Gallai tarfu ar gloc corff pysgod fod yn niweidiol i'w hiechyd
Mae’r gwaith yma gan ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bangor, Caerdydd ac Aberystwyth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Microbiome, yn dangos pa mor bwysig yw deall “cronofioleg” anifeiliaid i gynnal eu hiechyd.
Eglura'r awdur arweiniol Dr Amy Ellison, darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor:
“Mae gan frithyll seithliw rythmau dyddiol neu 'circadaidd' yn eu gweithgaredd imiwn ac mae'n ymddangos bod y rhythmau hyn yn newid cyfansoddiad y cymunedau microbaidd sy'n byw ar eu croen dros gylchredau dydd-nos. Mae'r 'microbiomau' hyn ar grwyn pysgod yn llinell amddiffyn gyntaf rhag parasitiaid a phathogenau goresgynnol, felly gallai hyn fod yn bwysig iawn i'w hiechyd."
“Canfuom fod magu pysgod o dan olau parhaus yn cael effaith ddifrifol ar amseriadau eu system imiwnedd a’u microbiomau. Mae’n destun pryder bod pysgod o dan olau cyson a heintir â llau croen parasitig yn llai abl i gael gwared ar yr haint.”
Mae llau croen yn broblem eang mewn dyframaeth. Datgelodd yr ymchwil hefyd fod heintiau llau yn creu newid sylweddol i gymunedau microbaidd croen brithyll, gan gynyddu nifer y bacteria pathogenig.
Dywedodd y cydawdur yr Athro Jo Cable o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd:
“Dyma’r astudiaeth gyntaf i edrych ar rythmau dyddiol microbiomau pysgod. Mae diddordeb cynyddol yn y diwydiant dyframaeth mewn cynnal microbiomau 'iach' mewn pysgod a ffermir i wella eu gallu i wrthsefyll afiechydon. Serch hynny, gallai arferion ffermio cyfredol arwain at ganlyniadau anfwriadol i iechyd pysgod.”
Ychwanegodd y cydawdur Dr David Wilcockson o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth:
“Mae cronotherapïau - amseriad dyddiol priodol brechlynnau a thriniaethau eraill - yn dechrau chwyldroi meddygaeth ddynol. Ond nid yw hyn wedi'i gymhwyso eto i anifeiliaid a ffermir. Mae ein hastudiaeth yn codi'r posibilrwydd o allu defnyddio dulliau tebyg i helpu i gynnal iechyd a lles pysgod mewn ffermydd."
Mae'r astudiaeth hon yn rhan o broject a ariennir gan gymrodoriaeth Discovery y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol i ymchwilio i gronobioleg pysgod, eu parasitiaid a'u microbiomau.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Tachwedd 2021