Cefnogi Cyflogwyr
Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi ymrwymo i roi cefnogaeth i’r holl sefydliadau er mwyn eu cynorthwyo i recriwtio myfyrwyr, graddedigion ac ôl-raddedigion.
Rydym yn darparu gwasanaeth proffesiynol a fydd yn eich helpu i nodi’ch anghenion recriwtio, hyrwyddo’ch cwmni neu helpu i ddatblygu’ch busnes drwy weithio mewn partneriaeth â meysydd eraill yn y Brifysgol a’r gymuned leol.
P’un a oes gennych swydd ran-amser neu lawn-amser, profiad gwaith neu gyfleoedd blasu gwaith, interniaethau, lleoliadau i israddedigion, graddedigion neu ôl-raddedigion, gallwch hysbysebu swyddi gwag yn rhad ac am ddim trwy ganolfan gyflogaeth y Brifysgol, (TARGETconnect yn flaenorol).
Cysylltwch â ni trwy e-bost: talent@bangor.ac.uk i drafod sut y gallwn gydweithio, ac ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Wedi'i ddiweddaru Awst 2023