Ynglŷn â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig sydd wedi ymrwymo i’ch helpu chi i gyflawni eich potensial o ran gyrfa yn ystod eich cwrs ac ar ôl graddio.
Dysgwch fwy am ein timau isod, a sgroliwch i lawr i weld manylion am ein staff a sut i gysylltu.
Tîm Cyswllt Cyflogwyr a CyswlltGyrfa
Mae ein Tîm Cyswllt Cyflogwyr a CyswlltGyrfa yn gweithio gyda chyflogwyr a sefydliadau eraill i gynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu, gwirio a hyrwyddo swyddi i raddedigion, interniaethau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd eraill am brofiad gwaith. Maent yn gweithio gyda chyflogwyr o bob maint, yn gwmnïau rhyngwladol mawr ac yn fusnesau ar raddfa fach, ac yn dod o hyd i gyfleoedd i fyfyrwyr yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae’r tîm hefyd yn cydlynu Rhaglen Interniaeth Israddedig y brifysgol.
Tîm Cyngor a Chanllawiau/a Chyswllt Ysgolion Academaidd
Mae ein Tîm Cyngor a Chanllawiau/a Chyswllt Ysgolion Academaidd yn cynnig arweiniad un i un i fyfyrwyr ar bob agwedd ar chwilio am yrfa a rheoli gyrfa, yn cynnwys ystyried yr opsiynau sydd ar gael gyda’ch gradd, trafod profiad gwaith ac astudiaethau ôl-radd, perffeithio eich CV a pharatoi at gyfweliadau. Maent yn cydlynu rhaglen weithdy/gweminar reolaidd, a ddarperir gan staff, cyflogwyr, ymarferwyr a chyn-fyfyrwyr, ac yn gweithio gydag ysgolion academaidd i ddarparu sesiynau cyflogaeth a chefnogi mentrau a gweithgareddau ysgolion.
Cefnogaeth Profiad Gwaith
A oes gennych ychydig neu ddim profiad o waith? A ydych yn teimlo eich bod yn wynebu rhwystrau a allai eich dal yn ôl? Os felly, gall y Tîm Cefnogi Profiad Gwaith roi cymorth ychwanegol i’ch helpu i gael mynediad at gyfleoedd a all wella’ch siawns o gael cyflogaeth ar ôl graddio.
Gall rhwystrau ddeillio o nifer o wahanol ffactorau megis: caledi ariannol, anabledd, gwahaniaeth dysgu, iechyd meddwl a dyletswyddau gofalu. Blaenoriaethir cymorth i’r rhai sydd ag ychydig neu ddim profiad blaenorol o waith.
Gall cynghorwyr gynnig cefnogaeth unigol i’ch helpu i wella’ch cyflogadwyedd a chyflawni’ch nodau. Os hoffech gofrestru eich diddordeb, llenwch y neu gallwch anfon e-bost atom yn cefnogaethprofiadgwaith@bangor.ac.uk
Tîm B-Fentrus
Mae ein Tîm B-Fentrus yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr Prifysgol Bangor a graddedigion yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau menter neu eu cefnogi i ddechrau busnes newydd. Maent yn trefnu ac yn hyrwyddo gweminarau a gweithdai rheolaidd ar bynciau fel ‘Sut i Werthu’ a ‘Sut i fod yn Ymgynghorydd’, ac yn trefnu ac yn cefnogi digwyddiadau, cystadlaethau a chyfleoedd rhwydweithio. Mae mentora busnes un i un ar gael hefyd.
Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Mae ein Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion ar gael i gyn-fyfyrwyr a raddiodd rhwng 2020, 2021 a 2022 ac yn cynnwys cefnogaeth amrywiol i raddedigion sydd angen cefnogaeth i gael troedle ym myd gwaith.
Mae’r rhaglen yn cynnig ystod o ddigwyddiadau, cefnogaeth 1:1, hyfforddiant a phrofiad gwaith i helpu graddedigion i gynyddu eu siawns o gael cyflogaeth ar lefel graddedig.
Ein Staff
Cyswllt Cyflogwyr / CyswlltGyrfa
Enw | Swydd | Ebost | Ffon |
---|---|---|---|
Alix Charnley | Rheolwr Recriwtio Graddedigion a Phrofiad Gwaith | a.charnley | 01248 382645 |
Ffion Davies | Swyddog Ymgysylltu â Chyflogwyr Graddedigion | f.davies | 01248 382332 |
Tess Cameron | Swyddog Cyswllt Cyflogwyr | t.cameron | 01248 383831 |
David Pritchard | Swyddog Cyflogadwyedd | d.pritchard | 01248 388427 |
Caryl Pritchard | Cynorthwy-ydd Gweinyddol | caryl.pritchard | 01248 382689 |
Ffion Priestley | Cynorthwy-ydd Gweinyddol (Profiad Gwaith) | 01248 382071 |
Cyngor ac Arweiniad / Cyswllt Ysgolion Academaidd
Enw | Swydd | Ebost | Ffon |
---|---|---|---|
Clare Brass | Rheolwr Cyflogadwyedd | c.l.brass | 01248 382115 |
Elinor Churchill | Ymgynghorydd Cyflogadwyedd | e.h.churchill | 01248 383676 |
Marianne Gardner | Ymgynghorydd Cyflogadwyedd | m.gardner | 01248 382070 |
Mari Gwenllian Roberts | Ymgynghorydd Cyflogadwyedd | mari.roberts | 01248 388793 |
B-Fentrus
Enw | Swydd | Ebost | Ffon |
---|---|---|---|
Lowri Owen | Rheolwr Projectau Menter | 01248 388424 | |
Katherine Lewis | Cydlynydd Busnesau Cychwynnol Graddedigion | k.lewis | |
Dr. Beth Edwards | Cydlynydd Datblygu Fenter | b.a.edwards | 01248 383131 |
Rhaglen Cefnogaeth i Raddedigion
Enw | Swydd | Ebost | Ffon |
---|---|---|---|
Sian Shepherd | Rheolwr Prosiect Cefnogi Graddedigion | sian.shepherd | 01248 388429 |
Gweinyddwr Prosiect Cefnogi Graddedigion | cefnogigraddedigion@bangor.ac.uk |
Tîm Cymorth Profiad Gwaith
Enw | Swydd | Ebost | Ffon |
---|---|---|---|
Lis Owen | Rheolwr Rhaglen Cefnogi Profiad Gwaith | lis.owen | 01248 388426 |
Jo Mitchell | Cynghorwr Cefnogi Profiad Gwaith | jo.mitchell | 01248 382578 |
Trudy Jordan | Gweinyddwr Cefnogi Profiad Gwaith | t.jordan | 01248 382529 |
Rydym yn perthyn i’r Gymdeithas Gwasanaethau Cynghorau ynghylch Gyrfaoedd i Raddedigion (AGCAS)
Manylion Cyswllt
¹ó´Úô²Ô: +00 (44) 01248 382071
E-bost: gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Facebook: /
Twitter: /
Instagram:
LinkedIn:
Wedi’i ddiweddaru Awst 2023