Pysgodyn Anferth yn Dilyn Kate
Bu i grwper 70 pwys, o鈥檙 enw Darth Vader, gymryd ffansi at fyfyriwr o Brifysgol Bangor dros yr haf.
Gwirfoddolodd Kate Cooper, 18, o Pembroke, Bermuda, yn y Bermuda Aquarium yn ystod ei gwyliau haf. Ymddangosodd y pysgodyn anferth yn hoff iawn o Kate, gan ei dilyn o gwmpas fel ci bach fel yr oedd yn glanhau y tu mewn i鈥檙 gwydr yn y tanciau pysgod.
Bu i Kate, sy鈥檔 astudio s诺oleg a chadwraeth yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol, weithio yn y Bermuda Aquarium, Museum and Zoo (BAMZ) ar 么l ennill interniaeth Ernest E.Stempel. Cymerodd ran hefyd yn y Bermuda Turtle Project, gan helpu i dagio crwbanod y m么r i olrhain eu symudiad o amgylch y m么r.
Mae'r cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Bermuda i Enethod hefyd wedi cymryd rhan yng nghwrs preswyl hanes byd natur y Bermuda Zoological Society (BZS) a鈥檙 Audubon Society ar Ynys Nonsuch. Ar 么l iddi dderbyn Gwobr Coffa Mervyn White am ragoriaeth academaidd, bu iddi helpu i gynnal y cwrs y llynedd.
Meddai: 鈥淢ae BAMZ a BZS wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi dros y pum mlynedd ddiwethaf. Rydw i wedi cael profiad ymarferol yn y maes, a sawl cyfle i siarad gyda gwyddonwyr blaenllaw.
鈥淗eb y gefnogaeth a鈥檙 cymorth gan BAMZ a BZS, efallai na fyddai gen i鈥檙 un diddordeb ag sydd gen i yn awr. Rydw i鈥檔 ddiolchgar iawn am yr ysgoloriaeth a鈥檙 profiadau a roddwyd i mi, a theimlaf y bydd yn fy helpu i ddychwelyd i Bermuda, ac ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf gobeithio.鈥
Mae鈥檙 pysgodyn anferth wedi鈥檌 enwi ar 么l y dihiryn sinistr yng nghyfres ffilmiau Star Wars.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 2012