Mae angen gweithredu ar frys er mwyn atal newidiadau genetig di-droi鈥檔-么l mewn stociau pysgod
Os ydym yn dymuno cynnal stociau pysgod fel ffynhonnell bwyd i鈥檙 byd i gyd, yna rhaid i bysgodfeydd a rheolwyr cadwraeth gymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd sy鈥檔 dangos sut mae gorbysgota'r pysgod mwy mewn poblogaeth yn newid y pwll genynnau o blaid pysgod llai, llai ffrwythlon.
Mae鈥檙 gymuned bysgota yn ymwybodol ers dros ganrif bod maint pysgod unigol wedi bod yn lleihau, ac wrth i鈥檙 ganrif fynd rhagddi, mae gwyddonwyr wedi nodi bod y pysgod hyn yn tyfu鈥檔 arafach a bod benywod llai yn cynhyrchu llai o rai bach na鈥檜 rhagflaenwyr. Mae'r gymuned wyddonol yn anghytuno ar y rheswm am hyn. Mae un ddamcaniaeth, a gynigiwyd yn gyntaf ar ddechrau鈥檙 ganrif hon, yn dweud mai pysgota sydd yn symbylu esblygiad, hynny yw, mai 'r ffaith ein bod yn tynnu'r pysgod mwyaf o'r poblogaethau sy'n ysgogi newid esblygol. Yr ysgol arall o feddwl yw bod y newidiadau'n digwydd mewn ymateb i ffactorau amgylcheddol, megis newidiadau yn y cyflenwad bwyd.
Mae papur yn Frontiers in Ecology and the Environment (ar gael ar-lein 18.3.13) dan arweiniad genetegyddion ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniadau gan Brifysgol East Anglia, Prifysgol y West Indies a Sefydliad Bioleg Ddatblygol Max-Planck, wedi profi am y tro cyntaf bod y newid hwn yn y DNA tuag at bysgod llai yn digwydd, ac o fewn cyfnod amser cymharol fyr sef ychydig genedlaethau.
Mae鈥檙 astudiaeth, a gynhaliwyd mewn labordy gan ddefnyddio pysgodyn trofannol model, sef gypi Trinidad, yn efelychu amodau pysgota yn y gwyllt, ac er bod astudiaethau blaenorol wedi gweld yr un canlyniadau, sef lleihad ym maint pysgod dros genedlaethau, roedd yr astudiaeth hon hefyd yn cynnwys adolygiad trylwyr o DNA poblogaethau pysgod, ac yn enwedig, genynnau a gysylltir 芒 rheoleiddio twf, trwy鈥檙 cenedlaethau. Mae鈥檙 newid yn y DNA sy鈥檔 gysylltiedig 芒 thwf (er nad oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol eraill yn y DNA - sy'n cau allan mewnfridio neu newidiadau ar hap) yn profi bod newid ym maint y corff a'i aeddfedrwydd yn ymateb esblygol i orbysgota. Mae鈥檔 debyg bod yr hyn a welwyd o dan amodau labordy eisoes wedi digwydd mewn nifer helaeth o ardaloedd pysgota masnachol.
Mae modelu ystadegol wedi awgrymu eisoes y gallai gymryd rhwng pump a deg gwaith hirach i'r stociau pysgod ymadfer ar 么l newid yn eu DNA nag i ymadfer ar 么l y gorbysgota - os bydd yn bosib i鈥檙 boblogaeth ymadfer o gwbl ac adennill yr holl amrywiaeth o DNA. Mae hyn yn golygu fwy na thebyg bod yr amcangyfrifon presennol o ba mor gyflym y bydd pysgodfeydd masnachol yn ymadfer ar 么l dirywiad a gorbysgota yn llawer rhy obeithiol. O ran pysgod fel ffynhonnell bwyd, nid yn unig y mae newidiadau genetig o鈥檙 fath yn creu'r angen i gynaeafu mwy o bysgod llai unigol i gael yr un nifer o dunelli, ond mae鈥檔 cael effaith hefyd ar y gymuned forol ehangach a'r amgylchedd.
Eglurodd yr Athro Gary Carvalho, o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol Bangor: 鈥淢ae ein canfyddiadau yn taflu goleuni newydd a phwysig ar gynaliadwyedd poblogaethau sy'n cael eu cynaeafu. Mae鈥檙 newid yng nghyfansoddiad genetig pysgod a gynaeafir tuag at unigolion llai a llai ffrwythlon yn creu canlyniadau difrifol i鈥檙 amgylchedd a鈥檙 diwydiant pysgota ledled y byd.
"Rydym yn annog y gymuned wyddonol, gwneuthurwyr polisi a rheolwyr i ystyried gallu stociau i ymaddasu i gynaeafu ac ysglyfaethwyr ac ymadfer o hynny..
鈥淩ydw i鈥檔 argymell dyfeisio strategaethau i ymateb i liniaru effeithiau pysgota dwys trwy newid maint y pysgod a ddelir o bryd i鈥檞 gilydd, trwy amddiffyn stociau sy鈥檔 cael eu gorbysgota a thrwy newid dwysedd pysgota yn y gwahanol ranbarthau. Rhaid wrth strategaeth gyfunol i leihau effaith gyffredinol pysgota ac i annog ailsefydlu stociau鈥檔 naturiol.鈥
鈥淓r mwyn rheoli鈥檔 llwyddiannus yr adnoddau a gynaeafir, mae鈥檔 hollbwysig ein bod yn defnyddio dulliau genomeg poblogaethau i ganfod a lliniaru effeithiau genetig andwyol dethol y pysgod i鈥檞 cynaeafu. Gyda鈥檌 gilydd, mae ein canfyddiadau鈥檔 amlygu pwysigrwydd datblygu mapiau genetig dwysedd uchel a dulliau genomig o asesu effaith esblygol cynaeafu dethol yn y gwyllt鈥 meddai.
Gwnaethpwyd llawer o鈥檙 gwaith gan Serinde van Wijk sydd yn astudio ar gyfer doethuriaeth wedi ei chyllido gan Brifysgol Bangor. Eglurodd:
鈥淢ae鈥檔 bosib bod ein hymdrechion i ddiogelu cymunedau pysgod trwy reoleiddio maint y pysgod y gellir pysgota amdanynt, a thrwy gymryd y pysgod mwy yn benodol yn cael effaith wahanol i鈥檙 hyn a fwriadwyd. Yn ogystal 芒 cholli'r gallu i gynhyrchu pysgod mawr a ffrwythlon, gall poblogaethau pysgod unigol fod mewn peryg hefyd o golli addasiadau penodol eraill trwy bysgota dethol, megis addasiadau i nodweddion lleoliadau penodol, megis d诺r oerach neu lwybrau ymfudo. Gall colli鈥檙 鈥榤athau' genetig hyn olygu na fydd poblogaethau byth yn gallu ymadfer yn llwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013