliadau gofal iechyd ac ymchwil academaidd. Gydag Anrhydedd ail ddosbarth uwch, byddech yn gymwys i wneud cais am le ar gwrs Meddygaeth i Raddedigion ym mhob ysgol feddygol yn y DU bron iawn sy'n cynnig hyn. Â
Cewch eich addysgu yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor gan academyddion sy'n ymchwilwyr blaenllaw yn eu meysydd. Bydd gennych fynediad i gyfleusterau labordy, darlithfeydd a seilwaith TG o'r radd flaenaf. Cyflwynir y cwrs mewn modd cyfunol, gan ddefnyddio dulliau addysgu wyneb yn wyneb a gwasgaredig. Byddwch hefyd yn cael profiad ymarferol trwy leoliadau gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau lleol. Bydd y rhain yn cynnwys, er enghraifft, cwmnïau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu meddyginiaethau, profion genetig a chynhyrchion gofal clwyfau, yn ogystal â chyfleusterau ymchwil clinigol. Trwy gydol y lleoliadau hyn cewch eich mentora gan oruchwylwyr hyfforddedig
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?Â
- Bydd y BSc mewn Ffarmacoleg yn fodd i chi ddatblygu, integreiddio a chymhwyso'ch gwybodaeth lle mae darganfyddiadau gwyddonol ac ymarfer clinigol yn cwrdd.
- Byddwch yn dod i ddeall pob agwedd ar feddyginiaethau, o'r gwyddorau sylfaenol i ddefnydd meddygol a pholisi fferyllol
- Mae'r radd yn cynnwys ystod eang o fodiwlau biofeddygol sy'n darparu sylfaen gynhwysfawr ar gyfer astudio sut mae cyffuriau'n gweithio
- Mae meysydd pwnc gan gynnwys ffarmaceconomeg ac asesu technoleg iechyd yn unigryw i Fangor
- Mae cyfle i wneud project ymchwil labordy, ymchwil desg neu ar leoliad, neu ddewis o blith detholiad o fodiwlau dewisol yn y flwyddyn olaf.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Cyflwynir y radd gan ddefnyddio dulliau addysgu sy'n cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau labordy, projectau unigol; ac sy’n cynnwys cyfleoedd lleoliad gwaith mewn ystod o leoliadau lleol. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, cwmnïau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu meddyginiaethau, yn ogystal â chyfleuster ymchwil clinigol y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyfrifol amdano.  Trwy gydol y lleoliadau hyn caiff myfyrwyr eu mentora gan oruchwylwyr hyfforddedig.
Mae dulliau asesu yn sicrhau cydbwysedd ac amrywiaeth mewn dulliau, gan gynnwys arholiad lle nas gwelwyd y cwestiynau o’r blaen, traethodau, adroddiad ymarferol, prawf ymarferol, cyflwyniad poster, adolygu papur, cwestiynau amlddewis, myfyrio a meddwl beirniadol, ymarfer tiwtorial a thraethawd hir.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r radd BSc hon mewn Ffarmacoleg yn ymdrin ag egwyddorion ffarmacoleg, canser a ffarmacoleg gardiofasgwlaidd, ffarmacogenomeg, ffarmaceconomeg, a llawer o feysydd pwnc eraill. Mae'r radd yn sicrhau perthnasedd clinigol, trwy roi pwys ar gymwysiadau meddygol, meddygaeth bersonol a diogelwch cyffuriau. Bydd myfyrwyr yn astudio sut gaiff cyffuriau'n eu darganfod a’u treialu mewn bodau dynol, a sut y cânt eu hasesu gan sefydliadau fel awdurdodau rheoleiddio a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal.
Cyfleusterau
Gall myfyrwyr fanteisio ar gyfleusterau labordy, darlithfeydd a seilwaith TG o'r radd flaenaf.
Cyfleusterau Gwyddorau Meddygol
- Mae gennym gyfres o labordai a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Adeilad Brambell. Mae'r rhan fwyaf o'n gwaith labordy yn digwydd yn labordai A1, B1 a C4, sydd â systemau clyweled o'r radd flaenaf i'ch galluogi i ddilyn yn fanwl yr hyn sy'n cael ei arddangos. Mae gennym hefyd labordy arbenigol Cat 2 a ddefnyddir ar gyfer gwaith gydag asiantau  biolegol risg ganolig a pheryglon, ac organebau a addaswyd yn enetig.
- Byddwch yn defnyddio ystod o offer wrth weithio yn y labordai hyn, gan gynnwys: cloriannau, allgyrchyddion, sbectromedrau ac offer arbenigol.
- Efallai y gall myfyrwyr sy’n gwneud prosiect ymchwil eu blwyddyn olaf elwa ar arbenigedd a chyfleusterau eang Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin. Ar wahân i offer labordy hanfodol (allgyrchyddion, deoryddion, ac ati), mae offer o'r radd flaenaf ar gael yn cynnwys microsgopau cydffocal, cytomedr llif a robot sgrinio trwybwn uchel. Mae’n bosib hefyd defnyddio cyfleusterau sbectrometreg màs a dilyniannu DNA trwybwn uchel ac ati.
- Bydd ein cyfleusterau newydd ar anatomi dynol yn barod erbyn 2022, a byddant yn ymgorffori technoleg flaengar fel bwrdd , sef y bwrdd dyrannu rhithiol cyntaf yn y byd. Rhagwelwn y caiff ei ddefnyddio gan israddedigion BMedSci Gwyddorau Meddygol yn ogystal â myfyrwyr ar ein cwrs MA Cynorthwywyr Meddygon a’r rhaglen radd Meddygaeth C21 Gogledd Cymru i raddedigion (a gyflwynir yn gyfan gwbl yng ngogledd Cymru gan Brifysgol Bangor mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygol Caerdydd).
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Gofynion Mynediad
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120-136 pwynt tariff o gymwysterau e.e.:
- Lefel A: Gan gynnwys dwy Lefel A o blith Bioleg, Cemeg, Ffiseg a Mathemateg, gyda gradd B mewn Bioleg neu Gemeg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol
- Diploma Estynedig Genedlaethol BTEC: DDM-DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM-DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Angen llwyddo, (yn cynnwys Bioleg a Chemeg ar Lefel Uwch)
- Mynediad: Angen llwyddo mewn diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth, gan eu bod yn rhoi'r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol:
- Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Project Estynedig: Gall pwyntiau gynnwys Project Estynedig mewn pwnc perthnasol, ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 Lefel A llawn, neu gyfwerth
- Lefelau T: rhoddir ystyriaeth fesul achos.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff ymgeiswyr hŷn a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl eu teilyngdod unigol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol sy’n gyfwerth â Lefelau A/Lefel 3 a/neu ddiplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg).
TGAU: Gradd C/4 mewn Iaith Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120-136 pwynt tariff o gymwysterau e.e.:
- Lefel A: Gan gynnwys dwy Lefel A o blith Bioleg, Cemeg, Ffiseg a Mathemateg, gyda gradd B mewn Bioleg neu Gemeg. Ni dderbynnir Sgiliau Allweddol ac Astudiaethau Cyffredinol
- Diploma Estynedig Genedlaethol BTEC: DDM-DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM-DDD (modiwlau Bioleg a Chemeg yn ofynnol)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Angen llwyddo, (yn cynnwys Bioleg a Chemeg ar Lefel Uwch)
- Mynediad: Angen llwyddo mewn diplomâu Gwyddoniaeth neu Biowyddoniaeth, gan eu bod yn rhoi'r wybodaeth gyn-ofynnol angenrheidiol:
- Bagloriaeth Cymru
- Cymhwyster Project Estynedig: Gall pwyntiau gynnwys Project Estynedig mewn pwnc perthnasol, ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 Lefel A llawn, neu gyfwerth
- Lefelau T: rhoddir ystyriaeth fesul achos.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff ymgeiswyr hŷn a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl eu teilyngdod unigol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol sy’n gyfwerth â Lefelau A/Lefel 3 a/neu ddiplomâu coleg o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion sylfaenol iaith Saesneg).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Fel arfer mae gan ffarmacolegwyr yrfaoedd yn y byd academaidd, y diwydiant fferyllol a biotechnoleg ac mewn sefydliadau ymchwil contract, lle cânt eu cyflogi fel Gwyddonwyr, Cymdeithion Ymchwil Clinigol. Maent hefyd yn ymwneud â darganfod a datblygu cyffuriau, trwyddedu meddyginiaethau, materion rheoleiddio, marchnata, cyfathrebu gwyddoniaeth, addysgu, ymgysylltu â'r cyhoedd a pholisi gwyddoniaeth.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Ffarmacoleg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â