Diwrnodau Agored
Diwrnod Agored ydy’r ffordd orau i chi ddod i adnabod Prifysgol Bangor a darganfod yr hyn sydd gennym i’w gynnig. Ar Ddiwrnod Agored cewch ymweld â’n hadrannau Academaidd, siarad â staff a myfyrwyr, edrych o amgylch ein neuaddau preswyl a gweld ein cyfleusterau ac adnoddau.
Ymweld â’r Brifysgol am y tro cyntaf?
Diwrnod Agored y Brifysgol yw’r ffordd orau i chi ddod i adnabod Prifysgol Bangor a chael gwybod beth sydd gennym i’w gynnig, cyn i chi wneud cais. Ar Ddiwrnod Agored cewch ymweld â’n hadrannau academaidd, siarad â’n staff a myfyrwyr, edrych o amgylch ein llety a gweld ein cyfleusterau.
Wedi gwneud cais yn barod?
Cynhelir ein Diwrnodau Deiliaid Cynnig rhwng Chwefror ac Ebrill. Mae'r digwyddiadau yma yn gyfle gwych i chi gael blas am y pwnc, cael gwell dealltwriaeth o'r cwrs sydd o ddiddordeb i chi, dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i'n myfyrwyr a dod i wybod mwy am eich opsiynau llety. Os ydych chi'n cael cynnig i astudio yma, cewch ebost yn eich gwahodd i'r digwyddiad.
Ein Lleoliad
Rydym wedi ein lleoli yn harddwch gogledd Cymru, rhwng mynyddoedd Eryri a’r afon Fenai. Mae gan Fangor gysylltiadau trafnidiaeth rhagorol ac mewn ychydig oriau gallwch fod yn rhai o brif ddinasoedd Prydain ac Iwerddon, yn cynnwys Manceinion, Lerpwl a Dulyn.
Mwy am ein lleoliad a map o’r Brifysgol...
Methu disgwyl nes y Diwrnod Agored?
Edrychwch ar ein Diwrnod Agored Rhithwir am flas o fywyd myfyriwr ym Mangor...
Pam dewis Bangor?
Mwy o wybodaeth...
Am fwy o wybodaeth am ein Diwrnodau Agored, cysylltwch gyda ni.