Penodi Athro鈥檔 Gadeirydd Gweithgor Rhyngwladol
Mae鈥檙 Athro Gary Carvalho o y Brifysgol yn Gadeirydd ar weithgor ar gyfer Cyngor Rhyngwladol Ar Archwilio鈥檙 Moroedd (The International Council for the Exploration of the Sea 鈥 ICES). Mae i gadeirio鈥檙 gweithgor ar Gymhwyso Geneteg mewn Pysgodfeydd a Bywyd M么r ( 鈥 WGAGFM) am dair blynedd o 1 Ionawr 2015.
Mae ICES yn rhoi ystyriaeth i鈥檙 modd y mae gweithgareddau pobl yn effeithio ar yr ecosystem yn y m么r, ac ar y modd y mae鈥檙 ecosystem, yn ei thro, yn effeithio ar weithgareddau pobl. Drwy wneud hyn, mae ICES yn sicrhau bod y wyddoniaeth orau ar gael, fel y gall y rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau benderfynu鈥檔 wybodus ar ddefnydd cynaliadwy ar yr amgylchedd a鈥檙 ac ecosystemau morol.
Mae nifer o鈥檌 weithgareddau鈥檔 cael eu trefnu yng nghyswllt gwahanol weithgorau sy鈥檔 ystyried materion penodol yn ymwneud 芒 rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau morol.
Fel Athro Ecoleg Foleciwlaidd, mae鈥檙 Athro Gary Carvalho, sydd yn gweithio yn Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol, yn ddelfrydol ar gyfer y r么l newydd. Mae鈥檔 arbenigwr blaenllaw ym maes geneteg pysgodfeydd. Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau rhaglenni ymchwil ar raddfa fawr a gyllidwyd gan yr i ddefnyddio technegau geneteg i warchod pysgod a physgodfeydd.
Mae Gweithgor ICES ar Gymhwyso Geneteg mewn Pysgodfeydd a Bywyd M么r (WGAGFM), yn ystyried sut y gall egwyddorion a chymwysiadau mewn geneteg gyfrannu at y broses o reoli adnoddau pysgodfeydd a ddefnyddir.
Esbonia鈥檙 Athro Carvalho:
鈥淐eir mwyfwy o ymwybyddiaeth o鈥檙 posibiliadau o ddefnyddio offer geneteg fel 鈥榯agiau鈥 ar gyfer dilyn pysgod a chynnyrch pysgod ac i adnabod unigolion a phoblogaethau o bysgod yn ogystal 芒鈥檙 r么l fwy sylfaenol ond hanfodol yng nghyswllt cadwraeth adnoddau genetig.
Wedi鈥檌 chyfuno, mae鈥檙 wybodaeth hon yn chwarae r么l bwysig mewn hybu gwydnwch ac adferiad poblogaethau a ddefnyddir. Dim ond drwy adnabyddiaeth a monitro deallus o鈥檙 amrywiaeth yn y boblogaeth, yn enwedig y nodweddion hynny a bennir yn enynnol, y bydd modd datblygu strategaethau i fwyafu a chadw adnoddau genynnol, fel y bydd modd ymaddasu i newid amgylchedd.鈥
Mae Gary Carvalho yn aelod o Weithgor ICES ers ugain mlynedd ac wrth ei fodd i gael y cyfle i gyfrannu at genhadaeth ICES yn y blynyddoedd i ddod.
Yn ogystal 芒 chytgordio cyfraniad at Weithgareddau eraill gan ICES, mae Cadeirydd y gweithgor hefyd yn gyfrifol am y Cyfarfod Blynyddol, yn ogystal ag am ddatblygu llwyfannau ar gyfer ymwneud 芒 rhaglen hyfforddiant ICES a鈥檌 Symposia Gwyddonol Blynyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015