Therap茂au canser dynol yn trin crwbanod m么r llawn tiwmorau yn llwyddiannus
Mae yn dangos y gellir defnyddio therap茂au a ddefnyddir i drin canserau mewn pobl yn llwyddiannus hefyd i drin tiwmorau sy'n debyg o ran eu geneteg mewn crwbanod m么r. Mewn gwirionedd, gall crwbanod ddod dros eu tiwmorau eu hunain a helpu gwyddonwyr i ddeall canserau dynol yn well.
Mae afiechyd, a elwir yn Fibropapillomatosis, wedi bod yn ymledu'n gyflym mewn crwbanod m么r ledled y byd. Mae'r firws fibropapillomatosis yn achosi i diwmorau mawr dyfu ar gyrff y crwbanod m么r, gan ladd rhai ohonynt.
Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd ar-lein heddiw yn Communications Biology, mae consortiwm o wyddonwyr o ddwy ochr Yr Iwerydd, dan arweiniad Prifysgol Florida, yn disgrifio ymgais lwyddiannus i ddefnyddio therap茂au a ddefnyddir i drin canser mewn pobl i drin crwbanod m么r sy'n dioddef o'r tiwmorau hyn. Fe wnaeth ymchwilwyr yr astudiaeth ddatgelu rhai rhesymau firol newydd a chliwiau ynghylch yr hyn sy'n achosi ymlediad yr afiechyd hwn, yn cynnwys cyswllt posibl rhwng tiwmorau'r crwbanod m么r a dod i gysylltiad am gyfnodau maith a phelydrau uwchfioled (UV).
Gwnaed y darganfyddiad gan ymchwilwyr Prifysgol Florida ar 么l iddynt ddechrau astudio genomeg y tiwmorau hyn i ddysgu am eu bioleg a'u hanes ac efallai adnabod triniaethau iddynt.
"Yn ystod yr ymchwil yma fe wnaethom ddarganfod ein bod wedi gweld yr un nodweddion genomaidd sylfaenol o'r blaen - a hynny mewn mathau o ganser dynol," meddai Dr David Duffy, cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor ac Athro Cynorthwyol yn Labordy Whitney Prifysgol Florida. "Bydd deall y tiwmorau hyn yn well yn helpu ein hastudiaethau i'r ffactorau sydd y tu 么l i nifer o fathau o ganser dynol."
Sesiwn holi gyda Dr. David Duffy a'r Athro Mark Martindale
Beth sydd fwyaf cyffrous ynghylch y darganfyddiadau i chi?
Y peth mwyaf cyffrous yw gallu profi y gallwn ganfod cyfrinachau a dirgelion y tiwmorau hyn mewn crwbanod m么r gan ddefnyddio dulliau oncoleg dynol. Mae'n ein galluogi i ddeall yr afiechyd yn sydyn ac adnabod ffyrdd newydd o drin ac adfer crwbanod sy'n wael. Dychmygwch fanteision cymhwyso'r math yma o wybodaeth at afiechydon eraill sy'n dod i'r amlwg mewn bywyd gwyllt.
Sut yn union y gall hyn ein helpu i gael golwg allweddol ar y sefyllfa?
Mae crwbanod m么r ledled y byd yn dal yr afiechyd hwn yn gyflym, felly rydym angen deall sut mae'n ymledu mor sydyn a sut i atal y tiwmorau rhag tyfu. Gyda dulliau meddygaeth ddynol, dim ond ychydig samplau o diwmorau sydd eu hangen i symud ymlaen yn sylweddol tuag at ymladd yn erbyn y ddau ffactor.
Mae'r crwbanod hyn eisoes mewn perygl ac yn wynebu llu o broblemau eraill o waith dyn, yn cynnwys llygredd, moroedd sy'n llawn o blastig, mynd yn sownd mewn rhwydi pysgota, cael eu taro gan gychod a cholli cynefinoedd nythu a riffiau cwrel. Y peth olaf y maent ei eisiau yw afiechyd canseraidd enbyd.
Ellwch chi ddweud ychydig mwy am y dulliau a'r dechnoleg a ddefnyddiwyd gennych?
Ar 么l tynnu rhai o'r tiwmorau firol gyda laser, fe wnaethom dynnu'r RNA allan, a defnyddio ein technolegau genomig ar gyfer dilyniannu. Rhoddodd hyn wybodaeth i ni am bob gennyn a oedd yn bresennol - miliynau o ddarlleniadau i bob sampl o filoedd o drawsgrifiadau RNA.
Fe wnaeth uwch gyfrifiaduron nodi gwahaniaethau yng ngweithgaredd genynnau rhwng y tiwmorau wedi'u heintio a meinwe nad yw'n cynnwys tiwmorau, gan ddatgelu'r genynnau sy'n gyfrifol am achosi twf tiwmorau. Drwy wneud hyn roeddem yn gallu cael hyd i'r gwendidau y gellid eu targedu gyda chyffuriau a ddefnyddir i drin canser mewn pobl ac fe welsom fod y tiwmorau roeddem yn eu hastudio yn debyg i fath o ganser y croen a geir mewn pobl, sef carsinoma cell waelodol.
Rhoddodd hyn olwg i ni ar driniaethau gyda chyffuriau newydd ac awgrymu bod dod i gysylltiad ag UV yn gallu achosi i'r afiechyd ddatblygu. Gan gydweithio 芒'r Turtle Hospital ar Marathon Key fe wnaethom ddangos bod trin crwbanod m么r a oedd yn gleifion yno gyda chyffuriau gwrth-ganser yn lleihau'n sylweddol iawn achosion o diwmorau'n ail-dyfu.
Beth yw diffygion yr astudiaeth? Beth hoffech ei wneud nesaf?
Y cam nesaf yw ehangu ein hymchwiliad i'r tiwmorau hyn ar draws ardal ddaearyddol ehangach, y tu allan i Florida, ac yna ehangu nifer y cyffuriau gwrth-ganser sydd ar gael i drin yr afiechyd hwn.
Rydym hefyd yn bwriadu astudio is-fathau o diwmorau, megis triniaethau i grwbanod m么r sy'n dioddef oddi wrth diwmorau mewnol. Ar hyn o bryd mae'n rhaid difa'r anifeiliaid hyn, ond os gallwn gymhwyso'r proffilio genomig at diwmorau mewnol yn ogystal, fe allwn bennu cyffuriau gwrth-ganser ar gyfer trin y crwbanod hynny sy'n dioddef oddi wrthynt.
Yn ddiddorol, fe wnaethom ganfod nad yw'r firws yn weithredol mewn tiwmorau sydd wedi ymsefydlu. Mae hyn wedi gwneud i ni ofyn a yw'r firws yn chwarae rhan fwy amlwg mewn tiwmorau a ffurfiodd mewn camau cynharach.
Yn olaf, mae yna gyswllt posib rhwng dod i gysylltiad ag UV a thwf tiwmorau a hoffem astudio hynny ymhellach, yn benodol os yw gwahanol raddau o ddod i gysylltiad 芒 phelydrau UV i gyfrif am wahaniaethau daearyddol rhwng poblogaethau cyfagos o grwbanod m么r.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mehefin 2018