Cyfleusterau ac isadeiledd
Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf rydym wedi uwchraddio’n sylweddol ein cyfleusterau labordy a thyfu planhigion ar gyfer rhaglen ymchwil gynyddol integredig. O 2007, bydd yr adeilad newydd, Canolfan yr Amgylchedd Cymru, yn ganolbwynt i ymchwil amgylcheddol ym Mangor.
Sefydlwyd y Ganolfan Cadwraeth Seiliedig ar Dystiolaeth (CEBC) yn 2003 gyda’r nod o gefnogi gwneud penderfyniadau ym maes rheolaeth cadwraeth a’r amgylchedd. Mae CEBC yn hyrwyddo ymarfer seiliedig ar dystiolaeth trwy gynhyrchu a dosbarthu adolygiadau systematig ar effeithiolrwydd ymyriadau rheolaeth a pholisi a hefyd ar effaith gweithgarwch dynol ar yr amgylchedd naturiol.Â
Yn 2004 cwblhawyd buddsoddiad mawr mewn cyfleusterau ymchwil yn ein Canolfan Ymchwil Henfaes pan lansiwyd MENTERRA, sef canolfan newydd ar gyfer arloesi mewn amaethyddiaeth yn cynnal ymchwil i gnydau amgen a rhywogaethau da byw. Dilynwyd hyn gyda sefydlu yn 2005. Henfaes hefyd yw lleoliad y cyfleuster arbrofol cyfoethogi carbon awyr agored mwyaf yn y DU, a ddefnyddir i ymchwilio i effeithiau crynodiadau carbon deuocsid cynyddol ar swyddogaeth ecosystemau coedwigoedd.Â
Mae’r isadeiledd yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes yn cynnwys:
- ystafelloedd tyfu, tai gwydr
- 16 o gromenni haul (a reolir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg)
- plotiau arbrofol tir pori, cnydau, amaeth-goedwigaeth, coedwigaeth a gwyddorau pridd mewn dros 40 hectar
Mae’r Ganolfan Rheolaeth Bryndir ac Ucheldir yn cynnwys 186 hectar o laswelltir cymysg, coetir lled-naturiol hynafol a phlanhigfeydd conwydd, ac fe’i defnyddir ar gyfer amrywiaeth eang o brojectau.Â
Cyfleusterau dadansoddol
Mae cyfleusterau labordai ar gyfer gwyddorau planhigion ac amgylcheddol yn cynnwys:
- dadansoddwyr maetholion cemeg dŵr a phridd
- Peiriant PCR amser iawn ABI Prism ac offer moleciwlaidd cysylltiedig
- HPLC gydag aml synwyryddion
- GC-MS
- cyfleuster electrofforesis capilarïaidd
- tri dadansoddwr nwy pridd aml-sianel
- dadansoddwr amsugniad nwy a porosimesurydd mercwri
- cyfleusterau tracio isotop
- cyfleusterau trin pathogen dynol
Mae gennym ystafell lawn o gyfarpar dadansoddol ar gyfer deunyddiau sy’n deillio o blanhigion, wedi ei optimeiddio'n benodol ar gyfer echdynnu, profi a defnyddio porthiant diwydiannol adnewyddadwy, yr unig gyfleuster yn y DU. Mae hyn yn cynnwys:
- labordy profi deunyddiau gyda’r offer diweddaraf a dau beiriant profi cyffredinol mewn amgylchedd system tymheru Â
- photoelastomesurydd hanner eddi gyda phrosesu delweddau i benderfynu ar ddosraniadau tyndra mewn cyfansoddion a atgyfnerthir gan ffibr planhigion (PFRC) – ffordd unigryw o ddefnyddio’r dechneg hon
- porosimesurydd mercwri, rheoleg ffibr sengl, peiriant profi effaith, dadansoddwr amsugniad anwedd deinamig
- labordy mycoleg a siambrau cyflyru ar gyfer astudio gwrthwynebed pydredd biolegol mewn PFRC wedi'i addasu
Mae cyfarpar ychwanegol yn gysylltiedig â phrosesu coed a chynhyrchu cyfansoddion planhigion seiliedig ar ffibrau ar gael yn y . Gall staff hefyd gael mynediad at ystod o gyfarpar newydd ar gyfer ymchwilio i wyddorau planhigion a’r amgylchedd yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol a’r Adran Gemeg. Mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer genomeg, proteomics a metabolomics, microsgopeg a delweddu, stilwyr celloedd a gardd fotaneg.
Safleoedd arbrofi tymor hir
Mae gan SENRGY nifer o safleoedd sy’n cael eu monitro ar sail tymor hir ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith ymchwil a phroject. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.