Gwyddonwyr lleol ac athrawon yn uno i ddod 芒鈥檙 wyddoniaeth ddiweddaraf i Ysgol Uwchradd Bodedern
Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern (YUB), sydd yn gweithio ar broject gwyddonol arloesol ar newid hinsawdd, wedi bod yn ymweld 芒 Phrifysgol Bangor i weithio yn y labordai, fel rhan o鈥檜 project: Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew.
Mae gwyddonwyr o Prifysgol Bangor wedi bod yn arwain y project o dan Grant Partneriaeth gan Y Gymdeithas Frenhinol, sef academi wyddoniaeth genedlaethol y DU. Maent wedi bod yn gweithio efo鈥檙 disgyblion ers mis Medi. Mae鈥檙 project wedi bod yn cyflwyno i鈥檙 disgyblion effeithiau newid hinsawdd ar anifeiliaid m么r mewn rhan o鈥檙 byd lle mae newid amgylcheddol yn fygythiad arbennig i fioamrywiaeth a chynefinoedd.
Mae鈥檙 disgyblion o Flwyddyn 10, sydd rhwng pedair ar ddeg ac un ar bymtheg oed, wedi derbyn yr her o lunio a phrofi damcaniaethau ynghylch newid hinsawdd, ac edrych sut y gellir defnyddio cymysgedd o dystiolaeth fiolegol a ffisegol yn ymwneud ag amodau m么r i asesu effeithiau ar bysgod rhew yr Antarctig a鈥檙 gymuned forol ehangach.
Ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr, buont yn profi rhai o鈥檙 damcaniaethau hyn yn Labordy Ecoleg Foleciwlaidd a Geneteg Pysgodfeydd yng Nghanolfan Amgylcheddol Cymru.
Oherwydd newid hinsawdd, disgwylir i dymereddau uwch leihau goroesiad a dosbarthiad larfau pysgod mewn dyfroedd m么r, oherwydd gall twf cyflymach achosi i bysgod ifanc lwgu i farwolaeth cyn iddynt gyrraedd y rhannau o鈥檙 m么r lle byddant yn tyfu. Bydd y disgyblion yn defnyddio鈥檙 offer genetig diweddaraf (math o 鈥榖roffilio genetig鈥) a microsgopeg uwch i bennu oedran pysgod ifanc er mwyn archwilio tebygolrwydd a thystiolaeth dros effeithiau o鈥檙 fath dan amrediad o dymereddau dynwaredol.
Mae鈥檙 ymweliad yn dilyn arddangosiadau a gwaith labordy i鈥檙 disgyblion yn Ysgol Bodedern. Bydd y disgyblion hefyd mewn cyswllt, drwy podlediadau a chysylltiadau fideo, efo gwyddonwyr y British Antarctic Survey yn King Edward Point, De Georgia at ddiwedd 2013.
Yn dilyn y gweithgareddau hyn, bydd disgyblion uwchradd o YUB yn defnyddio鈥檙 technegau a鈥檙 wybodaeth a g芒nt o鈥檙 bartneriaeth 芒鈥檙 Brifysgol i lunio ymarfer pontio i ddisgyblion Blwyddyn 6 (cynradd) o ysgolion cynradd lleol (yn cynnwys Ysgol Gymuned Bryngwran, Ysgol Cylch Y Garn Llanrhyddlad, Ysgol y Ffridd Gwalchmai, Ysgol Gymuned Llannerchymedd, Ysgol Pencarnisiog, Ysgol Gynradd Bodedern, Ysgol Gynradd Llanfachraeth, Ysgol Ffrwd Win Llanfaethlu, Ysgol Gymraeg Morswyn, Caergybi) yn ystod tymor yr haf. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad yng Ng诺yl Wyddoniaeth Bangor ym Mawrth 2013 .
Mae鈥檙 Athro Gary Carvalho, Athro Ecoleg Foleciwlaidd, a Dr Mark de Bruyn, gwyddonydd ymchwil 么l-ddoethurol ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 Lyndell Williams, Pennaeth Bioleg yn Ysgol Bodedern, o Fedi 2012 a byddant yn parhau tan Ebrill 2014.
Dywedodd yr Athro Carvalho: 鈥淢ae鈥檙 project yn rhoi bywyd i鈥檙 hyn mae disgyblion yn ei ddysgu yn y dosbarth a鈥檜 helpu i ddeall effaith gwyddoniaeth ar eu gweithgareddau dyddiol. Trwy wneud y pynciau hyn yn berthnasol gallwn ddangos pa mor allweddol ydynt i鈥檔 bywydau.鈥
Meddai Mrs Annwen Morgan, pennaeth Ysgol Uwchradd Bodedern: 鈥淔el ysgol rydym yn falch iawn o gael ymwneud 芒鈥檙 project yma ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgol Bangor. Mae鈥檙 project yn cynnig cyfle i bobl ifanc gyfarfod 芒 gwyddonwyr lleol a gweithio 芒 hwy ac mae鈥檔 eu galluogi i ddatblygu eu dealltwriaeth wyddonol mewn ffordd sy鈥檔 gyffrous, yn wreiddiol a pherthnasol i鈥檞 bywydau.
Meddai鈥檙 Athro John Pethica FRS, Is-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol, 鈥淩ydym yn falch o gael cefnogi鈥檙 project Antarctica, Newid Hinsawdd a Physgod Rhew yn Ysgol Uwchradd Bodedern, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y project cyffrous yma鈥檔 dod yn fyw dros y misoedd i ddod.鈥
鈥淢ae gwyddoniaeth a pheirianneg yn bynciau cyffrous a deinamig a thrwy roi cyfle i athrawon gyflwyno gwyddoniaeth arloesol, ein gobaith yw y gallwn helpu i ddangos i bobl ifanc gymaint o hwyl y gall y pynciau hyn fod mewn bywyd go iawn, a鈥檜 hysbrydoli i ddod yn ddyfeiswyr, fforwyr ac arloeswyr y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2012