Prifysgol Bangor yn dod â chyllid ymchwil Ewropeaidd sylweddol i ogledd Cymru
Codwyd cyllid ymchwil gwerth bron i £10 miliwn gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor o raglen cyllid ymchwil yr Undeb Ewropeaidd gan Brifysgol Bangor, ac mae'r brifysgol yn disgwyl gwella'r canlyniadau hyn yn rhaglen ymchwil ac arloesi newydd Ewrop.
Llwyddwyd i ariannu pedwar deg dau o brif brojectau ymchwil Ewrop-gyfan dan arweiniad academyddion Prifysgol Bangor, yn wyneb cystadleuaeth gref yn FP7, sef seithfed Raglen Fframwaith Ymchwil y Comisiwn Ewropeaidd a gynhaliwyd o 2007 tan 2013.
Yn y ffrwd gyllido ymchwil newydd sydd wedi bod yn rhedeg ers blwyddyn, mae'r brifysgol wedi gwneud ceisiadau uwch na'r rhai blaenorol am brojectau ymchwil gan gyflwyno ceisiadau gwerth dros £15 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Mae nifer o'r ceisiadau hyn yn mynd rhagddynt yn dda ac mae'r brifysgol yn edrych ymlaen at ddechrau'r projectau cyntaf yn seiliedig ar y ceisiadau hyn.
Meddai’r Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor, gan egluro arwyddocâd y canlyniad:
"Mae staff Prifysgol Bangor yn amlwg yn cydweithio gyda phrif dimau ymchwil ar draws Ewrop, ac yn gwneud gwaith o berthnasedd a phwysigrwydd rhyngwladol.
"Mae ein staff yn arbennig o dda am ennill y grantiau hyn, roedd cyfradd llwyddiant y brifysgol ar draws bob un o'r FP7 dros 30%, gyda chyfradd llwyddiant gyfartalog y rhaglen tua 19%. Mae'r canlyniad hwn yn dangos bod y brifysgol yn gysylltiedig â chynigion ansawdd uchel ac yn ymuno â sefydliadau partner ardderchog.
Aeth yn ei flaen: "2014 oedd flwyddyn gyntaf Horizon 2020, y rhaglen Ewropeaidd oedd yn olynu FP7. Mae'r brifysgol eisoes wedi cyflwyno rhagor o gynigion nag y cyflwynwyd yn y flwyddyn gyntaf o'r FP7, ac mae'r rhain yn gwneud cyfanswm o dros £15 miliwn. Edrychwn ymlaen at barhau ein cysylltiad llwyddiannus â'r rhaglen gyllid hon, sy'n cael blaenoriaeth uchel gan lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.
"Hoffwn ddiolch a llongyfarch yr holl staff sydd wedi gweithio'n galed ym Mhrifysgol Bangor i baratoi'r cynigion ymchwil ar y cyd hyn. Mae ein cyfradd llwyddiant uchel yn sail i'r rhagoriaeth a'r profiad sydd gennym ymhlith ein staff."
Mae'r projectau llwyddiannus yn cynnwys project rhyngwladol, , dan arweiniad yr Athro Gary Carvalho yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol. Datblygodd y projectau ddulliau i ddiogelu stociau pysgod rhyngwladol, trwy ddatblygu ffyrdd newydd o olrhain pysgod sydd wedi'u dal a galluogi'r awdurdodau sy'n gyfrifol am fonitro pysgota masnachol i nodi lle dalwyd y pysgod.
Arweiniwyd gan yr Athro Peter Golyshin yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol. Roedd y partneriaid ymchwil a masnachol rhyngwladol yn astudio microbau morol i asesu'r potensial i dynnu neu gynhyrchu cemegau mân, gwrthocsidyddion a chyffuriau gwrth ganser.
Enillodd yr Athro Guillaume Thierry yn yr Ysgol Seicoleg anrhydeddus iawn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd gan roi’r grŵp ymchwil mewn lle blaenllaw yn ei faes. Nod ei broject ymchwil oedd ceisio deall sut y mae’r ymennydd dynol yn llunio cynrychiolaeth ystyrlon o’r byd o’n cwmpas. Edrychodd y project rhyngddisgyblaethol ar y cwestiwn hwn o safbwynt datblygiad plant rhwng 12 a 36 mis oed, ac oedolion uniaith a dwyieithog pan gyflwynir wybodaeth geiriol a di-eiriau iddynt. Un nod oedd cyhoeddi o leiaf 14 cyhoeddiad o safon rhyngwladol ac erbyn diwedd y project cofnodwyd 47 cyhoeddiad fel allbwn.
Mae'r Athro James Scourse yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion yn arwain 11 o sefydliadau partner mewn yn edrych ar yr hyn y gall cylchoedd tyfu cregyn môr ddweud wrthym am newidiadau hanesyddol yn yr hinsawdd. Mae’r project hwn yn hyfforddi grŵp o ymchwilwyr arbenigol mewn newid yn yr hinsawdd at lefel PhD.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014