Ysgolion yn manteisio ar ymweliadau gwyddonol
Cafodd disgyblion o ysgolion yng Ngwynedd a M么n y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddonol, sialensiau ac arddangosfeydd mewn ymweliadau i Brifysgol Bangor yn ystod G诺yl Wyddoniaeth Bangor.
Cynhaliwyd dau ddiwrnod 鈥楨cowyddoniaeth鈥 llwyddiannus yn adeilad Brambell, sy鈥檔 gartref i labordai bioleg y Brifysgol yn ogystal 芒鈥檌 hamgueddfa Hanes Anianol.
Bu tua 200 o ddisgyblion o ddeg ysgol yn bresennol dros y ddau ddiwrnod, a chawsant sgyrsiau gan ymchwilwyr blaenllaw a鈥檙 cyfle i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau difyr fel echdynnu DNA, adnabod micro fwystfilod mewn pridd, arbrofi ymddygiad plancton, defnyddio Systemau GIS (Global Information Systems) a defnyddio technegau biofeddygol.
Buant hefyd yn archwilio arddangosfeydd niwro-ddelweddu, astudio ymennydd pry ac yn dysgu am yr 鈥榓nifail hynaf ar y ddaear鈥 cyn diweddu鈥檙 diwrnod trwy wylio Sioe Gemeg 鈥楩flach -bang鈥 Dr Robin Wheldon-Williams.
Meddai Dr Rosanna Robinson, trefnydd y Diwrnodau Ecowyddoniaeth, 鈥淒yma鈥檙 ail flwyddyn i ni gynnal y digwyddiadau yma ac unwaith eto roedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd y digwyddiadau鈥檔 canolbwyntio ar gynaladwyedd a鈥檙 amgylchedd ac roedd yr holl weithgareddau wedi eu cynllunio i gynorthwyo bioleg, cemeg a ffiseg o fewn cwricwlwm wyddoniaeth Cyfnod Allweddol 4.鈥
Profodd digwyddiad gwyddonol arall ar gyfer bobl ifanc hefyd yn llwyddiant. Trefnodd Ysgol Gwyddorau Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor a鈥檙 Bartneriaeth Ymestyn yn Uwch gyfres o weithgareddau鈥檔 ymwneud ac amaethyddiaeth ar Fferm Henfaes y Brifysgol, er mwyn dangos pwysigrwydd amaeth mewn cynhyrchu bwyd a gwarchod yr amgylchedd.
Meddai Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor, 鈥淵n aml nid yw鈥檙 sylw a roddir at ffermio yn y cyfryngau鈥檔 son am y r么l hanfodol mae鈥檙 diwydiant yn ei chwarae mewn cynhyrchu bwyd, amddiffyn yr amgylchedd a chynnal yr economi cefn gwlad.
鈥淢ae amaethyddiaeth nawr yn fwy pwysig nac erioed a gyda鈥檙 boblogaeth fydol yn tyfu鈥檔 aruthrol a bygythiad Newid Hinsawdd, mi fydd y diwydiant yn chwarae rol allweddol yn datrys rhai o鈥檔 problemau fwyaf heriol. Roedd yn wych fod y disgyblion yma wedi gallu dysgu am amaethyddiaeth drwy raglen o weithgareddau amrywiol ac rwy鈥檔 gobeithio ein bod wedi eu hysbrydoli i ystyried gyrfa o fewn y diwydiant.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2011