Sut cafodd y neidr ei gwenwyn
Mae gwenwyn nadredd heddiw yn gymysgedd o ddwsinau o wahanol broteinau ac mae'n enghraifft o newid esblygol - nodwedd newydd sydd wedi ymddangos mewn grŵp penodol o anifeiliaid ac sydd wedi cyfrannu at eu llwyddiant. Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn deall sut y daeth y nodweddion newydd hyn i fod er mwyn deall patrymau esblygu mwy ymhlith anifeiliaid a gall daflu goleuni pwysig ar sylfaen enetig gwahaniaethau rhwng rhywogaethau, gyda goblygiadau amlwg ar gyfer effeithiolrwydd triniaethau i bobl sydd wedi cael eu brathu gan nadredd gwenwynig, lle mae cyfansoddiad y gwenwyn yn amrywio o fewn a rhwng rhywogaethau.
Mae ymchwilwyr yn Prifysgol Bangor wedi astudio chwarennau gwenwyn a chwarennau poer, ynghyd â meinweoedd eraill amryw o ymlusgiaid gwenwynig a heb fod yn wenwynig er mwyn adnabod y prosesau esblygol sydd yn sylfaen i darddiad tocsinau gwenwyn nadredd. Mewn erthygl yn y cyfnodolyn Biology and Evolution (dyddiad cyhoeddi: 10.1093/gbe/evu166), mae Adam Hargreaves, myfyriwr PhD ym Mangor a'i oruchwyliwr Dr John Mulley, ynghyd â chydweithwyr yn a yn dangos bod y proteinau mewn gwenwyn nadredd sy'n gyfrifol am yr anaf neu'r farwolaeth sy'n dilyn brathiad yn deillio o broteinau sy'n cael eu mynegi fel rheol mewn ystod eang o feinweoedd corff, nid dim ond y chwarren wenwyn neu'r chwarren boer.
Mae'r genynnau sy'n amgodio'r proteinau hyn wedi cael eu dyblygu ar ryw adeg yn y gorffennol ac mae un o'r copïau dilynol wedi cael ei gyfyngu i'r chwarren wenwyn, lle mae dethol naturiol wedi gweithredu er mwyn datblygu neu gynyddu gwenwyndra. Mae hyn yn wahanol i'r ddamcaniaeth sefydledig bod proteinau gwenwyn yn cael eu "recriwtio" o feinweoedd y corff, yn yr ystyr bod y proteinau hyn yn cael eu mynegi eisoes yn y chwarren wenwyn neu'r chwarren boer cyn dod yn wenwynig.
Eglurodd Adam Hargreaves: "Mae ein gwaith yn dangos bod genynnau sydd wedi mynd ymlaen i ddyblygu a mwtanu i gynhyrchu tocsinau gwenwyn wedei cael eu mynegi'n hanesyddol yn llawer o feinweoedd y corff gan gynnwys chwarren boer ymlusgiaid nad oeddent yn wenwynig. Mae hyn yn wahanol i'r syniad a dderbyniwyd o'r blaen bod y genynnau'n cael eu recriwtio o wahanol feinweoedd y corff i'r chwarren wenwyn. Mae ein canlyniadau'n rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut yr esblygodd tocsinau gwenwyn mewn ymlusgiaid a gallwn ddefnyddio hyn fel man cychwyn i ddeall yn well darddiad yr addasiad esblygol rhyfeddol hwn, a hefyd i helpu ymdrechion ymchwil er mwyn datblygu triniaethau gwell i bobl sydd wedi cael eu brathu gan nadredd.
Cefnogwyd yr ymchwil gan y Gymdeithas Frenhinol, Ymddiriedolaeth Wellcome a Chynghrair y Bwiowyddorau, yr Amgylchedd ac Amaethyddiaeth rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, a chynhaliwyd dadansoddiadau gan ddefnyddio seilwaith HPC (High Performance Computing) Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Awst 2014