Profi dull newydd o ddiogelu stociau pysgod y byd
Mae Nature Communications (DOI 10.1038/ncomms1845 22/05/12) yn adrodd ar offer genetig newydd pwerus a hyblyg a fydd yn gymorth i ddiogelu stociau pysgod yn Ewrop a hefyd ddefnyddwyr o Ewrop. Mae鈥檙 papur yn adrodd ar y system gyntaf y profwyd ei bod yn gallu adnabod poblogaethau rhywogaethau pysgod i safon fforensig o ddilysu.
Wrth i hyd at 25% o ddaliadau pysgod ddigwydd yn anghyfreithlon ar draws y byd, a hynny ar gost i Ewrop a fydd, yn 么l amcangyfrifon, hyd at 鈧10 biliwn erbyn 2020, roedd yr UE yn awyddus i ymdrin 芒鈥檙 problemau sy鈥檔 wynebu鈥檙 diwydiant pysgota yn Ewrop. Un fenter o bwys oedd cyllido project yr UE y tu 么l i鈥檙 datblygiad diweddaraf, sef project 3-blynedd ar draws Ewrop, ar gost o 鈧4 miliwn, o鈥檙 enw 鈥淔ishPopTrace鈥 dan arweiniad Prifysgol Bangor.
Mae鈥檙 UE eisoes wedi deddfu, er 2011, fel bod gofyn am labelu unrhyw rywogaethau pysgod a werthir yn yr UE, gan nodi math a rhanbarth eu tarddle. O 2013, bydd hefyd yn ofynnol i鈥檙 holl aelod-wladwriaethau, yn unol 芒鈥檙 un rheoliadau, gynnal astudiaethau arbrofol gan ddefnyddio offer newydd i gadarnhau dilysrwydd y labelu hwn. Ar ben hynny, mae鈥檙 cynnyrch eisoes yn wybyddus ac yn cael ei ddefnyddio. Yn y DU, mae DEFRA yn ariannu prosiect peilot i ddatblygu yr offer i helpu diwydiant pysgota'r DU i gasglu, rheoli a storio samplau i safonau fforensig.
Meddai Richard Beynon, Gweinidog dros yr Amgylchedd Naturiol a Physgodfeydd:
鈥淣id yn unig mae pysgota anghyfreithlon yn ddwyn oddi ar bysgotwyr cyfrifol a chymunedau pysgota, mae'n cael effaith ddinistriol hefyd ar y pysgod yn ein moroedd a chefnforoedd. Rwyf wrth fy modd yn gweld project mor arloesol a chwyldroadol 芒 FishPopTrace yn dwyn ffrwyth. Bydd gwarchod ein moroedd a'n pysgotwyr gonest rhag y gamdriniaeth yma yn gamp eithriadol ac rwyf yn hyderus y bydd y dechnoleg yn profi鈥檔 hynod werthfawr yn yr ymdrechion i sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy yn fyd-eang.鈥
Fel yr eglura鈥檙 Athro Gary Carvalho, a fu鈥檔 arwain consortiwm FishPopTrace yr UE sydd y tu 么l i鈥檙 offer dilysu newydd:
鈥淧roblem fawr ar hyn o bryd yw na fu modd profi o鈥檙 blaen union darddle unrhyw bysgod penodol ac, mewn rhai amgylchiadau, yn benodol yn achos pysgod sydd wedi鈥檜 prosesu neu eu coginio, gall fod yn eithaf anodd hyd yn oed adnabod y rhywogaeth, heb s么n am ei tharddle.
鈥淎ethom ati i ddatblygu dull y gellid ei ddefnyddio ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd ac ar draws y diwydiant pysgod, ac rydym wedi dangos ei effeithiolrwydd o ran pedair rhywogaeth sy鈥檔 gyffredin yn Ewrop, sef Penfras yr Iwerydd, Pennog yr Iwerydd, y Lleden Chwithig Cyffredin a鈥檙 Gegddu Ewropeaidd, a phob un ohonynt dan fygythiad o orbysgota ac o bysgota anghyfreithlon sydd neb ei gofnodi na鈥檌 reoleiddio (IUU). Gellir defnyddio鈥檙 offeryn i adnabod neu gymharu cyfres o nodau genynnol a nodwyd ymlaen llaw o fewn samplau o bysgod, a hynny ar unrhyw adeg yn ystod y gadwyn ddefnyddwyr, o鈥檙 rhwyd hyd at y pl芒t, ac i olrhain y pysgod i鈥檞 tarddle neu i鈥檞 gr诺p bridio. Gellir defnyddio鈥檙 offer hynny, sy鈥檔 seiliedig ar DNA, ochr yn ochr 芒 thechnolegau presennol, megis labeli confensiynol ond, yn bwysig, maent yn darparu dull annibynnol a chadarn o gynnal profion dilysrwydd ad hoc.鈥
鈥淢ae鈥檙 offer hyn hefyd yn hyblyg dros ben. Rydym eisoes wedi canfod nodweddion poblogaethau unigol mawr o bysgod 鈥 megis Penfras yr Iwerydd yn hytrach na Phenfras y Baltig, ond mae鈥檙 system yn ddigon nerthol fel y gellir adnabod pysgod o leoliadau daearyddol llawer llai os oes angen. Yn yr un modd, gellir datblygu鈥檙 system i鈥檞 defnyddio ar unrhyw rywogaethau o bysgod.
Ymhell o fod yn ddull o gosbi, cynorthwyo鈥檙 diwydiant pysgota yw鈥檙 ethos y tu 么l i ddefnydd yr offer hynny, gan roi mwy o sicrwydd iddynt yngl欧n 芒 tharddiad a statws cadwraeth y pysgod a ddelir. Mae gan yr offer ddefnyddiau o ran dilysu amryw o systemau eco-ardystio ac eco-labelu a ddefnyddir ar hyn o bryd, ond nad ydynt wedi鈥檜 dilysu i raddau helaeth. Bydd gan y rheiny sydd 芒鈥檙 cyfrifoldeb o sicrhau cadwraeth a chynaladwyedd ein stociau pysgod fodd llawer mwy dibynadwy, nid yn unig i adnabod poblogaethau sydd mewn perygl neu鈥檔 ffynnu, ond hefyd system sydd wedi鈥檌 dilysu鈥檔 fforensig, y gellir ei defnyddio i brofi dilysrwydd ar unrhyw adeg yn ystod y gadwyn gyflenwi, er mwyn gweithredu ar y ddeddfwriaeth berthnasol.
Yn olaf ond nid yn lleiaf, bydd defnyddwyr yn gallu prynu pysgod, yn ffyddiog eu bod yn prynu neu鈥檔 bwyta鈥檙 cynnyrch a ddisgrifir ar y label neu鈥檙 fwydlen, a bod y nwyddau y maent wedi鈥檜 prynu鈥檔 dod o stociau cynaliadwy o bysgod.
A鈥檙 canlyniadau wedi鈥檜 dilysu, pan g芒nt eu cyflwyno, gallwn ddisgwyl i fwy o achosion ddod gerbron llysoedd Ewrop, wedi鈥檜 hategu gan dystiolaeth fforensig, yn yr un modd ag y defnyddir fforenseg fel tystiolaeth mewn troseddau dynol.
Daw Carvalho i ben gan ddweud: 鈥淢ae pysgota anghyfreithlon nad yw wedi鈥檌 reoleiddio wedi chwarae rhan fawr yn y broses o orddefnyddio poblogaethau pysgod yn fyd-eang. Wrth i鈥檙 offer hyn wella鈥檙 dechnoleg hon a chael eu defnyddio鈥檔 arloesol yn Ewrop, mae鈥檙 offer newydd hyn yn ffordd newydd ymlaen yn y gwaith o reoli adnoddau pysgod yn fyd-eang, a byddant yn chwyldroi dulliau o bennu tarddle ac yn dod yn offer gwerthfawr iawn yn yr ymgyrch yn erbyn pysgota anghyfreithlon a cham-labelu ar raddfa fyd-eang.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012