Sut mae pengwiniaid yn defnyddio swigod i nofio at wyneb y m么r
Mae awgrym gan yr Athro Roger Hughes o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Bangor am lwybr swigod pengwiniaid wedi ei gyhoeddi yn rhifyn Tachwedd 2012 o鈥檙 cylchgrawn . Mae鈥檔 awgrymu bod y llwybr swigod a welir mewn lluniau tanddwr o bengwiniaid ymerodrol yn nofio at wyneb y m么r yn cael ei gynhyrchu i leihau llusgiad.
Meddyliodd yr Athro Hughes am y ddamcaniaeth ddiddorol hon o sut mae pengwiniaid yn dod allan o鈥檙 d诺r wrth iddo wylio'r teledu. Arweiniodd hyn yn wreiddiol at bapur ymchwil yn dangos sut yn union y mae pengwiniaid yn llwyddo i wneud hyn. Dangosodd ei gydweithwyr yng Ngholeg Prifysgol Cork a Phrifysgol Dechnegol Denmarc bod y swigod aer bach a ryddheir o dan y plu yn iro鈥檙 pengwin fel y gall fynd ar ddigon o gyflymder i neidio allan o'r d诺r i ben silff i芒.
Meddai鈥檙 Athro Hughes: "Roeddwn yn gwylio'r gyfres Blue Planet, a gwelais fod pengwiniaid ymerodrol bob amser yn cynhyrchu llwybr swigod wrth iddynt godi i neidio allan o'r d诺r. Mae'r swigod yn edrych fel llwybr awyrennau, rhywbeth yr oedd cynhyrchwyr y ffilm cart诺n, 'Happy Feet' wedi sylwi arno hefyd a鈥檌 ddefnyddio wrth i鈥檙 pengwiniaid berfformio dawns nofio gyda llwybrau swigod wedi鈥檜 cydamseru! Roedd fy ngwraig wedi bod yn s么n wrthyf am siwtiau nofio 'croen siarc' gyda gwead sy'n lleihau llusg, a meddyliais tybed a fyddai haen o swigod yn cael yr un effaith ar bengwiniaid.鈥
Teitl llawn y papur yw: Drag reduction by air release promotes fast ascent in jumping emperor penguins-a novel hypothesis.
ac mae wedi ei gyhoeddi yn: Marine Ecology Progress Series Vol. 430: 171-182, 2011
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2012