Ymchwil Newydd yn Anelu at Weddnewid Dulliau o Ragweld Lefelau Paill
Mae tîm o ymchwilwyr wrthi'n datblygu cenhedlaeth newydd o ddulliau o fonitro paill ac maent yn gobeithio y byddant yn arwain at ddulliau mwy dibynadwy o ragweld lefelau paill i filoedd o boblogaeth yn y DU sy'n dioddef o alergeddau haf.
I filiynau o bobl, mae'r gwanwyn a'r haf yn dod â diflastod yn eu sgil wrth iddynt frwydro yn erbyn tisian a llygaid yn cosi wrth i'w cyrff adweithio i baill. Mae tua 5% o oedolion y DU yn adrodd eu bod wedi dioddef o glefyd y gwair ac mae tua 10% yn dioddef o asthma sy'n gallu cael ei waethygu gan baill.
Ond gyda thua 150 o wahanol rywogaethau o laswellt yn y DU a dim ffordd hawdd o wahaniaethu rhwng y gwahanol ronynnau paill ar hyn o bryd, mae nodi pa rywogaeth o baill glaswellt sy'n achosi alergedd yn dasg anodd iawn.
Bydd gwybod pa rywogaethau o beilliau glaswellt sy'n uchel ar adegau penodol yn caniatáu i bobl sydd â chlefyd y gwair ac asthma reoli eu clefyd yn well trwy fod yn ymwybodol o gyfnodau peryglus a rheoli'r amser maent yn agored i effeithiau paill a chael eu meddyginiaethau wrth law.
Mae tîm o ymchwilwyr yn ceisio gweddnewid rhagolygon paill y DU trwy ddefnyddio dulliau genetig moleciwlaidd. Mae'r DU mewn sefyllfa unigryw, gan fod timau o ymchwilwyr dan arweiniad Dr Natasha de Vere yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth wedi creu llyfrgell gyfeirio DNA i blanhigion y DU. Gellir defnyddio'r llyfrgell i adnabod mwyafrif y rhywogaethau. Ar y cyd â dilyniannu DNA, gellir defnyddio cronfa ddata planhigion y DU i nodi pa rywogaethau, neu gyfuniad o rywogaethau, sy'n gysylltiedig â phyliau o asthma.
Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) wedi dyfarnu grant tair blynedd i gonsortiwm o brifysgolion i gynnal yr ymchwil, dan arweiniad Prifysgol Bangor, ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Caerwrangon a'r Swyddfa Dywydd.
Dywedodd Dr Simon Creer, y cydlynydd yn Prifysgol Bangor: "Rwyf wedi dioddef alergeddau paill am bron i 30 mlynedd ac mae gennym gyfle yn awr i ddarganfod pa rywogaethau o laswellt sy'n gysylltiedig ag un o'r ymatebion gwaethaf i alergedd, sef asthma. Mae'r grant yn cynnig cyfle cyffrous ar y cyd â datblygu technolegau newydd i fesur a modelu paill."
Rhagwelir y bydd y dull newydd yn ei wneud yn bosib rhagweld yn fanylach y cyfnodau peryglus i ddioddefwyr y clefyd, a rhoi arweiniad ynghylch pryd y gallai'r cyfnodau ddigwydd.
Ychwanegodd Dr Nick Osborne, ymchwilydd iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg a Phrifysgol Sydney, "Bydd y gwaith hwn yn galluogi ymchwilwyr iechyd i nodi'n union pa rywogaethau o baill glaswellt sy'n bresennol. Mae bod yn llawer manylach ynglŷn â'r peilliau sy'n bresennol ym mha ardaloedd a phryd, yn galluogi cleifion i reoli faint o amser maent yn agored i effeithiau paill glaswellt a sicrhau bod ganddynt feddyginiaeth ar gyfer yr effeithiau hynny. Wrth i fodelau meddygaeth personol gael eu cyflwyno yn y dyfodol, bydd y gwaith hwn yn galluogi cleifion i ddeall a rheoli eu clefydau alergaidd yn well, gan roi llai o faich arnynt hwy ac ar eu darparwyr gofal iechyd."
Gwneir yr ymchwil mewn cydweithrediad â'r elusennau Asthma UK, Allergy UK, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Gerddi Botaneg Brenhinol Caeredin, Canolfan Feddygol Prifysgol Leiden a Fera Science Ltd. (Fera).
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2015